- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Wedi'i wneud
26 Mawrth 2003
Yn dod i rym
31 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 31 Mawrth 2003.
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Prif Orchymyn” yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(2).
3. Yn erthygl 1(2) o'r Prif Orchymyn rhoddir y geiriau “1 Awst 2003” yn lle “1 Ebrill 2003”.
4. Yn lle is-baragraff (2)(a) o erthygl 7 o'r Prif Orchymyn, rhoddir yr is-baragraff canlynol —
“(a)a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei farcio yn unol â rheoliad 7(4) neu (5) neu reoliad 14 o Reoliadau 2000; neu”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003
E. A. Morley
Is-Ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
27 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn yn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2302 (Cy.227)) (“y Prif Orchymyn”).
Mae'r Gorchymyn yn diwygio'r dyddiad pan fydd effaith y Prif Orchymyn yn darfod (o 1 Ebrill 2003 i 1 Awst 2003) (erthygl 3) a chywiro camgymeriad testunol a gyflwynwyd gan y Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/167 (Cy.27)) (erthygl 4).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i “the Ministers” (yn ôl y diffiniad yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau eu bod yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd “the Ministers” a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn cysylltiad â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd pob swyddogaeth y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).
O.S. 2002/2302 (Cy.227), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/167 (Cy.27) .
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: