Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Gweinyddu Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 973 (Cy.132)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Gweinyddu Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

1 Ebrill 2003

Yn dod i rym

1 Mehefin 2003

O ran ardaloedd cofrestru yng Nghymru, gan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn nad yw bellach yn briodol bod penodi, talu a gweinyddu swyddogion rhenti yn un o swyddogaethau awdurdodau lleol(1);

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 64B o Ddeddf Rhenti 1977(2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweinyddu Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Mehefin 2003 .

(2Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw'r corff a oedd yn cyflogi'r cyflogai perthnasol yn union cyn y dyddiad trosglwyddo;

ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw person y mae ei gontract cyflogaeth i'w drosglwyddo gan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhenti 1977(3);

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Mehefin 2003; ac

ystyr “Rheoliadau 1981” (“the 1981 Regulations”) yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981(4).

Diddymu cynlluniau o dan adran 63 o Ddeddf Rhenti 1977 yng Nghymru

2.—(1Bydd unrhyw gynllun wedi'i wneud o dan adran 63 o'r Ddeddf, mewn perthynas â Chymru, a oedd yn bod yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn peidio â bod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.

(2Rhaid peidio â gwneud cynllun o dan adran 63 o'r Ddeddf ar gyfer unrhyw ardal gofrestru yng Nghymru.

Trosglwyddo Staff

3.  Bydd contract cyflogaeth rhwng y corff perthnasol ac

(a)pob swyddog rhenti; a

(b)pob aelod o staff gweinyddol yn y corff perthnasol a gyflogir yn narpariaeth gwasanaeth y swyddogion rhenti,

a gyflogid yn barhaus gan y corff perthnasol yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, ac eithrio unrhyw staff a wrthwynebodd drosglwyddo eu contractau cyflogaeth yn unol â Rheoliad 5(4A) o Reoliadau 1981, yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai perthnasol a'r Cynulliad Cenedlaethol.

4.  Heb ragfarn i erthygl 3:

(a)yn ddarostyngedig i baragraffau (ch) i (e) isod, trosglwyddir i'r Cynulliad Cenedlaethol bob hawl, pŵer, dyletswydd a rhwymedigaeth y corff perthnasol o dan gontract cyflogaeth y mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, neu mewn cysylltiad ag ef, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, o'r dyddiad trosglwyddo;

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (ch) i (e) isod, caniateir i unrhyw beth a wneid cyn y dyddiad trosglwyddo, gan, i neu mewn perthynas â chyflogai perthnasol ynglŷn â chontract cyflogaeth barhau i gael ei wneud, ar ôl y dyddiad hwnnw gan, i neu mewn perthynas â'r person hwnnw;

(c)yn ddarostyngedig i baragraffau (ch) i (e) isod, bernir bod unrhyw beth a wneid cyn y dyddiad trosglwyddo gan, i neu mewn perthynas â chorff perthnasol ynglŷn â chontract cyflogaeth neu gyflogai perthnasol, wedi'i wneud gan, i neu mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad trosglwyddo;

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (d), pan wnaed penodiad cyflogai perthnasol yn ddarostyngedig i hawliau, rhwymedigaethau, pwerau a dyletswyddau, mae unrhyw un o'r hawliau, y rhwymedigaethau, y pwerau a'r dyletswyddau hynny a fodolai yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn parhau i fodoli;

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (dd), trosglwyddir pob un o hawliau, rhwymedigaethau, pwerau a dyletswyddau y sywddog priodol neu'r corff perthnasol y bu penodiad cyflogai perthnasol yn ddarostyngedig iddo, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol er mwyn galluogi eu cymhwyso mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol yn lle'r swyddog priodol, neu yn ôl fel y digwydd, y corff perthnasol;

(dd)nid yw paragraff (d) yn trosglwyddo nac yn effeithio fel arall —

(i)ar rwymedigaethau unrhyw berson sydd i'w erlyn am unrhyw dramgwydd, sydd i'w gollfarnu ohono a'i ddedfrydu o'i herwydd neu

(ii)ar rwymedigaethau unrhyw berson i dalu iawndal i gyflogai perthnasol neu mewn perthynas ag ef a'r rheini'n rhwymedigaethau sy'n codi o unrhyw beth a wnaed, neu fethiant â'i wneud, cyn y dyddiad trosglwyddo, ac

(e)nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n effeithio ar unrhyw hawl sydd gan gyflogai perthnasol i derfynu ei benodiad ond nid yw'r hawl honno yn codi oherwydd y trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol y mae'r Gorchymyn hwn yn ei beri.

Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau

5.—(1Trosglwyddir yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd y cyrff perthnasol â hawl iddynt neu yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo mewn cysylltiad â gwasanaeth y swyddogion rhenti i'r Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad trosglwyddo.

(2At ddibenion erthygl 5(1), nid yw'r term eiddo yn cynnwys tir neu adeiladau neu unrhyw fuddiant mewn tir neu adeiladau.

Penodiadau, taliadau, pensiynau, lwfansau ac arian rhodd swyddogion rhenti

6.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)penodi a thalu swyddogion rhenti;

(b)penderfynu ar dâl swyddogion rhenti gan ystyried unrhyw sylwadau oddi wrth bersonau y mae'n eu derbyn yn gynrychiolwyr swyddogion rhenti; ac

(c)talu, neu pan fydd yn briodol, sicrhau bod y pensiynau, y lwfansau a'r arian rhodd yn cael eu talu i swyddogion rhenti neu mewn perthynas â hwy yn unol â'u statws fel gweision sifil a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol ac yn unol ag adran 1 o Ddeddf Blwydd-dal 1972(5) neu gynllun wedi'i wneud o dan yr adran honno.

Gweinyddu swyddogion rhenti

7.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)darparu ystafelloedd ac offer swyddfa a chymorth clerigol a chymorth arall ar gyfer swyddogion rhenti;

(b)dyrannu gwaith rhwng swyddogion rhenti; ac

(c)goruchwylio ymddygiad swyddogion rhenti.

(2Rhaid i swyddogion rhenti gyflawni'r dyletswyddau swyddogion rhenti y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfarwyddo i'w cyflawni.

Cymhwyso rheoliadau 1981

8.—(1Rhaid trin y cyflogeion perthnasol yn yr un modd â chyflogeion at ddibenion Rheoliadau 1981 o dan amgylchiadau pan fydd Rheoliadau 1981 yn gymwys.

(2Rhaid trin pob corff perthnasol a'r Cynulliad Cenedlaethol yn yr un modd â throsglwyddwr a throsglwyddai yn eu tro at ddibenion Rheoliadau 1981 o dan amgylchiadau pan fydd Rheoliadau 1981 yn gymwys.

Gwariant

9.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu drwy grant, ad-daliad neu fel arall am unrhyw wariant y mae'r cyrff perthnasol yn mynd iddo, sef gwariant sydd o fath a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Mae gwariant a grybwyllir ym mharagraff (1) yn unrhyw wariant rhesymol y gellir ei briodoli i'r Gorchymyn hwn, ac —

(a)yr eir iddo mewn perthynas â phensiynau, lwfansau neu arian rhodd sy'n daladwy i swyddogion rhenti neu mewn perthynas â hwy yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 neu reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 7 neu 24 o'r Ddeddf honno, neu

(b)yr eir iddo mewn perthynas â chodiadau mewn pensiynau sy'n daladwy i swyddogion rhenti (a benodir felly) neu mewn perthynas â hwy yn rhinwedd Deddf (Codi) Blwydd-dal 1971(6), neu

(c)yr eir iddo mewn perthynas ag unrhyw dir neu adeiladau neu unrhyw fuddiant mewn unrhyw dir neu adeiladau a ddefnyddid yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, at ddibenion gwasanaeth y swyddogion rhenti pan nad yw'r corff perthnasol wedi gallu dod o hyd i ddefnydd arall i'r eiddo neu ei waredu fel arall wedi i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

(3Rhaid dosrannu pob swm o wariant a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod gan gyfeirio at y dyddiad trosglwyddo.

Diwygio Deddf Rhenti 1977

10.  Yn y Ddeddf diwygir adran 62 fel a ganlyn —

(a)yn is-adran (1) ar ôl “this Act” mewnosodwch “in England”;

(b)yn is-adran (1)(a) hepgorwch “and county boroughs”;

(c)ar ôl is-adran (1) mewnosodwch:

(1A) Wales is a registration area for the purposes of this Part of this Act..

11.  Yn is-adran (4) o adran 63 o'r Ddeddf ar ddiwedd paragraff (b) ychwanegwch “or, in relation to Wales, any rent officer appointed by the National Assembly for Wales.”.

12.  Yn adran 66 o'r Ddeddf —

(a)yn is-adran (1A)(b) ar ôl y geiriau “Secretary of State” mewnosodir “or in relation to Wales, the National Assembly for Wales.”,

(b)ar ôl is-adran (4) ychwanegwch—

(5) In relation to Wales, references in this section to the rent officer are to the rent officer or rent officers designated for the purposes of this section by the National Assembly for Wales..

Darpariaethau atodol a chysylltiedig

13.  Diddymir paragraff 3(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994(7).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (8).

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Ebrill 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu, yn unol â'r pwerau sy'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) o dan adran 64B o Ddeddf Rhenti 1977, bod penodi, talu, a gweinyddu swyddogion rhenti yng Nghymru yn swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach na swyddogaethau awdurdodau lleol.

Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn diddymu, ar 1 Mehefin 2003 (“y dyddiad trosglwyddo”), gynlluniau ar gyfer ardaloedd cofrestru rhenti yng Nghymru wedi'u gwneud o dan adran 63 o Ddeddf Rhenti 1977.

Mae Erthyglau 3 a 4 yn darparu ar gyfer trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol gontractau cyflogaeth swyddogion rhenti a staff gweinyddol sy'n cael eu cyflogi gan wasanaeth y swyddogion rhenti (y cyfeirir atynt fel “y cyflogeion perthnasol”) yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Mae Erthygl 5 yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol yr eiddo (heb gynnwys buddiannau mewn tir neu adeiladau) a ddelir a'r iawnderau a'r rhwymedigaethau yr oedd gan y cyrff perthnasol hawl iddynt neu yr oeddent yn ddarostyngedig iddynt, mewn cysylltiad â gwasanaeth y swyddogion rhenti.

Mae Erthygl 6 yn darparu bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i benodi, talu cyflogau a phensiynau, lwfansau ac arian rhodd i swyddogion rhenti neu mewn perthynas â hwy.

Mae Erthygl 7 yn gwneud darpariaeth o ran gweinyddu a goruchwylio swyddogion rhenti.

Mae Erthygl 8 yn darparu y bydd Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 yn gymwys i drosglwyddo contractau cyflogaeth y cyflogeion perthnasol o'r cyrff perthnasol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Erthygl 9 yn gwneud darpariaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu am wariant penodol y mae'r cyrff perthnasol yn mynd iddo o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn.

Mae Erthyglau 10, 11 a 12 yn diwygio Deddf Rhenti 1977.

Mae Erthygl 13 yn gwneud darpariaethau atodol a chysylltiedig ac yn diddymu paragraff 3(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Llwyodraeth Leol (Cymru) 1994.

(1)

Gweler adran 64B(1) o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42); mewnosodwyd adran 64B gan adran 120 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) a Rhan II o Atodlen 14 iddi.

(2)

Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer y pŵer o dan yr adran hon mewn perthynas â Chymru: gweler erthygl 2 o ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

O.S. 1981/1794 fel y'i diwygiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1987 (O.S. 1987/442), adran 7(2) o Ddeddf Gwaith Dociau 1989 (p.13), adrannau 33 a 51 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19) ac Atodlen 10 iddi, rheoliadau 8, 9 ac 11 o Reoliadau Diswyddiadau Torfol a Throsglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1995 (O.S. 1995/2587), adran 1 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (Datrys Anghydfodau) 1998 (p.8), rheoliadau 2, 8, 9 a 10 o Reoliadau Diswyddiadau Torfol a Throsglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/1925), a rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/2402).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill