Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004

 Help about what version

Pa Fersiwn

Rhagor o Adnoddau

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1744 (Cy.183)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

6 Gorffennaf 2004

Yn dod i rym

1 Medi 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 133, 134, 145 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae'r Rheoliadau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 1 yn cael eu dirymu i'r graddau a bennir yn yr Atodlen honno.

(2Mae'r arbedion a'r darpariaethau trosiannol a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i gael effaith.

Dehongli

4.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2);

ystyr “Rheoliadau 1959” (“the 1959 Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion 1959(3);

ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982(4));

ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989(5);

ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993(6);ac

ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999(7).

Y gofyniad i fod yn gymwysedig

5.  Ni chaiff neb gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 6 mewn ysgol onid ydynt —

(a)yn athrawon cymwysedig, neu

(b)yn bodloni'r gofynion a bennir yn Atodlen 2.

Gwaith penodedig

6.—(1Mae pob un o'r gweithgareddau canlynol yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn —

(a)cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;

(b)cyflwyno gwersi i ddisgyblion;

(c)asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion; ac

(ch)adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.

(2Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddysgu o bell neu dechnegau drwy gymorth cyfrifiadur.

Y gofyniad i fod yn gofrestredig

7.  Dim ond os ydynt wedi'u cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998 (cofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Addysgu Cyffredinol)(8)) y caiff athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004

Rheoliad 3

ATODLEN 1

RHAN 1DIRYMU

Y Rheoliadau sy'n cael eu DirymuCyfeirnodGraddau'r Dirymu
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999O.S. 1999/2817 (Cy.18)Paragraffau 4, 6 a 7 o Ran II o Atodlen 1; Atodlen 2
Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000O.S. 2000/3122 (Cy. 200)Y Rheoliadau cyfan

RHAN 2ARBEDION A DARPARIAETHAU TROSIANNOL CYFFREDINOL

Penderfyniadau prawf gan y Cynulliad Cenedlaethol

1.—(1Yn achos personau a oedd, ar 1 Medi 1992, wedi cychwyn ond heb gwblhau cyfnod prawf o dan reoliad 14 o Reoliadau 1989, ac Atodlen 6 iddynt, bydd rheoliad 14 ac Atodlen 6 yn parhau i gael effaith hyd nes y cydymffurfir â'u holl ddarpariaethau.

(2Nid yw athrawon —

(a)y dyfarnwyd eu bod yn anaddas i gael eu cyflogi ymhellach fel athrawon cymwysedig yn unol â pharagraff 2(c) o Atodlen 2 i Reoliadau 1959; neu

(b)a gafodd rybudd ysgrifenedig o dan baragraff 5(2) o Atodlen 6 i Reoliadau 1982,

i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.

Athrawon trwyddedig, athrawon sydd wedi'u hyfforddi dramor ac athrawon cofrestredig

2.—(1Bydd Rheoliadau 1993 yn parhau i fod yn gymwys fel petai Rheoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) (Rhif 2) 1997(10), Rheoliadau 1999, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(11) a'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud at ddibenion —

(a)caniatáu cyflogi fel athrawon mewn ysgol athrawon anghymwysedig a oedd yn athrawon trwyddedig neu'n athrawon a hyfforddwyd dramor fel y'u diffiniwyd ynddynt ar 30 Tachwedd 1997, a bydd y dyletswyddau a osodwyd ar y personau mewn cysylltiad â hynny yn parhau i fod yn gymwys; a

(b)penderfynu a oedd personau, a oedd ar 30 Tachwedd 1997 neu unrhyw bryd cyn hynny yn athrawon trwyddedig, athrawon a hyfforddwyd dramor neu'n athrawon cofrestredig fel y'u diffiniwyd ynddynt, yn athrawon cymwysedig.

(2Caiff personau sy'n cael eu cyflogi mewn ysgol yn rhinwedd paragraff (1)(a) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes iddynt beidio â bod yn gyflogedig felly.

Athrawon Graddedig

3.  Yn achos personau a gafodd awdurdodiad cyn 1 Medi 2004 i addysgu yn rhinwedd paragraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999, bydd y paragraffau hynny yn parhau i gael effaith fel petai'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud, nes y bydd y personau hynny wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.

Athrawon Cofrestredig

4.  Yn achos personau a gafodd awdurdodiad cyn 1 Medi 2004 i addysgu yn rhinwedd paragraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999, bydd y paragraffau hynny yn parhau i gael effaith fel petai'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud, nes y bydd y personau hynny wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.

Rheoliad 5

ATODLEN 2Y GOFYNION SYDD I'W BODLONI GAN BERSONAU NAD YDYNT YN ATHRAWON CYMWYS ER MWYN CYFLAWNI'R GWAITH A BENNWYD YN RHEOLIAD 6

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon —

ystyr “athrawon cofrestredig” (“registered teachers”) yw personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;

ystyr “athrawon graddedig” (“graduate teachers”) yw personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004; ac

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw'r cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(12).

Yr athrawon anghymwysedig presennol mewn dosbarthiadau meithrin ac mewn ysgolion meithrin

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos —

(a)athrawon cynorthwyol mewn ysgol feithrin, neu

(b)athrawon dosbarth meithrin,

y caniatawyd eu cyflogi fel athrawon gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a oedd yn cael eu cyflogi felly yn union cyn 1 Medi 1989.

(2Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, yn yr un swyddogaeth ag yr oedd yn cael eu cyflogi ynddi cyn 1 Medi 1989.

Hyfforddwyr gyda chymwysterau arbennig neu brofiad arbennig

3.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig a benodwyd, neu y bwriedir eu penodi, i roi hyfforddiant mewn unrhyw grefft neu sgil neu mewn unrhyw bwnc neu grwp o bynciau (gan gynnwys unrhyw ffurf ar hyfforddiant galwedigaethol), y mae angen cymwysterau arbennig neu brofiad arbennig neu'r ddau er mwyn cyflawni'r gwaith a bennwyd yn rheoliad 6.

(2Caiff personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol os, ar adeg eu penodiad —

(a)y mae'r awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig neu uned gyfeirio disgyblion), y corff llywodraethu wrth weithredu gyda chytundeb yr awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol y mae ganddi gyllideb ddirprwyedig), neu'r corff llywodraethu (yn achos ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol), yn ôl fel y diwgydd, wedi'i fodloni ynglyn â'u cymwysterau neu eu profiad neu'r ddau; a

(b)nad oes unrhyw athrawon cymwysedig, athrawon graddedig, athrawon cofrestredig neu athrawon sydd ar y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth addas ar gael i'w penodi neu i roi'r hyfforddiant hwnnw.

(3Dim ond am y cyfnod pan nad oes unrhyw athrawon cymwysedig, athrawon graddedig, athrawon cofrestredig neu athrawon sydd ar y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth addas ar gael i'w penodi neu i roi'r hyfforddiant hwnnw y caiff personau sy'n cael eu penodi yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4).

(4Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos personau o'r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982 —

(a)os oedd eu penodiad am gyfnod penodedig, os a thra na fydd y cyfnod hwnnw wedi dod i ben; neu

(b)os oedd eu penodiad am gyfnod amhenodedig, oni fynegwyd yn wahanol i hynny mai dros dro yn unig ydoedd.

Athrawon a Hyfforddwyd Dramor

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), caiff personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) os ydynt wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynnol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig a honno'n rhaglen sy'n cael ei chydnabod fel rhaglen hyfforddiant o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno.

(2Ni fydd is - baragraff (1) yn gymwys yn achos personau a grybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw ar ôl i gyfnod o ddwy flynedd ddirwyn i ben, gan ddechrau ar ba un bynnag o'r canlynol yw'r cynharaf —

(a)y diwrnod y maent yn cyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol yn rhinwedd y paragraff hwn am y tro cyntaf, neu

(b)y diwrnod y cawsant eu cyflogi gyntaf fel athrawon mewn ysgol yn rhinwedd paragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999.

Athrawon graddedig

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004.

(2Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y pargraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.

Athrawon cofrestredig

6.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004.

(2Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.

Cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth

7.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy'n ymgymryd â hyfforddiant at ddibenion cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(2Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod yn cwblhau'r hyforddiant hwnnw'n llwyddiannus neu'n peidio ag ymgymryd ag ef.

Personau eraill sy'n cael cyflawni gwaith penodedig

8.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig ac nad ydynt wedi'u crybwyll ym mharagraffau 2 i 7 o'r Atodlen hon.

(2Dim ond os yw'r amodau canlynol yn cael eu bodloni y caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol —

(a)eu bod yn cyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 er mwyn cynorthwyo neu gefnogi gwaith athrawon cymwysedig neu athrawon a enwebir yn yr ysgol;

(b)eu bod yn dod o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth y cyfryw athrawon cymwysedig neu athrawon a enwebir yn unol â threfniadau a wnaed gan bennaeth yr ysgol; ac

(c)bod y pennaeth wedi'i fodloni bod ganddynt y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad y mae eu hangen i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6.

(3Os ydynt yn barnu bod yr enwebiad yn briodol o dan yr amgylchiadau, caiff penaethiaid enwebu'n athrawon a enwebir at ddiben is-baragraff (2) bersonau a grybwyllwyd ym mharagraff 3, 4, 5, 6 neu 7 o'r Atodlen hon.

(4Wrth benderfynu a oes gan y personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad y mae eu hangen i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, caiff penaethiaid ystyried —

(a)unrhyw safonau ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel-uwch, neu ganllawiau ynglyn â staff cynnal ysgol, a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)unrhyw ganllawiau ynglyn â materion contract sy'n berthnasol i staff cynnal ysgol a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan unrhyw awdurdod addysg lleol neu gyflogwr arall.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu gwaith y caiff athrawon cymwysedig a phersonau sy'n bodloni gofynion penodedig ei gyflawni mewn ysgolion. Mae'r gofynion sydd i'w bodloni wedi'u pennu yn Atodlen 2.

Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn darparu bellach fod y mwyafrif o'r personau hynny a grybwyllwyd yn Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999 yn cael cyflawni gwaith penodedig mewn ysgolion, o dan yr un amgylchiadau ag o'r blaen. Mae paragraff 8 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn darparu bod personau eraill yn cael cyflawni gwaith penodedig mewn ysgolion os caiff yr amodau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw eu bodloni. Ni chaiff personau yn y categori “myfyrwyr-athrawon” o dan Reoliadau 1999 (h.y. y rhai sy'n aros am gael lle ar gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon neu sy'n gohirio cwblhau'r cwrs hwnnw) gyflawni gwaith penodedig o dan yr un amgylchiadau ag o'r blaen, ond rhaid iddynt fodloni'r amodau ym mharagraff 8.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hefyd fod athrawon cymwysedig sy'n cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 6 mewn ysgolion i gael eu cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

(1)

2002 p.32. Ystyr “regulations” yw rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 212(1)).

(4)

O.S. 1982/106 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329.

(6)

O.S. 1993/543 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/368, 1997/2679 a 1998/1584.

(8)

Y Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000, O.S. 2000/1979 (Cy. 140) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2496 (Cy. 200) ac O.S. 2004/1741 (Cy.180).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill