Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Rhagor o Adnoddau

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2414 (Cy.222)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

15 Medi 2004

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(b)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1), (2)(a), (b), (7)(c) a 118(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) ac adrannau 79C(2), (3)(b), (f) a (104)(a) o Ddeddf Plant 1989(2), a chan ei fod o'r farn nad yw drwy hyn yn rhoi ar waith unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed eisoes gan reoliadau o dan adran 22 o Ddeddf 2000(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  O ran y Rheoliadau hyn—

(a)eu henw yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004;

(b)deuant i rym y diwrnod ar ôl iddynt gael eu gwneud.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

2.—(1Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(4) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—

(a)ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 8”;

(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—

8.  Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

3.—(1Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(5) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—

(a)ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 8”;

(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—

8.  Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.

Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002

4.—(1Diwygir Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002(6) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—

(a)ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 9”;

(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—

9.  Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003

5.—(1Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003(7) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—

(a)ym mharagraff 2, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 10”;

(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—

10.  Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.

(3Yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny—

(a)ym mharagraff 4, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 14”;

(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—

14.  Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 4 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004

6.—(1Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(8) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—

(a)ym mharagraff 3, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 11”;

(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—

11.  Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 3 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.

(3Yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny—

(a)ym mharagraff 4, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 13”;

(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—

13.  Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 4 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.

Diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002

7.—(1Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002(9) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—

(a)ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 8”;

(b)ar y diwedd mewnosoder y canlynol—

8.  Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Medi 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o ganlyniad i gychwyn, ar 26 Gorffennaf 2004, ddarpariaethau Rhan VII o Ddeddf Safonau Gofal 2000 sy'n sefydlu rhestr o bersonau yr ystyrir eu bod yn anaddas i weithio gydag oedolion hawdd eu niweidio (“y rhestr”).

Mae rheoliadau 2 i 7 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o Reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (“y Rheoliadau presennol”). Mae'r Rheoliadau presennol (ac eithrio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004) yn ei gwneud yn ofynnol i dystysgrif cofnod troseddol lai na theirblwydd oed fod ar gael o ran darparwyr, rheolwyr a staff penodol yr ymgymeriadau y mae'r Rheoliadau'n berthnasol iddynt. (Nid yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 yn cynnwys terfyn oedran o'r fath.) Os person y gellir cadarnhau pa un a yw wedi'i gynnwys ar y rhestr ai peidio yw testun y dystysgrif, mae'r Rheoliadau presennol yn darparu bod yn rhaid i'r dystysgrif nodi a yw'r person wedi'i gynnwys felly.

Mae'r diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud i'r Rheoliadau presennol yn darparu, os oedd tystysgrif cofnod troseddol ar gael ar 26 Gorffennaf 2004, nad cymwys unrhyw ofyniad am i'r dystysgrif nodi a yw testun y dystysgrif wedi'i gynnwys ar y rhestr.

(1)

2000 p. 14. Rhoddir y pwerau i'r Gweinidog priodol. Ystyr “appropriate Minister” mewn perthynas â Chymru yw'r Cynulliad (adran 121(1) o Ddeddf 2000); ystyr “Assembly” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 5(1)(b) o Ddeddf 2000). Gweler adran 121(1) o Ddeddf 2000 am y diffiniad o “regulations”.

(2)

1989 p. 41. Rhoddwyd y pwerau i'r Cynulliad. Ystyr “the Assembly” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 79B(2) o Ddeddf 1989). Mewnosodwyd adran 79C yn Neddf 1989 gan adran 79(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

(3)

Mae adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn darparu bod yn rhaid i'r “appropriate Minister”, cyn iddo wneud rheoliadau o dan yr adran honno, ymgynghori ag unrhyw berson y mae o'r farn ei fod yn berson priodol, onid yw'r rheoliadau'n diwygio rheoliadau eraill a wnaed o dan yr adran honno ac nad ydynt, ym marn y Gweinidog, yn rhoi ar waith unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed gan y rheoliadau hynny.

(4)

O.S. 2002/324 (Cy. 37); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).

(5)

S.I. 2002/327 (Cy. 40); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).

(6)

O.S. 2002/325 (Cy. 38); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy.254).

(9)

O.S. 2002/812 (Cy.92); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill