Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n ymwneud â Labelu) (Cymru) 2004

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 249 (Cy.26)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n ymwneud â Labelu) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

4 Chwefror 2004

Yn dod i rym yn unol â Rheoliad 1(2)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2) ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 9 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n ymwneud â Labelu)(Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig.

(2Daw'r rheoliadau hyn i rym ar 13 Chwefror 2004 ac eithrio rheoliadau 5 i 7 a ddaw i rym ar 1 Gorffennaf 2004.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

2.  Caiff Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(4)) eu diwygio (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 i 7.

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli) —

(a)yn y diffiniad o “Directive 94/54”, yn lle'r geiriau “Directive 79/112” rhodder y geiriau “Directive 2000/13”;

(b)ar ôl y diffiniad o “Directive 99/2” mewnosodir y diffiniad canlynol —

“Directive 2000/13” means Directive 2000/13/EC of the European Parliament and of the Council(5) on the approximation of the laws of the Member States relating to the labelling, presentation and advertising of foodstuffs, as amended by Commission Directive 2001/101/EC(6), (which was itself amended by Commission Directives 2002/86/EC(7)) and as further amended by Commission Directive 2003/89/EC(8)) and as read with Commission Directive 1999/10/EC(9) providing for derogations from the provisions of Article 7 of Directive 2000/13 and Commission Directive 2002/67/EC(10)) on the labelling of foodstuffs containing quinine, and of foodstuffs containing caffeine;.

4.  Yn y darpariaethau canlynol—

  • rheoliad 3(1)(i) (eithriadau),

  • rheoliad 19(2)(a)(i) (nodi meintiau rhai cynhwysion neu gategorïau o gynhwysion),

  • rheoliad 47(b) (amddiffyn mewn perthynas ag allforion),

  • yn lle'r geiriau “Directive 79/112” rhodder y geiriau “Directive 2000/13”.

5.  Yn rheoliad 14 (enwau cynhwysion) —

(a)ym mharagraff (5) mewnosodir ar y dechrau y geiriau “Subject to paragraph (5A) of this regulation”;

(b)ar ôl paragraff (5) mewnosodir y paragraff canlynol —

(5A) In the case of quinine or caffeine added to or used in a food as a flavouring, quinine or caffeine (as appropriate) shall be identified by name immediately after the word “flavouring”..

6.  Ar ôl rheoliad 34 (bwydydd sy'n cynnwys melysyddion, siwgr ychwanegol, aspartame neu polyols) mewnosodir y rheoliad canlynol —

Drinks with high caffeine content

34A.(1) Subject to paragraph (2) of this regulation, in the case of a drink which —

(a)is intended for consumption without modification and contains caffeine, from whatever source, in a proportion in excess of 150 milligrams per litre, or

(b)is in concentrated or dried form and after reconstitution contains caffeine, from whatever source, in a proportion in excess of 150 milligrams per litre,

that drink shall be marked or labelled with the words “High caffeine content” in the same field of vision as the name of the drink, and those words shall be followed by a reference in brackets to the caffeine content expressed in milligrams per 100 millilitres.

(2) Paragraph (1) of this regulation shall not apply to any drink based on coffee, tea or coffee or tea extract where the name of the food includes the term “coffee” or “tea”..

7.  Yn Rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol) mewnosodir ar y diwedd y paragraff canlynol —

(11) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(a), it shall be a defence to prove that —

(a)the food concerned was marked or labelled before 1st July 2004; and

(b)the matters constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 5 and 6 of the Food (Provisions relating to Labelling) (Wales) Regulations 2004 had not been in operation when the food was sold..

Diwygio Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000

8.  Yn Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000(11)

(a)Yn rheoliad 2(1) (dehongli) —

(i)yn lle'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 79/112” (“Directive 79/112”) rhodder y diffiniad canlynol —

ystyr “Cyfarwyddeb 2000/13” (“Directive 2000/13”) yw Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(12) ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod Wladwriaethau ynglŷn â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd stuffs, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC(13), (a ddiwygiwyd ei hun gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/86/EC(14)) ac fel y'i diwygiwyd ymhellach gan Gyfarwyddeb y Comiscwn 2003/89/EC(15);;

(ii)yn y diffiniad o “Rheoliad 1139/98” (“Regulation 1139/98”) yn lle'r ymadrodd “Cyfarwyddeb 79/112/EEC” rhodder yr ymadrodd “Cyfarwyddeb 2000/13”;

(b)yn rheoliad 3(1) (esemptiadau) a rheoliad 9(b) (amddiffyn mewn perthynas ag allforion) yn lle'r ymadrodd “Cyfarwyddeb 79/112” rhodder yr ymadrodd “Cyfarwyddeb 2000/13”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(16))

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Chwefror 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, fel y'u diwygiwyd, ("Rheoliadau 1996") i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny'n ymestyn i Brydain Fawr i gyd.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/67/EC ar labelu bwydydd sy'n cynnwys cwinîn, a bwydydd sy'n cynnwys caffein. Rhaid darllen Cyfarwyddeb 2002/67/EC gyda Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyniad a hysbysebu bwydydd. Mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol rhoi gwybodaeth —

(a)yn rhestru cynwysyddion bwydydd am bresenoldeb unrhyw gwinîn neu gaffein sydd wedi'u hychwanegu neu sydd wedi'u defnyddio fel cyflas (rheoliad 5);

(b)am labelu neu farcio diodydd sy'n cynnwys lefel uchel o gaffein, gyda rhai eithriadau (rheoliad 6).

Bydd y gofynion hyn yn gymwys o 1 Gorffennaf 2004 ymlaen (rheoliad 1(2)). Mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol (rheoliad 7).

3.  Gydag effaith o 13 Chwefror 2004 mae'r Rheoliadau hefyd yn diweddaru rhai cyfeiriadau yn Rheoliadau 1996 ac yn Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000 at Gyfarwyddeb y Cyngor 79/112/EEC a gydgyfnerthwyd gan Gyfarwyddeb 2000/13/EC, fel y'i diwygiwyd (rheoliadau 1(2), 3, 4 ac 8).

4.  Mae asesiad o effaith y rheoliadau wedi'i baratoi ac wedi'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trawsosod yn nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2002/67/EC wedi'u trawsodod yn y rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(4)

O.S. 1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 1136, 1483, 2000/768, 2254, 2000/1925.

(5)

OJ Rhif . L109, 6.5.2000, t.29, fel y mae wedi'i gywiro gan Corrigendum (OJ Rhif . L124, 25.5.2000, t.66).

(6)

OJ Rhif . L310, 28.11.2001, t.19.

(7)

OJ Rhif . L305, 7.11.2002, t.19.

(8)

O.J. Rhif L308, 25.11.2003, t.15.

(9)

OJ Rhif . L69, 16.3.1999, t.22.

(10)

OJ Rhif . L191, 19.7.2002, t.20.

(12)

OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29, fel y mae wedi'i gywiro gan Corrigendum (OJ Rhif . L124, 25.5.2000, t.66).

(13)

OJ Rhif L310, 28.11.2001, t.19.

(14)

OJ Rhif L305, 7.11.2002, t.19.

(15)

OJ Rhif L308, 25.11.2003, t.15.

(16)

1998 p.38.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill