Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004

 Help about what version

Pa Fersiwn

Rhagor o Adnoddau

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2507 (Cy.225)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

21 Medi 2004

Yn dod i rym

30 Medi 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 48(1) a (2) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 1(7) o Atodlen 14 iddi(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Medi 2004.

(2Maent yn gymwys i'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2005 yn unig.

(3Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

mae “corff llywodraethu” (“governing body”) yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ac mae “llywodraethwr” (“governor”) yn cynnwys aelod o gorff llywodraethu dros dro;

mae i “cyfran o'r gyllideb” yr ystyr a roddir i “budget share” gan adran 47(1) o Ddeddf 1998;

dehonglir “cyllideb ddiprwyedig” yn unol â “delegated budget” yn adran 49(7) o Ddeddf 1998;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(3);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (sut bynnag y caiff ei eirio) yn cynnwys y canlynol yn unig, sef ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion arbennig sefydledig, a gynhelir gan yr awdurdod (gan gynnwys ysgol o'r fath y cynigir ei bod yn cael ei chynnal gan yr awdurdod ac y mae ganddi gorff llywodraethu dros dro y gwnaed y trefniadau ar gyfer ei ffurfio gan yr awdurdod gan gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodwyd arno gan adran 44(1)(4) o Ddeddf 1998 neu adran 34(1) o Ddeddf 2002(5)).

Dirymu

3.  Dirymir rheoliadau 25 i 28 o Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 ac Atodlen 3 iddynt(6) ar 1 Ebrill 2005.

Yr hyn sy'n ofynnol i'w gynnwys yn y cynlluniau

4.  Rhaid i gynllun a baratoir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998 ymdrin â materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod y nodir hwy yn yr Atodlen i'r Rheoliadau yma.

Dull cyhoeddi

5.  At ddibenion paragraff 1(7) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (y dull a ragnodir i gyhoeddi cynlluniau) rhaid i'r awdurdod addysg lleol o dan sylw gyhoeddi cynllun pan ddaw i rym ac yn yr amgylchiadau a ragnodir yn rheoliad 6 —

(a)drwy roi copi i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; a

(b)drwy drefnu bod copi ar gael i gyfeirio ato ar bob adeg resymol yn ddi-dâl —

(i)ym mhrif swyddfa addysg yr awdurdod; a

(ii)ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod neu ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod ac sydd ar gael i'r cyhoedd.

Amgylchiadau ychwanegol pan fydd angen cyhoeddi cynlluniau

6.  At ddibenion paragraff 1(7)(b) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (achlysuron a ragnodwyd pan fydd angen cyhoeddi cynlluniau) rhaid i'r awdurdod addysg lleol o dan sylw gyhoeddi cynllun pan ddaw unrhyw ddiwygiad ohono i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Medi 2004

Rheoliad 4

YR ATODLENCYNNWYS Y CYNLLUNIAU

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4, sef materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, y mae angen i'r awdurdod addysg lleol ymdrin â hwy yn ei gynllun yw:

1.  Cario drosodd o un flwyddyn ariannol i'r llall y gwargedau a'r diffygion sy'n codi mewn perthynas â chyfrannau cyllideb ysgolion.

2.  Symiau y gellir eu tynnu yn erbyn cyfrannau cyllideb ysgolion.

3.  Symiau a gafodd ysgolion y caiff eu cyrff llywodraethu eu dal a'r dibenion y ceir defnyddio'r symiau hynny ar eu cyfer.

4.  Gosod amodau gan neu o dan y cynllun y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio â hwy mewn perthynas â rheoli eu cyllidebau dirprwyedig a symiau y mae'r awdurdod yn trefnu eu bod ar gael i gyrff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig, gan gynnwys amodau a ragnodwyd gan reolau a gweithdrefnau ariannol.

5.  Y telerau y mae'r awdurdod yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau odanynt i ysgolion a gynhelir ganddo.

6.  Talu llogau gan yr awdurdod neu iddo.

7.  Yr adegau pan drefnir y bydd symiau sy'n hafal i gyfanswm cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gael i gyrff llywodraethu a phan drefnir pa ran o'r gyfran o'r gyllideb fydd ar gael ar bob adeg o'r fath.

8.  Y trosglwyddiad rhwng penawdau cyllideb o fewn y gyllideb ddirprwyedig.

9.  Yr amgylchiadau y caiff awdurdod ddirprwyo i'r corff llywodraethu y pŵer i wario unrhyw ran o gyllideb AALl yr awdurdod neu gyllideb ysgolion yn ychwanegol at y rhai a nodir yn adran 49(4)(a) i (c)(8) o Ddeddf 1998.

10.  Y defnydd ar gyllidebau dirprwyedig a symiau y trefnodd yr awdurdod eu bod ar gael i'r corff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig.

11.  Benthyca gan gyrff llywodraethu.

12.  Trefniadau bancio y caiff cyrff llywodraethu eu gwneud.

13.  Datganiad o ran atebolrwydd personol y llywodraethwyr mewn perthynas â chyfrannau cyllideb ysgolion gan ystyried adran 50(7) o Ddeddf 1998.

14.  Datganiad o ran y lwfansau sy'n daladwy i lywodraethwyr ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig yn unol â'r cynllun a wnaed gan yr awdurdod at ddibenion adran 519 o Ddeddf 1996(9).

15.  Cadw cofrestr o unrhyw fuddiannau busnes y llywodraethwyr a'r pennaeth.

16.  Darparu gwybodaeth gan y corff llywodraethu ac iddo.

17.  Cynnal a chadw stocrestrau o asedau.

18.  Cynlluniau gwario corff llywodraethu.

19.  Datganiad o ran y defnydd y mae corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud i warged yn y fantolen ysgol sy'n fwy na 5% o gyfran cyllideb yr ysgol neu £10,000 p'un bynnag sydd fwyaf.

20.  Datganiad o ran trethu'r symiau a dalwyd neu a gafwyd gan gorff llywodraethu.

21.  Yswiriant.

22.  Defnyddio cyllidebau dirprwyedig gan gyrff llywodraethu fel y byddant yn bodloni dyletswyddau'r awdurdod a osodwyd gan neu o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974(10).

23.  Darparu cyngor cyfreithiol i'r corff llywodraethu.

24.  Cyllid ar gyfer materion amddiffyn plant.

25.  Prydau ysgol.

26.  At bwy yn yr awdurdod y dylid anfon cwynion a wneir gan bobl sy'n gweithio yn yr ysgol neu gan lywodraethwyr ysgol ynghylch rheoli ariannol neu wedduster ariannol yn yr ysgol a sut y dylid ymdrin â chwynion o'r fath.

27.  Gwariant a dynnir gan gorff llywodraethu wrth arfer y pŵ er a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg 2002.

28.  Y ddarpariaeth gan gyrff llywodraethu o ffurflenni a gwybodaeth at ddibenion pensiynau athrawon.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n disodli darpariaethau cyfatebol Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 a ddirymir) yn gwneud darpariaeth o ran y cynlluniau y mae'n ofynnol i awdurdodau addysg lleol eu paratoi o dan adran 48 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 sy'n ymwneud â materion sy'n gysylltiedig ag ariannu'r ysgolion a gynhelir ganddynt.

Ar wahân i ddarpariaeth newydd sy'n galluogi awdurdodau addysg lleol gyhoeddi eu cynlluniau ar eu gwefannau yn hytrach na threfnu eu bod ar gael yn yr ysgolion mae'r Rheoliadau yn ailadrodd Rheoliadau 1999.

Mae Rheoliad 4 a'r Atodlen yn pennu materion y mae'n rhaid ymdrin â hwy yn y cynlluniau. Mae rheoliad 5 yn pennu'r dull y mae'n rhaid i gynlluniau gael eu cyhoeddi ar y dechrau ac mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi yn yr un dull os diwygir hwy.

(1)

1998 p.31. Diwygiwyd adran 48(1) a (2) gan baragraff 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Addysg 2002, p.32.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.

(4)

Bydd adran 44(1) yn cael ei diddymu gan Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002.

(5)

Caiff adran 34(1) ei dwyn i rym ar ddiwrnod sydd i'w benodi.

(8)

Mae adran 49 i'w diwygio gan baragraff 100(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.

(9)

Diwygiwyd adran 519 gan baragraffau 57 a 139 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.

(10)

1974 p.37.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill