- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
28 Medi 2004
Yn dod i rym
30 Medi 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 30 Medi 2004.
2. Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(4)) (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 90/496”, mewnosoder ar y diwedd y geiriau “, as amended by Commission Directive 2003/120/EC(5)”.
4. Yn Rhan I o Atodlen 7 (cyflwyno labeli maethol a ragnodwyd), ym mharagraff 5 mewnosoder ar ddiwedd yr is-baragraff canlynol —
“(g)1 gram of salatrims shall be deemed to contribute 25kJ (6 kcal)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Medi 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys i Brydain Fawr gyfan. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu ar gyfer Cymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/120/EC (OJ Rhif L333, 20.12.2003, t.51) yn diwygio Cyfarwyddeb 90/496/EEC ar labeli maethol ar gyfer bwydydd.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ffactor trosi ar gyfer salatrimau sydd i'w defnyddio wrth gyfrifo gwerth ynni datganedig bwydydd (rheoliad 4) ac yn diweddaru'r diffiniad o “Directive 90/496” (rheoliad 3).
3. Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi yn nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/120/EC wedi'u trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.
O.S. 1996/1499; O.S. 1998/1398 yw'r offeryn diwygio perthnasol.
OJ Rhif L333, 20.12.2003, t.51.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: