Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2004

 Help about what version

Pa Fersiwn

Rhagor o Adnoddau

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2599 (Cy.232)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2004

Wedi'u gwneud

5 Hydref 2004

Yn dod i rym

18 Hydref 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol —

Enwi, rhychwantu a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2004, maent yn gymwys i Gymru a dônt i rym ar 18 Hydref 2004.

Diwygio Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001

2.  Diwygir Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001(3)

(a)yn rheoliad 2(1) —

(i)drwy roi yn lle'r diffiniad o “darpariaeth Gymunedol” y diffiniad canlynol —

ystyr “darpariaeth Gymunedol” (“Community provision”) yw unrhyw un o ddarpariaethau Rheoliadau a Phenderfyniadau'r Cymunedau Ewropeaidd sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 1 gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau a wnaed i unrhyw un o'r darpariaethau hynny gan y Ddeddf ynglyn ag amodau derbyn y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seiliwyd yr Undeb Ewropeaidd arnynt(4), ac a lofnodwyd ar 16 Ebrill 2003; a;;

(ii)drwy fewnosod, yn y man priodol ar ei gyfer yn ôl trefn yr wyddor, y diffiniad canlynol —

ystyr “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999” (“Council Regulation (EC) No. 1493/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999(5) ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2585/2001(6);;

(b)drwy roi yn lle rheoliad 6 y rheoliadau canlynol —

Mynegiadau daearyddol ar gyfer gwin i'r bwrdd

5A.(1) Yn unol ag Erthygl 51(3) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999, gwaherddir defnyddio mynegiad daearyddol i ddynodi gwin i'r bwrdd sydd wedi'i gynhyrchu mewn unrhyw ran o Gymru oni bai bod y gwin yn dod o lwyth gwin —

(a)yr oedd uchafswm maint y cnwd ar ei gyfer am bob hectar o dir a oedd wedi'i drin â gwinwydd i gynhyrchu'r gwin yn 100 hectolitr;

(b)sydd wedi'i gynhyrchu'n gyfan gwbl o un neu ragor o'r amrywogaethau o winwydd a bennir yn Atodlen 3;

(c)sydd wedi'i gynhyrchu o rawnwin, sydd wedi'u cynaeafu yn yr uned ddaearyddol y defnyddir ei henw i ddynodi'r gwin bwrdd hwnnw, yn unig;

(ch)y mae ei gryfder alcoholaidd naturiol gofynnol yn lleiafswm o 6%;

(d)y mae lleiafswm ei asidedd yn 4 g/l;

(dd)y mae tystysgrif wedi'i dyroddi ar ei gyfer gan gynhyrchydd y gwin sy'n ardystio, yn unol â darpariaethau Atodlen 6, fod profion dadansoddiadol ar y gwin yn y llwyth hwnnw wedi'u cyflawni ar gyfer y ffactorau sydd wedi'u pennu yn yr Atodlen honno, a bod y gwin hwnnw wedi'i gael yn win sy'n cyrraedd y safonau sydd wedi'u pennu yn yr Atodlen honno; ac

(e)y cafwyd ei fod o safon organoleptig foddhaol ar gyfer gwin rhanbarthol yn unol â pharagraff (3).

(2) Er gwaethaf paragraff (1)(c) uchod, caniateir i fynegiad daearyddol gael ei ddefnyddio i ddynodi gwin bwrdd a geir drwy gyfuno gwinoedd fel y'i caniateir gan Erthygl 51(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999.

(3) At ddibenion paragraff (1)(e), rhaid ystyried bod gwin o safon organoleptig foddhaol ar gyfer gwin rhanbarthol —

(a)os yw tystysgrif wedi'i dyroddi gan banel asesu organoleptig cydnabyddedig sy'n ardystio ei fod wedi cyflawni asesiad organoleptig o'r gwin a'i fod wedi cael bod y gwin hwnnw o safon organoleptig gydnabyddedig ar gyfer gwin rhanbarthol, neu

(b)os yw'r gwin wedi'i ganmol yn fawr neu os yw wedi ennill dyfarniad efydd, arian neu aur mewn cystadleuaeth —

(i)a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol ac y mae'r Comisiwn wedi'i hysbysu ohoni yn unol ag Erthygl 21 o Reoliad y Comisiwm (EC) Rhif 753/2002(7) sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ynglyn â disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2004(8), a

(ii)a gafodd ei rhedeg yn hollol ddiduedd.

(4) Yn ddarostyngedig i bwynt A, paragraff 2, o Atodiad VII i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999, rhaid peidio â defnyddio unrhyw fynegiad daearyddol heblaw enw uned ddaearyddol wrth labelu neu wrth hysbysebu gwin i'r bwrdd a gynhyrchir mewn unrhyw ran o Gymru.

(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “uned ddaearyddol” yw unrhyw un o'r unedau daearyddol y mae Atodlen 7 yn gymwys iddi.

(6) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6 —

ystyr “panel asesu organoleptig” (“organoleptic assessment panel”) yw panel a benodwyd i gynnal asesiad organoleptig o win a gyflwynwyd iddo er mwyn iddo benderfynu a yw'r gwin hwnnw o safon organoleptig foddhaol ar gyfer gwin rhanbarthol, ac ystyr “panel asesu organoleptig cydnabyddedig” (“recognised organoleptic assessment panel”) yw panel asesu organoleptig a benodwyd gan drefnydd achrededig ac sy'n cyflawni asesiadau ac yn dyroddi tystysgrifau yn unol â'r achrediad; ac

ystyr “trefnydd achrededig” (“accredited organiser”) yw person a achredwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 6(2) neu unrhyw berson a achredwyd yn drefnydd panel asesu organoleptig mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

Achrediad yn drefnydd panel asesu organoleptig

6.(1) Rhaid i gais am achrediad fel trefnydd panel asesu organoleptig gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo bennu —

(a)y meini prawf y bydd y ceisydd yn eu defnyddio wrth ddethol aelodau o'r panel;

(b)y dull asesu organoleptig y bydd yn ofynnol i banel a benodwyd gan y ceisydd ei ddefnyddio i benderfynu a yw gwin a gyflwynwyd iddo o safon foddhaol ar gyfer gwin rhanbarthol; ac

(c)ar ba sail y bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan y panel ynghylch a yw'r gwin o safon organoleptig foddhaol ar gyfer gwin rhanbarthol.

(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)rhoi achrediad i'r ceisydd fel trefnydd panel asesu organoleptig os yw'n fodlon —

(i)bod y ceisydd yn berson addas a phriodol i benodi panel o'r fath,

(ii)y bydd y meini prawf y bydd y ceisydd yn eu defnyddio i ddethol aelodau panel yn arwain at ddethol personau a chanddynt amrywiaeth eang o ddiddordebau mewn gwin a'r diwydiant gwin (a all gynnwys defnyddwyr gwin) yn aelodau o'r panel,

(iii)bod y dull asesu organoleptig y bydd y panel yn ei ddefnyddio yn ddull asesu boddhaol i benderfynu a yw gwin o safon foddhaol ar gyfer gwin rhanbarthol, a

(iv)a yw'r sail a ddefnyddir i banel wneud penderfyniad arni ynghylch a yw'r gwin o safon organoleptig foddhaol ar gyfer gwin rhanbarthol yn sail foddhaol ar gyfer gwneud penderfyniad o'r fath; a

(b)gwrthod y cais mewn unrhyw achos arall.

(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd o'i benderfyniad o dan baragraff (2) cyn pen pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl dod i benderfyniad.

(4) Pan fo'r penderfyniad a hysbyswyd o dan baragraff (3) yn benderfyniad i wrthod achredu, rhaid i'r hysbysiad gynnwys y rheswm dros y penderfyniad hwnnw.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo achrediad yn cael ei roi o dan baragraff (2), bydd yn aros mewn grym am unrhyw gyfnod a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn yr achrediad.

(6) Rhaid i drefnydd achrededig ddethol aelodau panel yn unol â'r meini prawf a bennir yn ei gais a rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i unrhyw banel a benodir ddefnyddio'r dull asesu a bennir yn y cais hwnnw a gwneud penderfyniadau ynghylch a gafwyd bod y gwin o safon foddhaol ar gyfer gwin rhanbarthol ar y sail a bennir yn y cais hwnnw.

(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddileu achrediad trefnydd panel asesu organoleptig pan fo'n ymddangos iddo nad yw'r person sydd wedi'i achredu yn berson ffit a phriodol i drefnu panel o'r fath neu ei fod wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (6).

(8) Pan fo'r Cynulliad cenedlaethol yn dileu achrediad yn unol â pharagraff (7), rhaid iddo gyflwyno i'r trefnydd o dan sylw hysbysiad —

(a)o'i benderfyniad;

(b)o'r rheswm dros ei benderfyniad; ac

(c)o'r dyddiad pan ddaw'r dilead yn effeithiol.

(9) Bernir bod achrediad trefnydd panel asesu organoleptig wedi'i ddileu mewn achos lle mae'r person sydd wedi'i achredu yn gofyn i'w achrediad gael ei ddileu a bydd dilead o'r fath yn effeithiol o'r dyddiad dileu a bennir gan y person hwnnw.;

(c)yn rheoliad 16 (uchafswm cynnyrch), drwy roi yn lle'r Rhif “100” y Rhif “80”;

(ch)yn rheoliad 19(1) (tramgwyddau a chosbau), drwy roi yn lle “rheoliad 6” y geiriau “rheoliad 5A”;

(d)drwy roi yn lle Atodlen 1, yr Atodlen a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;

(dd)drwy roi yn lle eitemau 1 a 2 o'r tabl a nodir yn Rhan III o Atodlen 2, yr eitemau a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn;

(e)yng ngholofn 1 o Atodlen 3, drwy ddileu'r seren o flaen enw'r amrywogaeth winwydden “Perle of Alzey” ; ac

(f)drwy ychwanegu ar ôl Atodlen 5, yr Atodlenni sydd wedi'u nodi yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Hydref 2004

Rheoliad 2(d)

ATODLEN 1

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Y DARPARIAETHAU CYMUNEDOL

Y mesurau sy'n cynnwys y darpariaethau CymunedolCyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd: Cyfeirnod

1.  Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 357/79 ar arolygon ystadegol o arwynebeddau sydd o dan winwydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2329/98 (OJ Rhif L 29, 30.10.98, t.2 )

OJ Rhif L 54, 5.3.79, t.124

2.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1907/85 ar y rhestr o amrywogaethau o winwydd a'r rhanbarthau sy'n darparu gwin wedi'i fewnforio ar gyfer gwneud gwinoedd pefriol yn y Gymuned

OJ Rhif L 179, 11.7.85, t.21

3.  Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3805/85 yn addasu Rheoliadau penodol ynghylch y sector gwin, oherwydd ymuno Sbaen a Phortiwgal

OJ Rhif L 367, 31.12.85, t.39

4.  Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2392/86 yn sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1631/98 (OJ Rhif L 210, 28.7.98, t.14)

OJ Rhif L 208, 31.7.86, t.1

5.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 649/87 yn nodi rheolau manwl ar gyfer sefydlu cofrestr Gymunedol o winllannoedd, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1097/89 (OJ Rhif L 116, 28.4.89, t.20)

OJ Rhif L 62, 5.3.87, t.10

6.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2676/90 yn pennu dulliau Cymunedol ar gyfer dadansoddi gwinoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 128/2004 (OJ Rhif L 19, 27.1.2004, t.3)

OJ Rhif L 272, 3.10.90, t.1

7.  Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91 yn nodi rheolau cyffredinol ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2061/96 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 277, 30.10.96, t.1)

OJ Rhif L 149, 14.6.91, t.1

8.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2009/92 yn pennu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer ethyl alcohol o darddiad amaethyddol a ddefnyddir i baratoi diodydd gwirodydd, gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru

OJ Rhif L 203, 21.7.92, t.10

9.  Penderfyniad y Cyngor 93/722/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd

OJ Rhif L 337, 31.12.93, t.11

10.  Penderfyniad y Cyngor 93/723/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Hwngari ar gydsefydlu cwotâu tariff ar gyfer gwinoedd penodol

OJ Rhif L 337, 31.12.93, t.83

11.  Penderfyniad y Cyngor 93/726/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Romania ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd

OJ Rhif L 337, 31.12.93, t.177

12.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 122/94 yn gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91 ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru, a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru

OJ Rhif L 21, 26.1.94, t.7

13.  Penderfyniad y Cyngor 94/184/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Awstralia ar fasnachu gwin

OJ Rhif L 86, 31.3.94, t.1

14.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999

OJ Rhif L 179, 14.7.1999, t.1

15.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1227/2000 yn gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, o ran y potensial ar gyfer cynhyrchu, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1203/2003 (OJ Rhif L 168, 5.7.2003, t.9)

OJ Rhif L 143, 16.6.2000, t.1

16.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1607/2000 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, yn benodol y Teitl ynglyn â gwin o ansawdd a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig

OJ Rhif L 185, 25.7.2000, t.17

17.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 yn nodi rheolau manwl penodol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin ac yn sefydlu cod Cymunedol o arferion a phrosesau gwinyddol, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1410/2003 (OJ Rhif L 201, 8.8.2003, t.9)

OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.1

18.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000 yn gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin o ran mecanweithiau'r farchnad, fel y diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1710/2003 (OJ Rhif L 243, 27.9.2003, t.98)

OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.45

19.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2729/2000 yn nodi rheolau gweithredu manwl ar ddulliau rheoli yn y sector gwin

OJ Rhif L 316, 15.12.2000 , t.16

20.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 678/2001 ynghylch gwneud Cytundebau ar ffurf Cyfnewid Llythyron rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria, Gweriniaeth Hwngari a Romania ar gyd-gonsesiynau masnachu ffafriol ar gyfer gwinoedd a gwirodydd penodol, ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 933/95

OJ Rhif L 94, 4.4.2001, t.1

21.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ynghylch y fasnach â thrydydd gwledydd mewn cynhyrchion yn y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2338/2003 (OJ Rhif L 346, 31.12.2003, t.28)

OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.1

22.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001 yn gosod rheolau cymhwyso manwl ynglyn â'r dogfennau sydd i fynd gyda chynhyrchion gwin wrth iddynt gael eu cludo ac ynglyn â'r cofnodion sydd i'w cadw yn y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1782/2002 (OJ Rhif L 270, 8.10.2002, t.4)

OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.32

23.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1037/2001 yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio ac sydd wedi mynd drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2324/2003 (OJ Rhif L 345, 31.12.2003, t.24)

OJ Rhif L 145, 31.5.2001, t.12

24.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1282/2001 yn gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ynghylch casglu gwybodaeth i ddynodi cynhyrchion gwin a monitro'r farchnad win ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1623/2000

OJ Rhif L 176, 29.6.2001, t.14

25.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2597/2001 yn agor c wotâu tariff Cymunedol ar gyfer gwinoedd penodol sy'n tarddu o Weriniaeth Croatia, yng nghyn Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia ac yng Ngweriniaeth Slofenia ac yn darparu ar gyfer gweinyddu'r cwotâu hynny

OJ Rhif L 345, 29.12.2001, t.35

26.  Penderfyniad y Cyngor Rhif 2002/51/EC ar wneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth De Affrica ar fasnachu gwin

OJ Rhif L 28, 30.1.2002, t.3

27.  Penderfyniad y Cyngor a'r Comisiwn Rhif 2002/309/EC ynglyn â'r cytundeb ar gydweithrediad gwyddonol a thechnolegol dyddiedig 4 Ebrill 2002 ar wneud saith Cytundeb gyda Chydffederasiwn y Swisdir, yn benodol darpariaethau Atodiad 7 ar Fasnachu cynhyrchion Sector Gwin sydd wedi'u cynnwys yn y Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swisdir ar Fasnachu Cynhyrchion Amaethyddol

OJ Rhif L 114, 30.4.2002, t.1

28.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ynglyn â disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2004 (OJ Rhif L 55, 24.2.2004, t.16).

OJ Rhif L 118, 4.5.2002, t.1

29.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 527/2003 yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio o'r Ariannin ac a allai fod wedi bod drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1776/2003 (OJ Rhif L 260, 11.10.2003, t.1)

OJ Rhif L 78, 25.3.2003, t.1

30.  Penderfyniad y Comisiwn 2003/898/EC ynghylch gwneud cytundeb yn diwygio'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Awstralia ar fasnachu gwin

OJ Rhif L 336, 23.12.2003, t.99

31.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2303/2003 ar reolau labelu penodol ar gyfer gwinoedd a fewnforiwyd o Unol Daleithiau America

OJ Rhif L 342, 30.12.2003, t.5

32.  Penderfyniad y Comisiwn 2004/91/EC ar wneud cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chanada ar fasnachu gwinoedd a diodydd gwirodydd

OJ Rhif L 35, 6.2.2004, t.1

Rheoliad 2(dd)

ATODLEN 2EITEMAU I'W HAMNEWID YN RHAN III O ATODLEN 2

1.  Rheoliad 1493/1999: Erthyglau 48 a 49 ac Atodiad VII

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2004 (OJ Rhif L55, 24.2.2004, t.16).

Pob Erthygl ac eithrio Erthyglau 41 i 46, i'r graddau y maent yn ymwneud â gwinoedd pefriol.

Rheolau cyffredinol a gofynion penodol ynglyn â disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol heblaw gwinoedd pefriol

2.  Rheoliad 1493/1999: Erthyglau 48 a 49 ac Atodiad VIII

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2004 (OJ Rhif L55, 24.2.2004, t.16).

Pob Erthygl ac eithrio Erthyglau 41 i 46, i'r graddau y maent yn ymwneud â gwinoedd hanner pefriol awyredig.

Rheolau cyffredinol a gofynion penodol ynglyn â disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu gwinoedd pefriol

Rheoliad 2(f)

ATODLEN 3

Rheoliad 5A(1)(dd)

ATODLEN 6PROFION DADANSODDI AR GYFER GWINOEDD BWRDD Å MYNEGIAD DAEAERYDDOL

Rhaid i win fynd drwy brofion dadansoddi ar gyfer pob un o'r ffactorau a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl canlynol a rhaid iddynt gyrraedd y safon a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r tabl.

Colofn 1Colofn 2
Y ffactorY safon i'w chyrraedd
Cryfdfer alcoholaidd gwirioneddol yn ôl cyfaintLleiafswm o 8.5%
Cryfder alcoholaidd gofynnol yn ôl cyfaint

(a)yn achos gwin gwyn wedi'i gyfoethogi, uchafswm o 11.5%;

(b)yn achos gwin coch a gyfoethogwyd a gwin rosé a gyfoethogwyd, uchafswm o 12%; ac

(c)yn achos unrhyw win arall, uchafswm o 15%

Cryfder alcoholaidd naturiol yn ôl cyfaintLleiafswm o 6%
Cyfanswm echdyniad sych (a geir drwy ddwysfesureg)Lleiafswm o 14 gram am bob litr
Cyfanswm asideddLleiafswm o 4 gram am bob litr wedi'i fynegi fel asid tartarig
Asidedd anweddolYn achos gwin melus gyda 45 gram am bob litr neu fwy o siwgr gweddilliol, uchafswm o 1.14 gram am bob litr
Sylffwr deuocsid rhydd

(a)yn achos gwin sych, uchafswm o 45 miligram am bob litr, a

(b)yn achos unrhyw win arall, uchafswm o 60 miligram am bob litr

Cyfanswm y sylffwr deuocsid

(a)yn achos gwin coch gyda llai na 5 gram am bob litr o siwgr gweddilliol, uchafswm o 160 miligram am bob litr;

(b)yn achos gwin coch gyda 5 gram am bob litr neu fwy o siwgr gweddilliol, uchafswm o 210 miligram am bob litr;

(c)yn achos gwin gwyn neu win rosé gyda llai na 5 gram am bob litr o siwgr gweddilliol, uchafswm o 210 miligram ambob litr; ac

(ch)yn achos gwin gwyn neu win rosé gyda 5 gram am bob litr neu fwy o siwgr gweddilliol, uchafswm o 260 miligram am bob litr

CoprUchafswm o 0.5 miligram am bob litr
HaearnUchafswm o 8 miligram am bob litr
SterileiddiwchRhaid peidio â chael unrhyw arwydd o furumau neu facteria sy'n dueddol o ddifetha'r gwin
Sefydlogrwydd proteinauRhaid i olwg y gwin beidio â newid ar ôl cael ei gadw ar 70° C am 15 munud a'i oeri wedyn i 20°C

Rheoliad 5A(5)

ATODLEN 7UNEDAU DAEARYDDOL SY'N CYNHYRCHU GWINOEDD RHANBARTHOL

1.  Mae'r Atodlen hon yn gymwys i'r unedau daearyddol a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl canlynol sydd wedi'u ffurfio ym mhob achos o'r ardal a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r tabl heblaw tir o fewn yr ardal honno sydd wedi'i leoli ar uchder o fwy na 250 metr uchlaw lefel y môr —

Colofn (1)Colofn (2)
Enw'r uned ddaearyddolHyd a lled daearyddol yr uned

1.  Caerdydd

Yr ardal sy'n cynnwys dinas a sir Caerdydd

2.  Sir Aberteifi

Yr ardal sy'n cynnwys sir Aberteifi

3.  Sir Gaerfyrddin

Yr ardal sy'n cynnwys sir Gaerfyrddin

4.  Sir Ddinbych

Yr ardal sy'n cynnwys sir Ddinbych

5.  Gwynedd

Yr ardal sy'n cynnwys sir Gwynedd

6.  Sir Fynwy

Yr ardal sy'n cynnwys sir Fynwy

7.  Casnewydd

Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Casnewydd

8.  Sir Benfro

Yr ardal sy'n cynnwys sir Benfro

9.  Rhondda Cynon Taf

Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf

10.  Abertawe

Yr ardal sy'n cynnwys dinas a sir Abertawe

11.  Bro Morgannwg

Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Bro Morgannwg

12.  Cymru

Yr ardal sy'n cynnwys yr holl siroedd a'r holl fwrdeistrefi sirol a sefydlwyd gan adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

13.  Wrecsam

Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Wrecsam

2.  Yn yr Atodlen hon mae unrhyw gyfeiriad at sir neu fwrdeistref sirol a enwir yn gyfeiriad at sir neu fwrdeistref sirol a sefydlwyd gan neu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(10) neu gan orchymyn a wnaed o dan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1992(11).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”), sy'n darparu ar gyfer gorfodi yng Nghymru Reoliadau'r Gymuned Ewropeaidd sy'n ymwneud â chynhyrchu a marchnata gwin a chynhyrchion cysylltiedig.

Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn gwneud newidiadau i'r rheolau sydd i'w dilyn cyn y caniateir disgrifio gwin bwrdd sy'n tarddu o Gymru fel “gwin rhanbarthol” a newidiadau i'r mynegiadau daearyddol y caniateir eu defnyddio i ddynodi gwinoedd o'r fath (rheoliad 2(b) ac Atodlen 3);

(b)yn darparu ar gyfer achredu trefnwyr paneli asesu organoleptig i benderfynu a yw gwin bwrdd o safon organoleptig foddhaol ar gyfer gwin rhanbarthol (rheoliad 2(b));

(c)yn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd drwy wneud newidiadau i'r diffiniadau yn Rheoliadau 2001 (rheoliad 2(a)), gan roi Atodlen 1 newydd i Reoliadau 2001 yn lle'r hen un (rheoliad 6(9)(f) ac Atodlen 2); ac

(ch)yn gwneud mân newid i'r amrywogaethau o winwydd y caniateir eu defnyddio i gynhyrchu gwinoedd o safon psr (rheoliad 2(b)).

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth yr Is-adran Polisi Amaethyddiaeth a Physgodfeydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(4)

OJ Rhif L 236, 23.9.2003, t.33.

(5)

OJ Rhif L 179, 14.7.1999, t.1.

(6)

OJ Rhif L345, 19.12.2001, t.10.

(7)

OJ Rhif L 118, 4.5.2002, t.1.

(8)

OJ Rhif L55, 24.2.2004, t.16.

(10)

1972 p.70. Gweler, yn benodol, adran 20 o Ddeddf 1972 ac Atodlen 4 iddi, fel y'u diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, ac unrhyw ddiwygiadau a wnaed i ardaloedd llywodraeth leol drwy orchmynion a wnaed o dan adran 51 o Ddeddf 1972 (diddymwyd adran 51 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1992 (p.19) ond mae darpariaethau Gorchmynion a wnaed o dan yr adran honno yn parhau mewn grym yn rhinwedd adran 29(3) o Ddeddf 1992) ac adran 17 o Ddeddf 1992.

(11)

1992 p.19; diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29), adran 39(4) a (5); Deddf yr Heddlu 1996 (p.16), paragraff 44 o Atodlen 7; Deddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29), adran 20(1); Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 89(3) ac O.S. 2001/3962.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill