Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004

 Help about what version

Pa Fersiwn

Rhagor o Adnoddau

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 20 Hydref 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dirymu

2.  Dirymir drwy hyn Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2002(1).

Interpretation

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

mae i “cyfnod adsefydlu” yr un ystyr â “rehabilitation period” yn Neddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(2);

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(3));

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;

mae i “gorchymyn datgymhwyso”, “dedfryd gymhwysol”, “gorchymyn perthnasol” a “prif lys” yr un ystyron â “disqualification order”, “qualifying sentence”, “relevant order” a “senior court” yn y drefn honno yn adran 30 o Ddeddf 2000;

ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) —

(a)

os yw swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) mewn perthynas ag unrhyw berson, yw'r swyddfa honno;

(b)

mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

mae i “tramgwydd yn erbyn plentyn” mewn perthynas â thramgwyddau a gyflawnwyd yng Nghymru a Lloegr yr ystyr a roddir i “offence against a child” yn adran 26 o Ddeddf 2000;

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw'r Tribiwnlys a sefydlwyd o dan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(4);

ystyr “wedi'i ddatgymhwyso” neu “wedi'u datgymhwyso” (“disqualified”) yw wedi'i ddatgymhwyso neu wedi'u datgymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o'r Ddeddf ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa a reolir ganddo yn swyddfa briodol mewn perthynas ag unrhyw berson cofrestredig neu geisydd am gofrestriad o dan Ran XA o'r Ddeddf.

Datgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat

4.—(1At ddibenion adran 68 o'r Ddeddf (personau sydd wedi'u datgymhwyso rhag bod yn rhieni maeth preifat) mae person wedi'i ddatgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat —

(a)os yw'r person hwnnw wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd a grybwyllir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn; neu

(b)os yw'r person hwnnw yn berson a grybwyllir yn Rhannau II neu III o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(2Ni fydd person sydd wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn collfarn neu benderfyniad yn berson sydd wedi'i ddatgymhwyso o dan baragraff (1) mewn perthynas a'r gollfarn honno neu'r penderfyniad hwnnw.

Datgymhwyso rhag cofrestru ar gyfer gwarchod plant a darparu gofal dydd

5.—(1At ddibenion paragraff 4 o Atodlen 9A i'r Ddeddf (datgymhwyso rhag cofrestru) mae person, yn ddarostyngedig i reoliad 6, wedi'i ddatgymhwyso —

(a)os yw'n berson sydd wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd a grybwyllir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

(b)os yw'n berson a grybwyllir yn Rhannau II neu III o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn; neu

(c)os yw'r person wedi'i ddatgymhwyso ar unrhyw bryd rhag maethu plentyn yn breifat.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 6, mae person sy'n byw —

(a)ar yr un aelwyd â pherson sydd wedi'i ddatgymhwyso o dan baragraff (1); neu

(b)ar aelwyd lle mae unrhyw berson o'r fath yn cael ei gyflogi,

wedi'i ddatgymhwyso.

(3Ni fydd person wedi'i ddatgymhwyso o dan baragraff (1) mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd neu benderfyniad os yw wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn y collfraniad neu'r penderfyniad.

Hepgoriadau

6.—(1Pan fyddai person wedi'i ddatgymhwyso yn rhinwedd rheoliad 5 ond bod y person hwnnw wedi datgelu i'r Cynulliad Cenedlaethol y ffeithiau a fyddai'n arwain at y datgymhwysiad a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig a heb ei dynnu'n ôl, yna ni fydd y person hwnnw'n cael ei ystyried yn berson sydd wedi'i ddatgymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hyn oherwydd y ffeithiau a ddatgelwyd felly.

(2Nid yw person wedi't ddatgynhwyso o dan reoliad 5 os yw'r person hwnnw, cyn 1 Ebrill 2002,—

(a)wedi datgelu'r ffeithiau a fyddai wedi ei ddatgymhwyso o dan reoliad 5 i awdurdod lleol priodol o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i'r Ddeddf; ac

(b)wedi derbyn cytundeb ysgrifenedig yr awdurdod lleol hwnnw.

Dyletswydd i Ddatgelu

7.—(1Bydd dyletswydd barhaol drwy gydol y cyfnod cofrestru ar berson sydd wedi'i gofrestru yn warchodydd plant neu'n ddarparydd gofal dydd neu'n cael ei gyflogi mewn cysylltiad â darparu gofal dydd yn unol ag adran 79D o'r Ddeddf i roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth sydd wedi'i rhestru yn is-adran (2) o ran:

(a)unrhyw orchymyn a wnaed yn erbyn y person cofrestredig;

(b)unrhyw orchymyn a wnaed yn erbyn person sy'n byw neu'n gweithio ar yr un aelwyd a hwnnw'n orchymyn y mae'r person cofrestredig yn ymwybodol ohono neu y byddai'n rhesymol disgwyl y byddai'n ymwybodol ohono;

(c)unrhyw dramgwydd y mae'r person cofrestredig wedi'i gollfarnu ohono; ac

(ch)unrhyw dramgwydd y mae person sy'n byw neu'n gweithio ar yr un aelwyd wedi'i gollfarnu ohono a hwnnw'n dramgwydd y mae'r person cofrestredig yn ymwybodol ohono neu y byddai'n rhesymol disgwyl y byddai'n ymwybodol ohono

sef gorchymyn neu dramgwydd sy'n sail ar gyfer datgymhwyso o dan y Rheoliadau hyn.

(2Y wybodaeth y mae'n rhaid iddi gael ei rhoi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion paragraff (1) yw—

(a)manylion union natur y gorchymyn neu'r gollfarn;

(b)pryd y gwnaed y gorchymyn a chan ba gorff neu Lys;

(c)pa ddedfryd a osodwyd;

(ch)os yw ar gael, copi ardystiedig o'r Gorchymyn neu'r Gorchymyn Llys perthnasol yn dystiolaeth o'r gollfarn neu'r gorchymyn arall.

(3Rhaid i'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) gael ei rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(4Bydd person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

(5Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Penderfyniadau Rhagnodedig

8.  At ddibenion adran 79M(1)(c) o'r Ddeddf (apelau i'r Tribiwnlys), mae penderfyniad ynglyn â datgymhwyso person rhag cofrestru ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd o dan Atodlen 9A o'r Ddeddf yn benderfyniad sydd wedi'i ragnodi.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Hydref 2004

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill