- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Bydd dyletswydd barhaol drwy gydol y cyfnod cofrestru ar berson sydd wedi'i gofrestru yn warchodydd plant neu'n ddarparydd gofal dydd neu'n cael ei gyflogi mewn cysylltiad â darparu gofal dydd yn unol ag adran 79D o'r Ddeddf i roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth sydd wedi'i rhestru yn is-adran (2) o ran:
(a)unrhyw orchymyn a wnaed yn erbyn y person cofrestredig;
(b)unrhyw orchymyn a wnaed yn erbyn person sy'n byw neu'n gweithio ar yr un aelwyd a hwnnw'n orchymyn y mae'r person cofrestredig yn ymwybodol ohono neu y byddai'n rhesymol disgwyl y byddai'n ymwybodol ohono;
(c)unrhyw dramgwydd y mae'r person cofrestredig wedi'i gollfarnu ohono; ac
(ch)unrhyw dramgwydd y mae person sy'n byw neu'n gweithio ar yr un aelwyd wedi'i gollfarnu ohono a hwnnw'n dramgwydd y mae'r person cofrestredig yn ymwybodol ohono neu y byddai'n rhesymol disgwyl y byddai'n ymwybodol ohono
sef gorchymyn neu dramgwydd sy'n sail ar gyfer datgymhwyso o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Y wybodaeth y mae'n rhaid iddi gael ei rhoi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion paragraff (1) yw—
(a)manylion union natur y gorchymyn neu'r gollfarn;
(b)pryd y gwnaed y gorchymyn a chan ba gorff neu Lys;
(c)pa ddedfryd a osodwyd;
(ch)os yw ar gael, copi ardystiedig o'r Gorchymyn neu'r Gorchymyn Llys perthnasol yn dystiolaeth o'r gollfarn neu'r gorchymyn arall.
(3) Rhaid i'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) gael ei rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(4) Bydd person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
(5) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: