- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
2 Tachwedd 2004
Yn dod i rym
3 Tachwedd 2004
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2004.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Tachwedd 2004.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r Prif Reoliadau (dehongli), mewnosoder y canlynol yn ôl trefn yr wyddor—
““the health service” has the same meaning as in section 128(1) of the National Health Service Act 1977(4)”.
3. Ar ôl paragraff 28I o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau, mewnosoder y paragraff a ganlyn—
“28J. Any payment made to the resident under section 63(6)(b) of the Health Services and Public Health Act 1968 (“the 1968 Act”)(5) (travelling and other allowances to persons availing themselves of instruction) for the purpose of meeting child care costs where the instruction is provided pursuant to—
(a)section 63(1)(a) of the 1968 Act; or
(b)section 63(1)(b) of the 1968 Act and where the resident is employed, or has it in contemplation to be employed, in an activity involved in or connected with a service which must or may be provided or secured as part of the health service.”.
4. Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau, ar ôl paragraff 24, ychwaneger y paragraffau a ganlyn—
“25. Any payment made to the resident under section 2 or 3 of the Age-Related Payments Act 2004 (entitlement: basic or special cases)(6).
26. Any payment made to the resident under section 63(6)(b) of the Health Services and Public Health Act 1968 (“the 1968 Act”)(5) (travelling and other allowances to persons availing themselves of instruction) for the purpose of meeting child care costs where the instruction is
Provided pursuant to—
(a)section 63(1)(a) of the 1968 Act; or
(b)section 63(1)(b) of the 1968 Act and where the resident is employed, or has it in contemplation to be employed, in an activity involved in or connected with a service which must or may be provided or secured as part of the health service.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Tachwedd 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”).
Mae'r Prif Reoliadau yn pennu sut y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety y mae awdurdodau lleol yn ei drefnu o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.
Mae rheoliad 3 yn diwygio'r Prif Reoliadau drwy gyflwyno modd o ddiystyru incwm o ran taliadau tuag at gost gofal plant o dan adran 63(6)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 a wneir i breswylydd sydd o dan hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth iechyd, yn rhinwedd y trefniadau a wneir o dan yr adran honno.
Mae rheoliad 4 yn darparu i'r un taliadau gael eu diystyru fel cyfalaf, a hefyd yn cyflwyno modd o ddiystyru cyfalaf o ran taliadau a wneir o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Taliadau ar Sail Oed 2004.
1948 p. 29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1992/2977; ac O.S. 1996/602, O.S. 2002/814 (Cy.94) ac O.S. 2003/897 (Cy. 117) yw'r offerynnau diwygio perthnasol.
1968 p.46. Mae adran 63(6) yn darparu i'r Gweinidog dalu ffioedd a dyroddi grantiau mewn perthynas â hyfforddi'r sawl a gyflogir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu sy'n ystyried cael ei gyflogi ganddo, ac mae is-adran (6)(b) yn caniatáu talu lwfansau teithio a lwfansau eraill i'r sawl sy'n derbyn hyfforddiant. Datganolwyd pwerau'r Gweinidog o dan y Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys