Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 10/11/2004.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
9 Tachwedd 2004
Yn dod i rym
10 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 108(3)(c), (7), (8), (9), (10) ac (11) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 10 Tachwedd 2004.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion sydd ym mlwyddyn olaf yr ail gyfnod allweddol a hynny yn y pynciau Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig.
(4) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion yn y Gymraeg os yw'r disgyblion hynny yn dilyn y rhaglen astudio o'r enw “Cymraeg Ail Iaith”(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)
2. Dirymir Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997(3) a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) (Diwygio) 1998(4).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)
3.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “a bennir” (“specified”) yw pennu mewn perthynas â'r ail gyfnod allweddol gan orchymyn adran 108(3)(a) a (b);
ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod o'r enw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(5);
mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 97 o'r Ddeddf ;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “y dogfennau cysylltiedig” (“the associated documents”) yw'r dogfennau a gyhoeddir gan yr Awdurod ac sy'n gosod unrhyw lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol, ac sy'n effeithiol yn rhinwedd y gorchymynion adran 108(3)(a) a (b) ar gyfer y pynciau hynny ac sydd mewn grym am y tro(6);
ystyr “gorchmynion adran 108(3)(a) a (b)” (“section 108(a) and (b) orders”) yw gorchmynion a wneir, neu sydd â'r un effaith â phetaent wedi'u gwneud, o dan adran 108(3)(a) a (b) o'r Ddeddf ac sy'n pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio;
ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth;
ystyr “TC” (“AT”) yw targed cyrhaeddiad;
ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw'r tymor olaf mewn blwyddyn ysgol; ac
mae i “ysgol a gynhelir” yr ysytyr a roddir i “maintained school” yn adran 97 o'r Ddeddf.
(2) Mae cyfeiriadau at—
(a)yr ail gyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103 o'r Ddeddf; a
(b)lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio yn gyfeiriadau at y lefelau, y targedau a'r rhaglenni a osodir yn y dogfennau cysylltiedig.
(3) Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn Rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r Rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r Rhif cyfan nesaf.
(4) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr erthygl yn y Gorchymyn hwn sy'n dwyn y Rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn yr erthygl y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 3 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)
4.—(1) Rhaid i'r pennaeth drefnu i bob disgybl gael ei asesu gan athro ym mhob pwnc perthnasol yn ystod tymor yr haf (ac eithrio'r pythefnos olaf ohono) yn unol â darpariaethau'r erthygl hon a threfnu i'r athro gofnodi'r canlyniadau.
(2) Diben yr asesu yw canfod y lefel cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl ym mhob TC a bennir ar gyfer pob pwnc perthnasol sy'n gymwys i'r disgybl ac, ac eithrio pan fydd erthygl 6(3) yn gymwys, yn y pwnc fel a gyfrifir yn unol ag erthygl 5.
(3) Rhaid i'r disgybl gael ei asesu a rhaid i'r athro gofnodi'r canlyniadau ddim hwyrach na phythefnos cyn diwedd tymor yr haf.
(4) Datganiad o bob lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyflawni (p'un a bennir y lefel honno mewn perthynas â'r ail gyfnod allweddol gan y gorchymyn adran 108(3)(a) a (b) perthnasol ai peidio) mewn perthynas â phob TC a grybwyllir ym mharagraff (2) ac, ac eithrio pan fydd erthygl 6(3) yn gymwys, o'i lefel yn y pwnc fel a gyfrifir yn unol ag erthygl 5 fydd y cofnod o'r canlyniadau.
(5) Wrth asesu disgybl yn unol â'r erthygl hon caiff athro ystyried canlyniadau unrhyw asesiad blaenorol o'r disgybl (p'un a wnaed ef gan yr athro hwnnnw ai peidio).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 4 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)
5.—(1) Yn ddarostyngedig i erthygl 6, mae darpariaethau'r erthygl hon yn rheoleiddio agregiad lefelau cyrhaeddiad TC sy'n cael eu penderfynu yn unol ag erthygl 4 er mwyn cyfrifo lefelau cyrhaeddiad mewn pynciau.
(2) Yn achos Saesneg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd ei lefelau ym mhob TC.
(3) Yn achos Cymraeg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd ei lefelau ym mhob TC, wedi'i phwysoli â'r ffactorau a ganlyn—
TC1 (llafar) 4;
TC2 (darllen) 3; a
TC3 (ysgrifennu) 3.
(4) Yn achos mathemateg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd lefelau'r disgybl ym mhob TC ond â'i lefel yn TC2 (Rhif ac algebra) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau.
(5) Yn achos gwyddoniaeth, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd lefelau'r disgybl ym mhob TC ond â'i lefel yn TC1 (ymholiad gwyddonol) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 5 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)
6.—(1) Mae erthygl 5 i fod yn effeithiol mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys mewn perthynas â hwy (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig) gyda'r addasiadau a bennir yn yr erthygl hon.
(2) Os, yn achos unrhyw bwnc perthansol, nad yw un TC yn gymwys i un o'r disgyblion hynny, mae erthygl 5 i fod yn effeithiol fel petai nifer y TCau sy'n gymwys i'r disgybl yn gyfanswm y TCau yn y pwnc a'r TC nad yw'n gymwys, ac unrhyw bwysoli yn gysylltiedig ag ef, yn cael ei ddiystyru.
(3) Os, yn achos unrhyw bwnc perthnasol, nad yw rhagor nag un TC yn gymwys i'r disgybl, nid yw erthygl 5 i fod yn gymwys i'r disgybl mewn perthynas â'r pwnc hwnnw ac nid oes lefel cyrhaeddiad i'w benderfynu ar ei gyfer mewn perthynas â'r pwnc hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Ergl. 6 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)
7. Rhaid i'r Awdurdod wneud y trefniadau y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol er mwyn penderfynu i ba raddau y mae darpariaethau erthyglau 4 i 6 a'u gweithrediad yn cyflawni'r diben a grybwyllir yn erthygl 1(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Ergl. 7 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)
8. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud y darpariaethau hynny y mae'n ymddangos yn hwylus iddo eu gwneud ac sy'n rhoi effaith lawn i'r darpariaethau a wneir yn y Gorchymyn hwn (ac eithrio darpariaethau sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(7) o'r Ddeddf) neu sy'n ychwanegu atynt mewn ffordd arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Ergl. 8 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru yn unig. Mae'n dirymu ac yn disodoli Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997 (fel y'i diwygiwyd). Mae'n pennu'r trefniadau asesu ar gyfer disgyblion sy'n astudio Cymraeg (fel iaith gyntaf), Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol 2.
Mae erthygl 2 yn dirymu Gorchymyn 1997 (fel y'i diwygiwyd).
Mae erthygl 3 yn cynnwys diffiniadau o dermau a ddefnyddir yn y Gorchymyn.
Mae erthygl 4 yn darparu i ddisgyblion gael eu hasesu gan athro ac mae'n gosod diben y gwaith asesu hwnnw.
Mae erthygl 5 yn gosod y rheolau technegol ar gyfer penderfynu lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn ôl pwnc.
Mae erthygl 6 yn gosod rheolau arbennig sy'n gymwys mewn perthynas â disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig).
Mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau i werthuso'r trefniadau asesu.
Mae erthygl 8 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau a wneir gan y Gorchymyn hwn neu i wneud darpariaeth sy'n ychwanegu mewn ffordd arall at y darpariaethau hynny.
Yr unig newid sywleddol a wna'r Gorchymyn hwn yw nad yw bellach yn gwneud darpariaeth ar gyfer profion disgyblion. Yn unol â hynny, nid ailddeddfir erthyglau 5 a 6 o Orchymyn 1997.
Gweler O.S. 2000/1101 (Cy.79) a'r ddogfen a gyhoeddwyd o dan y teitl “Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru”, ISBN 0750424036.
Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd i fodoli o dan adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a chafodd ei enw presennol gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p.44).
Y Gorchmynion perthnasol ar gyfer yr ail gyfnod allweddol yw O.S. 2000/1101 (Cy.79) (Cymraeg), O.S. 2000/1154 (Cy. 85) (Saesneg), O.S. 2000/1100 (Cy.78) (Mathemateg) ac O.S. 2000/1099 (Cy.77) (Gwyddoniaeth).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys