- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
23 Tachwedd 2004
Yn dod i rym
24 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2001(2) fel a ganlyn —
(a)yn rheoliad 2, (ym mharagraff (i)) o'r diffiniad o “pwyllgor ardal” dileer “gyda phwerau dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau yn rhan A o Atodlen 1”;
(b)yn is-baragraff (2)(b) o reoliad 4 mewnosoder ar y diwedd “a'r is-bwyllgorau”;
(c)ym mharagraff (2)(a) o reoliad 8 ar ei ddiwedd dileer “a” a mewnosoder “neu”;
(ch)yn is-baragraff (9)(a) o reoliad 10 mewnosoder ar y dechrau —
“yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen y dreth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2”;
(d)ym mharagraff (1) o reoliad 14 ar ôl “gyfrifoldeb” mewnosoder —
“i'r awdurdod lleol (heblaw'r rhai y mae'n rhaid iddynt gael eu cyflawni gan awdurdod cyfan yn unig) neu”;
(dd)yn Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod) yn unol â Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(e)yn Atodlen 2 (Swyddogaethau a all fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly)) yn unol â Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(f)yn Atodlen 3 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig) yn unol â Rhan 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Tachwedd 2004
Rheoliad 2
1. Yn Rhan B mewnosoder ar ôl paragraff 66:
Y Swyddogaeth | Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol |
---|---|
67. Swyddogaethau mewn perthynas â . sefydlu Pwyllgor Trwyddedu | Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17). |
2. Yn Rhan I:
(1) dileer paragraffau 18, 19; a
(2) mewnosoder ar ôl paragraff 17:
Swyddogaethau | Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol |
---|---|
18. Y pwerau mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr achub cerbydau modur. | Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3). |
19. Y pŵer i benodi swyddogion at ddibenion penodol (penodi “priod swyddogion”). | Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
20. Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ac i ddarparu staff etc. | Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). |
21. Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn swyddog monitro, ac i ddarparu staff, etc. | Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. |
22. Y ddyletswydd i benderfynu terfyn benthyca fforddadwy. | Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22). |
23. Cymeradwyo strategaeth fuddsoddi flynyddol yn unol â chanllawiau. | Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. |
24. Y ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol. | Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11). |
Ar y diwedd, ychwaneger:
“22. Swyddogaethau ynglyn â chyfrifo sylfaen y dreth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
(a)penderfynu swm ar gyfer eitem T yn adran 33(1) a 44(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
(b)penderfynu swm ar gyfer eitem TP yn adrannau 34(3), 45(3), 48(3) a 48(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
(c)penderfynu swm y mae ei angen i benderfynu swm ar gyfer yr eitem a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) uchod.
23. Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.”
1. Yng ngholofn (2) o'r paragraff ynglyn â'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol dileer “92” a mewnosoder “108”.
2. Dileer y cofnod ynglyn â'r Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd.
3. Ar y diwedd, ychwaneger:
(1) Cynlluniau a Strategaethau | (2) Cyfeirnod |
---|---|
Y pwerau i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc. | Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu 'trefniadau amgen' h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod yn unol ag adran 31(1)(b) ac adran 32(1) o Ddeddf 2000.
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) (fel y'u diwygiwyd) yn caniatáu i bob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru weithredu trefniadau amgen, ar yr amod bod y trefniadau hynny ar y ffurf y mae Rheoliadau 2001 (fel y'u diwygiwyd) yn gofyn amdani.
Pennodd Rheoliadau 2001 swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifioldeb i Fwrdd awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Yn rheoliad 2 mae'r rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i Reoliadau 2001 yn Atodlen 1 drwy ychwanegu at y rhestr o swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod, drwy ychwanegu at y rhestr o swyddogaethau yn Atodlen 2 a all fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly) a diwygio Atodlen 3 drwy ychwanegu at y swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig.
O.S. 2001/2284 (Cy.173) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Cynrychiolwyr Rhieni-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysi (Cymru) 2001, O.S. 2001/3711 (Cy. 307), Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002, O.S. 2002/810 (Cy. 90), a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2003, O.S. 2003/155 (Cy.25).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys