Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2004

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 313 (Cy.31)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

10 Chwefror 2004

Yn dod i rym

6 Mawrth 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (f), (17)(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 6 Mawrth 2005.

Diwygio Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995

2.  Diwygir Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995(4)) (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 i 10.

3.  Yn rheoliad 1(2) (dehongli), yn y diffiniad o “the Directive”, yn lle'r geiriau “Commission Directive 1999/50/EC” rhowch y geiriau “Commission Directive 2003/14/EC(5)”.

4.  Yn rheoliadau 2(ii) a 3(b) (amodau ar gyfer gwerthu fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol), yn lle'r ymadrodd “regulation 12” rhowch yr ymadrodd “regulations 12 and 12A”.

5.  Yn rheoliadau 5(1)(a) a 6(1)(a) (allforio fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol i drydydd gwledydd), yn lle'r ymadrodd “11 and 12” rhowch yr ymadrodd “, 11, 12 and 12A”.

6.  Yn rheoliadau 8(2) a 9(2) (cyfansoddiad fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol), hepgorwch y geiriau o “and it shall not” hyd at y diwedd.

7.  Ar ôl rheoliad 12 (cyfansoddiad fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol) mewnosodwch y rheoliad canlynol —

12A.(1) No infant formula or follow-on formula shall contain —

(a)any pesticide residue of a pesticide specified in Schedule 7A; or

(b)any omethoate, where it is a metabolite of a pesticide not specified in Schedule 7A, or any product resulting from degradation or reaction of that metabolite,

at a level exceeding 0.003 mg/kg.

(2) No infant formula or follow-on formula shall contain any pesticide residue of a pesticide specified in column 1 of Schedule 7B at a level exceeding that specified in column 2 of that Schedule in relation to that pesticide.

(3) No infant formula or follow-on formula shall contain any pesticide residue of any individual pesticide which is not specified in Schedule 7A or column 1 of Schedule 7B at a level exceeding 0.01 mg/kg.

(4) The levels referred to in paragraphs (1) to (3) apply to the infant formula or follow-on formula —

(a)manufactured as ready for consumption, or

(b)if it is not so manufactured, as reconstituted according to its manufacturer’s instructions.

(5) Analytical methods for determining levels of pesticide residues for the purposes of this regulation shall be generally acceptable standardised methods..

8.  Yn rheoliad 22 (tramgwyddau a gorfodi) —

(a)ym mharagraff (2) mewnosodwch ar y dechrau y geiriau “Except where paragraph (2A) below applies,”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosodwch y paragraff canlynol —

(2A) Each port health authority shall enforce and execute these Regulations in its district in relation to imported food..

9.  Yn lle rheoliad 23 (cymhwyso darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990) rhowch y rheoliad canlynol —

Application of various provisions of the Act

23.  The following provisions of the Act shall apply for the purposes of these Regulations (except regulation 21) with the modification that any reference in those provisions to the Act or Part thereof shall be construed as a reference to these Regulations (except regulation 21) —

(a)section 2 (extended meaning of “sale” etc.);

(b)section 3 (presumptions that food is intended for human consumption);

(c)section 20 (offences due to fault of another person);

(d)section 21 (defence of due diligence) as it applies for the purposes of section 8, 14 or 15;

(e)section 30(8) (which relates to documentary evidence);

(f)section 33(1) (obstruction etc. of officers);

(g)section 33(2), with the modification that the reference to “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” shall be deemed to be a reference to any such requirement as is mentioned in that subsection as applied by paragraph (f) above;

(h)section 35(1) (punishment of offences) in so far as it relates to offences under section 33(1) as applied by paragraph (f) above;

(i)section 35(2) and (3) in so far as it relates to offences under section 33(2) as applied by paragraph (g) above;

(j)section 36 (offences by bodies corporate); and

(k)section 44 (protection of officers acting in good faith)..

10.  Ar ôl Atodlen 7 (yr elfennau mwynol mewn llaeth buchod) mewnosodwch fel Atodlenni 7A a 7B gynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Chwefror 2004

Rheoliad 10

YR ATODLENATODLENNI 7A A 7B NEWYDD I'W MEWNOSOD YN RHEOLIADAU FFORMWLA FABANOD A FFORMWLA DDILYNOL1995

Regulation 12A

SCHEDULE 7APESTICIDES WHOSE RESIDUES MUST NOT BE PRESENT IN INFANT FORMULAE OR FOLLOW-ON FORMULAE AT A LEVEL EXCEEDING 0.003 MG/KG

Chemical name

  • Aldrin and dieldrin, expressed as dieldrin

  • Disulfoton (sum of disulfoton, disulfoton sulfoxide and disulfoton sulfone expressed as disulfoton)

  • Endrin

  • Fensulfothion (sum of fensulfothion, its oxygen analogue and their sulfones, expressed as fensulfothion)

  • Fentin, expressed as triphenyltin cation

  • Haloxyfop (sum of haloxyfop, its salts and esters including conjugates, expressed as haloxyfop)

  • Heptachlor and trans-heptachlor epoxide, expressed as heptachlor

  • Hexachlorobenzene

  • Nitrofen

  • Omethoate

  • Terbufos (sum of terbufos, its sulfoxide and sulfone, expressed as terbufos)

Regulation 12A

SCHEDULE 7BSPECIFIC MAXIMUM RESIDUE LEVELS OF CERTAIN PESTICIDES IN INFANT FORMULAE OR FOLLOW-ON FORMULAE

Column 1Column 2
Chemical name of the substanceMaximum residue level(mg/kg)
Cadusafos0.006
Demeton-S-methyl/demeton-S-methyl sulfone/oxydemeton-methyl (individually or combined, expressed as demeton-S-methyl)0.006
Ethoprophos0.008
Fipronil (sum of fipronil and fipronil-desulfinyl, expressed as fipronil)0.004
Propineb/propylenethiourea (sum of propineb and propylenethiourea)0.006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995, fel y'u diwygiwyd (“Rheoliadau 1995”), mewn perthynas â Chymru. Mae Rheoliadau 1995 yn gymwys i Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu ar gyfer Cymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/14/EC (OJ Rhif 41, 14.2.2003, t.37) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 91/321/EEC (OJ Rhif L175, 4.7.91, t.35) ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 6 Mawrth 2005.

2.  Er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb 2003/14/EC mae'r Rheoliadau —

(a)yn gwahardd gwerthu, neu allforio i drydydd gwledydd, fformwlâu babanod neu fformwlâu dilynol sy'n cynnwys gweddillion plaleiddiaid uwchlaw lefelau penodol. Mae lefelau gwahanol wedi'u pennu yn dibynnu ar y plaleiddiad o dan sylw (rheoliadau 4, 5, 7 a 10 a'r Atodlen); a

(b)yn gwneud rhai diwygiadau canlyniadol (rheoliadau 3 a 6).

3.  Er mwyn gweithredu brawddeg olaf Erthygl 6(2) o Gyfarwyddeb 91/321/EEC fel y'i hamnewidiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/50/EC, mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynglŷn â dulliau dadansoddiadol ar gyfer penderfynu lefelau gweddillion plaleiddiaid (rheoliad 7).

4.  Mae'r Rheoliadau hefyd —

(a)yn rhoi rôl ym maes gorfodi i awdurdodau iechyd porthladdoedd (rheoliad 8); a

(b)yn gwneud rhai newidiadau technegol i'r ddarpariaeth sy'n cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9).

5.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/14/EC yn cael eu trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), o'i ddarllen ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(4)

O.S. 1995/77; O.S.2001/1690 yw'r offeryn diwygio perthnasol yw (Cy.120).

(5)

OJ Rhif L41, 14.2.2003, t.37.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill