- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 5(1)
1.—(1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i ymrwymo i'r cytundeb—
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig(1).
(2) Rhaid i'r hysbysiad—
(a)disgrifio'r materion perthnasol yn gyffredinol neu bennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio disgrifiad o'r materion perthnasol;
(b)datgan rhesymau'r landlord dros ystyried bod angen ymrwymo i'r cytundeb;
(c)datgan rhesymau'r landlord dros ystyried bod angen cyflawni'r gwaith hwnnw, os gwaith cymwys yw'r materion perthnasol neu os ydynt yn cynnwys gwaith cymwys;
(ch)gwahodd sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r cytundeb arfaethedig; a
(d)pennu—
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon sylwadau o'r fath;
(ii)bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
(3) Rhaid hefyd i'r hysbysiad wahodd pob tenant a'r gymdeithas (os o gwbl) i gynnig, o fewn y cyfnod perthnasol, enw person y dylai'r landlord geisio cael ganddo amcangyfrif mewn cysylltiad â'r materion perthnasol.
2.—(1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio—
(a)rhaid i'r lle a'r amser a bennir felly fod yn rhesymol; a
(b)rhaid i ddisgrifiad o'r materion perthnasol fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, yn y lle hwnnw ac yn ystod yr oriau hynny.
(2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.
3. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r cytundeb arfaethedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.
4.—(1) Os ceir un enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (pa un a geir enwebiad gan unrhyw denant ai peidio), a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif gan y person a enwebwyd.
(2) Os ceir un enwebiad gan un o'r tenantiaid yn unig (pa un a geir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig ai peidio) a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcamgyfrif gan y person a enwebwyd.
(3) Os ceir un enwebiad gan fwy nag un tenant (pa un a geir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig ai peidio) a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif—
(a)gan y personau a gafodd y nifer fwyaf o enwebiadau; neu
(b)os nad oes personau o'r fath, ond bod dau (neu fwy) o bersonau wedi derbyn yr un nifer o enwebiadau, a bod y nifer hwnnw'n fwy na'r enwebiadau a gafodd unrhyw berson arall, gan un o'r ddau berson hynny (neu fwy); neu
(c)mewn unrhyw achos arall, gan unrhyw berson a enwebwyd.
(4) Os ceir mwy nag un enwebiad gan unrhyw denant a mwy nag un enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif—
(a)gan o leiaf un person a enwebwyd gan denant; a
(b)gan o leiaf un person a enwebwyd gan y gymdeithas, ac eithrio person y gofynnwyd am amcangyfrif ganddo fel y crybwyllir ym mharagraff (a).
5.—(1) Rhaid i'r landlord baratoi, yn unol â darpariaethau canlynol y paragraff hwn, o leiaf ddau gynnig mewn cysylltiad â'r materion perthnasol.
(2) Rhaid i o leiaf un o'r cynigion gynnig bod y nwyddau neu'r gwasanaethau'n cael eu darparu, neu fod y gwaith yn cael ei wneud (yn ôl y digwydd), gan berson nad oes ganddo unrhyw gysylltiad o gwbl â'r landlord.
(3) Os cafwyd amcangyfrif gan berson a enwebwyd, rhaid i'r landlord baratoi cynnig ar sail yr amcangyfrif hwnnw.
(4) Rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad o'r materion perthnasol.
(5) Rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad, mewn cysylltiad â phob parti i'r cytundeb arfaethedig ac eithrio'r landlord—
(a)yn rhoi enw a chyfeiriad y parti; a
(b)yn datgan unrhyw gysylltiad (ac eithrio'r cytundeb arfaethedig) sydd rhwng y parti a'r landlord.
(6) At ddibenion is-baragraff (2) ac is-baragraff (5)(b), rhaid tybio bod cysylltiad rhwng parti (yn ôl y digwydd) a'r landlord—
(a)os cwmni yw'r landlord, os yw'r parti'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu os yw'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath;
(b)os cwmni yw'r landlord, a bod y parti'n bartner mewn partneriaeth, os oes unrhyw bartner yn y bartneriaeth honno'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath;
(c)os cwmnïau yw'r landlord a'r parti ill dau, os oes unrhyw un o gyfarwyddwyr neu reolwyr un cwmni yn un o gyfarwyddwr neu reolwyr y cwmni arall, neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwr neu reolwyr y cwmni arall;
(ch)os cwmni yw'r parti, os yw'r landlord yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath; neu
(d)os cwmni yw'r parti a bod y landlord yn bartner mewn partneriaeth, os oes unrhyw bartner yn y bartneriaeth honno'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath.
(7) Os yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord amcangyfrif, o ran uned breswyl pob tenant a'r materion perthnasol, y cyfraniad perthnasol y gellir ei briodoli i'r materion perthnasol y mae a wnelo'r cytundeb arfaethedig â hwy, rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r cyfraniad amcangyfrifedig hwnnw.
(8) Os—
(a)nad yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord roi'r amcangyfrif a grybwyllir yn is-baragraff (7); a
(b)yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord amcangyfrif, mewn cysylltiad â'r adeilad neu â thir ac adeiladau eraill y mae a wnelo'r cytundeb arfaethedig â hwy, gyfanswm gwariant y landlord o dan y cytundeb arfaethedig;
rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r gwariant amcangyfrifedig hwnnw.
(9) Os—
(a)nad yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord roi'r amcangyfrif a grybwyllir yn is-baragraff (7) neu is-baragraff (8)(b); a
(b)yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord gadarnhau'r gost bresennol fesul uned neu'r gyfradd bresennol fesul awr neu ddiwrnod sy'n gymwys i'r materion perthnasol,
rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r gost neu'r gyfradd honno.
(10) Os cynnig i benodi asiant gan y landlord yw'r materion perthnasol neu os yw'r materion perthnasol yn cynnwys hynny a bod yr asiant i gyflawni rhwymedigaethau'r landlord at y tenantiaid sy'n gysylltiedig â rheoli gan y landlord dir ac adeiladau y mae a wnelo'r cytundeb â hwy, rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad—
(a)yn nodi am y person yr arfaethir ei benodi—
(i)ei fod, neu nad yw yn ôl y digwydd, yn aelod o gorff proffesiynol neu gymdeithas fasnach; a
(ii)ei fod, yn ôl y digwydd, neu nad yw, yn dilyn unrhyw god ymarfer neu gynllun achredu gwirfoddol sy'n berthnasol i swyddogaethau'r asiantau sy'n rheoli; a
(b)os yw'r person yn aelod o gorff proffesiynol neu gymdeithas fasnach, enw'r corff neu'r gymdeithas.
(11) Rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r darpariaethau (os oes rhai) a wneir ar gyfer amrywio unrhyw swm a bennir sydd yn y cytundeb arfaethedig neu sydd i'w benderfynu oddi tano.
(12) Rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi pa mor hir y bwriedir i'r cytundeb barhau.
(13) Os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord eu hystyried (yn unol â pharagraff 3), rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn rhoi crynodeb o'r sylwadau ac yn nodi ymateb y landlord iddynt.
6.—(1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o'r cynigion a baratowyd o dan baragraff 5—
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
(2) O ran yr hysbysiad—
(a)rhaid anfon gydag ef gopi o bob cynnig neu nodi ym mha le a pha bryd y gellir archwilio'r cynigion;
(b)rhaid iddo wahodd sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r cynigion; a
(c)rhaid iddo bennu—
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon y sylwadau hynny;
(ii)ei bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
(3) Bydd paragraff 2 yn gymwys i gynigion a fydd ar gael i'w harchwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad o'r materion perthnasol a fydd ar gael i'w harchwilio o dan y paragraff hwnnw.
7. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn perthynas â chynigion y landlord, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os yw'r landlord yn ymrwymo i gytundeb y mae a wnelo â materion perthnasol, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i ymrwymo i'r cytundeb, drwy hysbysiad ysgrifenedig at bob tenant a chymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (os o gwbl)—
(a)datgan y rhesymau dros wneud y cytundeb hwnnw neu bennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio datganiad o'r rhesymau hynny; a
(b)crynhoi sylwadau ac ymateb iddynt neu bennu'r lle a'r amser y gellir archwilio'r crynodeb a'r ymateb, os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord eu hystyried (yn unol â pharagraff 7).
(2) Nid yw gofynion is-baragraff (1) yn gymwys os yw person y gwnaed y cytundeb gydag ef yn berson a enwebwyd neu os yw wedi cyflwyno'r amcangyfrif isaf.
(3) Bydd paragraff 2 yn gymwys i ddatganiad, crynodeb ac ymateb a fydd ar gael i'w harchwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad o'r materion perthnasol a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.
Rheoliad 5(2)
1.—(1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i ymrwymo i'r cytundeb—
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
(2) Rhaid i'r hysbysiad—
(a)disgrifio'r materion perthnasol yn gyffredinol neu bennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio disgrifiad o'r materion perthnasol;
(b)datgan rhesymau'r landlord dros ystyried bod angen ymrwymo i'r cytundeb;
(c)datgan rhesymau'r landlord dros ystyried bod angen cyflawni'r gwaith hwnnw, os gwaith cymwys yw'r materion perthnasol neu os ydynt yn cynnwys gwaith cymwys;
(ch)datgan mai'r rheswm pam nad yw'r landlord yn gwahodd y rhai y rhoddir yr hysbysiad iddynt i enwebu personau y dylai'r landlord geisio gofyn iddynt am amcangyfrif ar gyfer y materion perthnasol, yw bod hysbysiad cyhoeddus o'r materion perthnasol i'w roi;
(d)gwahodd sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r materion perthnasol; a
(dd)pennu—
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon y sylwadau hynny;
(ii)ei bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
2.—(1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio—
(a)rhaid i'r lle a'r amser a bennir felly fod yn rhesymol; a
(b)rhaid i ddisgrifiad o'r materion perthnasol fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, yn y lle hwnnw ac yn ystod yr oriau hynny.
(2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.
3. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r materion perthnasol, a hynny o o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.
4.—(1) Rhaid i'r landlord baratoi cynnig mewn cysylltiad â'r cytundeb arfaethedig, yn unol â darpariaethau canlynol y paragraff hwn.
(2) Rhaid i'r cynnig gynnwys datganiad—
(a)yn nodi enw a chyfeiriad pob parti i'r cytundeb arfaethedig (ac eithrio'r landlord); a
(b)yn datgan unrhyw gysylltiad (ac eithrio'r cytundeb arfaethedig) sydd rhwng y landlord ac unrhyw barti arall.
(3) At ddiben is-baragraff (2)(b), rhaid tybio bod cysylltiad rhwng parti a'r landlord—
(a)os cwmni yw'r landlord, ac os yw'r parti'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu os yw'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath;
(b)os cwmni yw'r landlord, a bod y parti'n bartner mewn partneriaeth, ac os yw unrhyw bartner yn y bartneriaeth honno'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath;
(c)os cwmnïau yw'r landlord a'r parti ill dau, ac os yw unrhyw un o gyfarwyddwyr neu reolwyr un cwmni yn un o gyfarwyddwr neu reolwyr y cwmni arall, neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwr neu reolwyr y cwmni arall;
(ch)os cwmni yw'r parti, ac os yw'r landlord yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath; neu
(d)os cwmni yw'r parti a bod y landlord yn bartner mewn partneriaeth, ac os yw unrhyw bartner yn y bartneriaeth honno'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath.
(4) Os yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord amcangyfrif, o ran uned breswyl pob tenant, y cyfraniad perthnasol sydd i'w dynnu gan y tenant, ac y gellir ei briodoli i'r materion perthnasol y mae a wnelo'r cytundeb arfaethedig â hwy, rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r cyfraniad hwnnw.
(5) Os—
(a)nad yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord roi'r amcangyfrif a grybwyllir yn is-baragraff (4); a
(b)yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord amcangyfrif cyfanswm gwariant y landlord o dan y cytundeb arfaethedig mewn cysylltiad â'r adeilad neu dir ac adeiladu eraill y mae a wnelo'r cytundeb arfaethedig â hwy;
rhaid i'r cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r gwariant amcangyfrifedig hwnnw.
(6) Os—
(a)nad yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord roi'r amcangyfrif a grybwyllir yn is-baragraff (4) neu is-baragraff (5)(b); a
(b)os yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord gadarnhau'r gost bresennol fesul uned neu'r gyfradd bresennol fesul awr neu ddiwrnod sy'n gymwys i'r materion perthnasol y mae a wnelo'r cytundeb arfaethedig ag ef,
rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r gost neu'r gyfradd honno.
(7) Os nad yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord roi'r amcangyfrif a grybwyllir yn is-baragraff (6)(b), rhaid i'r cynnig gynnwys datganiad o'r rhesymau pam na all y landlord gydymffurfio, a nodi'r dyddiad y mae'r landlord yn disgwyl y bydd yn gallu darparu amcangyfrif, cost neu gyfradd.
(8) Os cynnig i benodi asiant gan y landlord yw'r materion perthnasol neu os yw'r materion perthnasol yn cynnwys hynny a bod yr asiant i gyflawni rhwymedigaethau'r landlord at y tenantiaid, sy'n gysylltiedig â rheoli gan y landlord dir ac adeiladau y mae a wnelo'r cytundeb â hwy, rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad —
(a)yn nodi am y person yr arfaethir ei benodi—
(i)ei fod, neu nad yw, yn ôl y digwydd, yn aelod o gorff proffesiynol neu gymdeithas fasnach; a
(ii)ei fod, neu nad yw, yn ôl y digwydd, yn rhan o unrhyw god ymarfer neu gynllun achredu gwirfoddol sy'n berthnasol i swyddogaethau'r asiantau sy'n rheoli; a
(b)enw'r corff neu'r gymdeithas, os yw'r person yn aelod o gorff proffesiynol neu gymdeithas fasnach.
(9) Rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi pa mor hir y bwriedir i'r cytundeb barhau.
(10) Os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord eu hystyried (yn unol â pharagraff 3), rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn rhoi crynodeb o'r sylwadau ac yn nodi ymateb y landlord iddynt.
5.—(1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o'r cynnig sydd wedi'i baratoi o dan baragraff 4—
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
(2) O ran yr hysbysiad—
(a)rhaid anfon gydag ef gopi o'r cynnig neu bennu ynddo ym mha le a pha bryd y gellir archwilio'r cynigion;
(b)rhaid iddo wahodd sylwadau ysgrifenedig, mewn perthynas â'r cynnig; a
(c)rhaid iddo bennu —
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon y sylwadau hynny;
(ii)ei bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
(3) Bydd paragraff 2 yn gymwys i gynnig a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.
6. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn perthynas â chynnig y landlord, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.
7. Os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord (yn unol â pharagraff 6) eu hystyried, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i'w derbyn, ddatgan ymateb y landlord i'r sylwadau a hynny mewn hysbysiad ysgrifenedig i'r person a wnaeth y sylwadau.
8. Os yw cynnig a baratowyd o dan baragraff 4 yn cynnwys datganiad o'r math a grybwyllir yn is-baragraff (7) o'r paragraff hwnnw, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i dderbyn digon o wybodaeth i alluogi'r landlord i amcangyfrif y swm, y gost neu'r gyfradd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4), (5) neu (6) o'r paragraff hwnnw, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r swm, y gost neu'r gyfradd—
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
Rheoliad 7(1) a (2)
1.—(1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i gyflawni gwaith cymwys —
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
(2) Rhaid i'r hysbysiad—
(a)disgrifio'n gyffredinol y gwaith y cynigir ei gyflawni neu bennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio disgrifiad o'r gwaith arfaethedig;
(b)datgan rhesymau'r landlord dros ystyried bod angen cyflawni'r gwaith arfaethedig;
(c)cynnwys datganiad o gyfanswm y gwariant amcangyfrifedig y mae'n debygol y bydd y landlord yn ei dynnu wrth wneud y gwaith arfaethedig ac yn gysylltiedig ag ef;
(ch)gwahodd sylwadau ysgrifenedig, mewn perthynas â'r gwaith arfaethedig neu â gwariant amcangyfrifedig y landlord;
(d)pennu —
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon y sylwadau hynny;
(ii)ei bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
2.—(1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio—
(a)rhaid i'r lle a'r amser a bennir felly fod yn rhesymol; a
(b)rhaid i ddisgrifiad o'r gwaith arfaethedig fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, yn y lle hwnnw ac yn ystod yr oriau hynny.
(2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.
3. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r gwaith arfaethedig neu â gwariant amcangyfrifedig y landlord, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.
4. Os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord (yn unol â pharagraff 3) eu hystyried, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i'w derbyn, ddatgan ymateb y landlord i'r sylwadau, a hynny mewn hysbysiad ysgrifenedig i'r person a wnaeth y sylwadau.
Rheoliad 7(4)
1.—(1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i gyflawni gwaith cymwys —
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
(2) Rhaid i'r hysbysiad—
(a)disgrifio'n gyffredinol y gwaith y cynigir ei gyflawni neu bennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio disgrifiad o'r gwaith arfaethedig;
(b)datgan rhesymau'r landlord dros ystyried bod angen cyflawni'r gwaith arfaethedig;
(c)datgan mai'r rheswm pam nad yw'r landlord yn gwahodd y rhai sy'n derbyn yr hysbysiad i enwebu personau y dylai'r landlord geisio cael ganddynt amcangyfrif ar gyfer cyflawni'r gwaith, yw bod hysbysiad cyhoeddus o'r gwaith i'w roi;
(ch)gwahodd sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r gwaith arfaethedig; a
(d)pennu —
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon y sylwadau hynny;
(ii)ei bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
2.—(1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio—
(a)rhaid i'r lle a'r amser a bennir felly fod yn rhesymol; a
(b)rhaid i ddisgrifiad o'r gwaith arfaethedig fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, yn y lle hwnnw ac yn ystod yr oriau hynny.
(2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi o'r disgrifiad, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.
3. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r gwaith arfaethedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.
4.—(1) Rhaid i'r landlord baratoi, yn unol â darpariaethau canlynol y paragraff hwn, ddatganiad mewn perthynas â'r contract arfaethedig y cyflawnir y gwaith arfaethedig oddi tano.
(2) Rhaid i'r datganiad nodi—
(a)enw a chyfeiriad y person y mae'r landlord yn bwriadu ymrwymo i gontract gydag ef; a
(b)manylion unrhyw gysylltiad (ac eithrio'r contract arfaethedig) rhyngddynt.
(3) At ddiben is-baragraff (2)(b), rhaid tybio bod cysylltiad rhwng person a'r landlord—
(a)os cwmni yw'r landlord, ac os yw'r person yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu os yw'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath;
(b)os cwmni yw'r landlord, a bod y person yn bartner mewn partneriaeth, ac os yw unrhyw bartner yn y bartneriaeth honno'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath;
(c)os cwmnïau yw'r landlord a'r person ill dau, ac os yw unrhyw un o gyfarwyddwyr neu reolwyr un cwmni yn un o gyfarwyddwr neu reolwyr y cwmni arall, neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni arall;
(ch)os cwmni yw'r person, ac os yw'r landlord yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath; neu
(d)os cwmni yw'r person a bod y landlord yn bartner mewn partneriaeth, ac os yw unrhyw bartner yn y bartneriaeth honno'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath.
(4) Os yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord amcangyfrif, o ran uned breswyl pob tenant, swm y cyfraniad perthnasol sydd i'w dynnu gan y tenant ac sydd i'w briodoli i'r gwaith y mae a wnelo'r contract arfaethedig ag ef, rhaid pennu'r swm amcangyfrifedig hwnnw yn y datganiad.
(5) Os—
(a)nad yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord roi'r amcangyfrif a grybwyllir yn is-baragraff (4); a
(b)os yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord amcangyfrif, mewn cysylltiad â'r adeilad neu dir ac adeiladu eraill y mae a wnelo'r contract arfaethedig â hwy, gyfanswm gwariant y landlord o dan y cytundeb arfaethedig,
rhaid pennu'r swm amcangyfrifedig hwnnw yn y datganiad.
(6) Os—
(a)nad yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord roi'r amcangyfrif a grybwyllir yn is-baragraff (4) neu is-baragraff (5)(b); a
(b)os yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord gadarnhau'r gost bresennol fesul uned neu'r gyfradd bresennol fesul awr neu ddiwrnod sy'n gymwys i'r gwaith y mae a wnelo'r contract arfaethedig ag ef,
rhaid pennu'r gost neu'r gyfradd honno yn y datganiad.
(7) Os nad yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord roi'r amcangyfrif a grybwyllir yn is-baragraff (6)(b), rhaid nodi yn y datganiad y rhesymau pam na all y landlord gydymffurfio ynghyd â'r dyddiad y mae'r landlord yn disgwyl y bydd yn gallu darparu swm, cost neu gyfradd amcangyfrifedig.
(8) Os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord eu hystyried (yn unol â pharagraff 3), rhaid i'r datganiad gynnwys crynodeb o'r sylwadau a nodi ymateb y landlord iddynt.
5.—(1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i ymrwymo i'r contract arfaethedig—
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
(2) O ran yr hysbysiad—
(a)Rhaid iddo fod yn ddatganiad a baratowyd yn unol â pharagraff 4 (“datganiad paragraff 4”) neu rhaid bod datganiad o'r fath gydag ef, neu iddo bennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio'r datganiad hwnnw;
(b)Rhaid i'r hysbysiad wahodd sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas ag unrhyw fater a grybwyllir yn natganiad paragraff 4;
(c)Rhaid i'r hysbysiad bennu —
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon y sylwadau hynny;
(ii)ei bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
(3) Pan sicrheir bod datganiad paragraff 4 ar gael i'w archwilio, rhaid i baragraff 2 fod yn gymwys mewn perthynas â'r datganiad hwnnw fel y mae'n gymwys mewn perthynas â disgrifiad o'r gwaith arfaethedig sydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.
6. Os gwneir sylwadau yn ymateb i'r gwahoddiad yn yr hysbysiad o dan baragraff 5, rhaid i'r landlord ddatgan ymateb y landlord i'r sylwadau, a hynny o fewn 21 diwrnod i'w derbyn ac mewn hysbysiad ysgrifenedig at y person a wnaeth y sylwadau.
7. Os yw datganiad a gaiff ei baratoi o dan baragraff 4(7) yn pennu rhesymau'r landlord dros fethu cydymffurfio ag is-baragraff (6) o'r paragraff hwnnw, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i dderbyn digon o wybodaeth i'w alluogi i amcangyfrif y swm, y gost neu'r gyfradd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4), (5) neu (6) o'r paragraff hwnnw, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r swm, y gost neu'r gyfradd amcangyfrifedig (yn ôl y digwydd)—
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
1.—(1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i gyflawni gwaith cymwys —
(a)i bob tenant; a
(b)i'r gymdeithas, os cynrychiolir rhai o'r tenantiaid neu'r tenantiaid i gyd gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.
(2) Rhaid i'r hysbysiad—
(a)disgrifio'n gyffredinol y gwaith y cynigir ei gyflawni neu bennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio disgrifiad o'r gwaith arfaethedig;
(b)datgan rhesymau'r landlord dros ystyried bod angen cyflawni'r gwaith arfaethedig;
(c)gwahodd sylwadau ysgrifenedig, mewn perthynas â'r gwaith arfaethedig; a
(ch)pennu—
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon y sylwadau hynny;
(ii)ei bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
(3) Rhaid hefyd i'r hysbysiad wahodd pob tenant a'r gymdeithas (os oes un) i gynnig, o fewn y cyfnod perthnasol, enw person y dylai'r landlord geisio cael ganddo amcangyfrif mewn cysylltiad â chyflawni'r gwaith arfaethedig .
2.—(1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio—
(a)rhaid i'r lle a'r amser a bennir felly fod yn rhesymol; a
(b)rhaid i ddisgrifiad o'r gwaith arfaethedig fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, yn y lle hwnnw ac yn ystod yr oriau hynny.
(2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.
3. Os gwneir sylwadau gan unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig mewn cysylltiad â'r gwaith arfaethedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.
4.—(1) Os ceir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (pa un a geir enwebiad gan unrhyw denant ai peidio), a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif gan y person a enwebwyd.
(2) Os ceir enwebiad gan un o'r tenantiaid yn unig (pa un a geir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig ai peidio), a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif gan y person a enwebwyd.
(3) Os ceir un enwebiad gan fwy nag un tenant (pa un a geir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig ai peidio), a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif—
(a)gan y person a gafodd y nifer fwyaf o enwebiadau; neu
(b)os nad oes person o'r fath, ond bod dau (neu fwy) o bersonau wedi derbyn yr un nifer o enwebiadau, a bod y nifer hwnnw'n fwy na'r enwebiadau a gafodd unrhyw berson arall, oddi wrth un o'r ddau berson hynny (neu fwy); neu
(c)mewn unrhyw achos arall, gan unrhyw berson a enwebwyd.
(4) Os ceir mwy nag un enwebiad gan unrhyw denant a mwy nag un enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif—
(a)gan o leiaf un person a enwebwyd gan denant; a
(b)gan o leiaf un person a enwebwyd gan y gymdeithas, ac eithrio person y gofynnir iddo am amcangyfrif fel y crybwyllir ym mharagraff (a).
(5) Rhaid i'r landlord, yn unol â'r is-baragraff hwn ac is-baragraffau (6) i (9)—
(a)cael amcangyfrifon am gyflawni'r gwaith arfaethedig;
(b)cyflenwi'n rhad ac am ddim ddatganiad (“datganiad paragraff (b)”) sy'n nodi—
(i)o ran o leiaf ddau o'r amcangyfrifon, y swm a benodwyd sydd yn yr amcangyfrif fel cost amcangyfrifedig y gwaith arfaethedig; a
(ii)crynodeb o unrhyw sylwadau sydd wedi'u gwneud yn unol â pharagraff 3 ac ymateb y landlord iddynt; a
(c)sicrhau bod yr holl amcangyfrifon ar gael i'w harchwilio.
(6) Rhaid i o leiaf un o'r amcangyfrifon fod yn amcangyfrif gan berson nad oes cysylltiad o gwbl rhyngddo a'r landlord.
(7) At ddiben paragraff (6), rhaid tybio bod cysylltiad rhwng person a'r landlord—
(a)os cwmni yw'r landlord, os yw'r person yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu os yw'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath;
(b)os cwmni yw'r landlord, bod y person yn bartner mewn partneriaeth, ac os yw unrhyw bartner yn y bartneriaeth honno'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni, neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath;
(c)os cwmnïau yw'r landlord a'r person ill dau, os yw unrhyw un o gyfarwyddwyr neu reolwyr un cwmni yn un o gyfarwyddwr neu reolwyr y cwmni arall, neu'n mynd i fod yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni arall;
(ch)os cwmni yw'r person, os yw'r landlord yn un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath; neu
(d)os cwmni yw'r person a bod y landlord yn bartner mewn partneriaeth, os yw unrhyw bartner yn y bartneriaeth honno'n un o gyfarwyddwyr neu reolwyr y cwmni neu'n perthyn yn agos i unrhyw gyfarwyddwr neu reolwr o'r fath.
(8) Os yw'r landlord wedi cael amcangyfrif gan berson a enwebwyd, rhaid i'r amcangyfrif hwnnw fod yn un o'r rhai y mae a wnelo datganiad paragraff (b) â hwy.
(9) Rhaid rhoi datganiad paragraff (b) i'r canlynol a sicrhau bod yr amcangyfrifon ar gael i'w harchwilio ganddynt—
(a)pob tenant; a
(b)ysgrifennydd y gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (os oes un).
(10) Rhaid i'r landlord, drwy hysbysiad ysgrifenedig a anfonir at bob tenant ac at y gymdeithas (os oes un)—
(a)pennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio'r amcangyfrifon;
(b)gwahodd sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r amcangyfrifon hynny;
(c)pennu—
(i)y cyfeiriad lle y dylid anfon y sylwadau hynny;
(ii)ei bod yn rhaid iddynt gyrraedd o fewn y cyfnod perthnasol; a
(iii)y dyddiad y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
(11) Bydd paragraff 2 yn gymwys i amcangyfrifon a fydd ar gael i'w harchwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad o waith arfaethedig a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.
5. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r amcangyfrifon, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.
6. Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os bydd y landlord yn ymrwymo i gontract ar gyfer cyflawni gwaith cymwys, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i ymrwymo i'r contract, drwy hysbysiad ysgrifenedig at bob tenant a chymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (os oes un)—
(a)datgan y rhesymau dros ddyfarnu'r contract neu nodi ym mha le a pha bryd y gellir archwilio datganiad o'r rhesymau hynny; a
(b)rhoi crynodeb o'r sylwadau a nodi ymateb y landlord iddynt, os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord eu hystyried (yn unol â pharagraff 5).
(2) Nid yw gofynion is-baragraff (1) yn gymwys os yw person yr ymrwymwyd i'r contract gydag ef yn berson a enwebwyd neu os yw wedi cyflwyno'r amcangyfrif isaf.
(3) Bydd paragraff 2 yn gymwys i ddatganiad a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad o waith cymwys a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.
Gweler adran 29(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 a ddiwygiwyd gan Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p.31), Atodlen 2, paragraff 10.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys