- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LANDLORD A THENANT
Wedi'u gwneud
9 Mawrth 2004
Yn dod i rym
31 Mawrth 2004
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ac Estyn) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn unig —
(a)mewn perthynas â thŷ lesddaliad yng Nghymru(3);
(b)i achosion lle mae hysbysiad o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lesddaliad (hysbysiad tenant o ddymuniad i gael neu i honni bod ganddo hawl i gaffael y rhydd-ddaliad neu les estynedig) ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
3. Diwygir Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ac Estyn) 1967(4) fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff 2 o Ran 1 o'r Atodlen, ar ôl y geiriau “tenancy and” rhodder “, in a case to which paragraph 2A applies,”;
(b)ar ôl y paragraff hwnnw rhodder—
“2A This paragraph applies where—
(a)the tenancy in question is a business tenancy; or
(b)a flat forming part of the house is let to a person who is a qualifying tenant for the purposes of Chapter 1 or 2 of Part 1 of the Leasehold Reform, Housing and Urban Development Act 1993,”;
(c)ym mharagraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen ar ôl y geiriau “tenancy and” rhodder “, in a case to which paragraph 1A applies,”;
(d)ar ôl y paragraff hwnnw rhodder—
“1A This paragraph applies where—
(a)the tenancy in question is a business tenancy; or
(b)a flat forming part of the house is let to a person who is a qualifying tenant for the purposes of Chapter 1 or 2 of Part 1 of the Leasehold Reform, Housing and Urban Development Act 1993.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ac Estyn) 1967 sy'n pennu'r amodau sy'n llywodraethu'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth roi effaith i hysbysiad o dan Ran I o Ddeddf Diwygio Lesddaliad 1967 (“Deddf 1967”), o ddymuniad tenant i gael rhydd-ddaliad neu brydles estynedig ar dŷ lesddaliad. Bydd y rheoliadau hyn yn gymwys i achosion lle mae cais am ryddfreinio neu estyn les o dan Ddeddf 1967 yn cael ei wneud mewn perthynas â thŷ lesddaliad yng Nghymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau i rym.
Mae'r diwygiadau yn digwydd o ganlyniad i ddiwygiadau a wneir i adran 1 o Ddeddf 1967 gan adrannau 138 i 140 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”) (p.15). Yn ddarostyngedig i ddau eithriad, diddymodd y darpariaethau hyn yn Neddf 2002 y prawf preswylio (a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r tenant fod wedi meddiannu'r tŷ fel ei unig neu ei brif gartref am y deuddeg mis diwethaf neu am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o dair blynedd yn y deng mlynedd diwethaf) ar gyfer hawliadau am ryddfreinio neu estyn les ac yn lle'r prawf preswylio rhoddodd ofyniad bod y tenant wedi dal y les am ddwy flynedd.
Y ddau eithriad i ddiddymu'r prawf preswylio yw: (i) lle mae'r denantiaeth o dan sylw yn denantiaeth fusnes, a (ii) lle mae fflat sy'n rhan o'r tŷ yn cael ei osod i denant sy'n 'denant cymwys' ar y fflat at ddibenion Pennod 1 neu 2 o Ran I o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p.28). Yn y ddau achos hyn, er mwyn gwneud cais o dan Ran I o Ddeddf 1967, mae'n rhaid i'r tenant fod wedi byw yn y tŷ fel ei unig neu ei brif gartref am y ddwy flynedd diwethaf neu am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o ddwy flynedd yn y deng mlynedd diwethaf.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).
1967 p.88. Diwygiwyd adran 22(2) gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol) 1974, O.S.1974/1896.
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(2) o Ddeddf Diwygio Lesddaliad 1967 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.
Gweler adran 2 o Ddeddf Diwygio Lesddaliad 1967 p.88 er mwyn cael dehongliad o ''house''.
O.S. 1967/1879, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys