- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
17. Bydd yn ddyletswydd ar bob Cyngor i adolygu'n gyson y modd y gweithredir y gwasanaeth iechyd yn ei ardal, i wneud argymhellion ar gyfer gwella'r gwasanaeth hwnnw ac i roi cyngor i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, neu Ymddiriedolaeth GIG ar y materion hynny y mae'r Cyngor yn eu hystyried yn briodol ac sy'n gysylltiedig â gweithredu'r gwasanaeth iechyd o fewn ei ardal.
18.—(1) Bydd yn ddyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac Awdurdod Iechyd Strategol (y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn fel “corff GIG perthnasol”) mewn perthynas â gwasanaethau iechyd y mae'n gyfrifol amdanynt, i gynnwys Cyngor
(a)yng ngwaith cynllunio'r ddarpariaeth o'r gwasanaethau hynny,
(b)yng ngwaith llunio ac ystyried cynigion i newid y modd y darperir y gwasanaethau hynny, ac
mewn penderfyniadau sydd i'w gwneud gan y corff hwnnw sy'n effeithio ar y ffordd y mae'r gwasanaethau hynny yn cael eu rhoi ar waith[
(2) Os yw corff GIG perthnasol wrthi'n ystyried unrhyw gynnig ar gyfer datblygu'r gwasanaeth iechyd yn sylweddol yn ardal Cyngor, neu ar gyfer amrywio'n sylweddol y modd y mae'r gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddarparu, rhaid iddo ymgynghori â'r Cyngor hwnnw.
(3) Ni fydd paragraffau (1) a (2) yn gymwys i gynigion i sefydlu Bwrdd Iechyd Lleol neu i amrywio neu ddirymu Gorchymyn Bwrdd Iechyd Lleol neu i sefydlu neu ddiddymu Ymddiriedolaeth GIG.
(4) Ni fydd paragraffau (1) a (2) yn gymwys i unrhyw gynigion y mae'r corff GIG perthnasol yn fodlon bod yn rhaid gwneud penderfyniad arnynt heb ganiatáu ymgynghori, a hynny er budd y gwasanaeth iechyd neu oherwydd risg i ddiogelwch neu les cleifion neu staff; ond mewn achos o'r fath, rhaid i'r corff GIG perthnasol hysbysu'r Cyngor ar unwaith o'r penderfyniad a wnaed a'r rheswm pam na fu ymgynghori.
(5) Caiff Cyngor yr ymgynghorwyd ag ef gan gorff GIG perthnasol yn unol â pharagraff (2) gyflwyno sylwadau ar y cynnig sy'n destun yr ymgynghori erbyn y dyddiad a bennir gan y corff GIG perthnasol.
(6) Mewn unrhyw achos lle nad yw Cyngor yn fodlon —
(a)bod yr ymgynghori ar unrhyw gynnig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2) wedi bod yn ddigonol o ran y cynnwys neu'r amser a ganiatawyd; neu
(b)pan yw paragraff (4) yn gymwys, fod y rheswm a roddwyd gan y corff GIG perthnasol yn ddigonol,
caiff gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad ac fe gaiff y Cynulliad ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu'r Ymddiriedolaeth GIG berthnasol, a chaiff ofyn i'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu'r Awdurdod Iechyd Strategol o dan sylw gyflawni'r ymgynghori, neu'r ymgynghori pellach, â Chyngor y mae'n barnu ei fod yn briodol.
(7) Os yw ymgynghori pellach wedi bod yn ofynnol o dan baragraff (6), rhaid i'r corff GIG perthnasol, gan roi sylw i ganlyniad yr ymgynghori hwnnw, ailystyried unrhyw benderfyniad y mae wedi'i gymryd ynglyn â'r cynnig o dan sylw.
(8) Mewn unrhyw achos lle mae Cyngor o'r farn na fyddai cynnig a gyflwynwyd o dan baragraff (2) gan Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu Ymddiriedolaeth GIG perthnasol er budd y gwasanaeth iechyd yn ei ardal, caiff gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad a chaiff y Cynulliad wneud penderfyniad terfynol ar y cynnig a'i gwneud yn ofynnol i'r corff GIG perthnasol gymryd y camau, neu beidio â chymryd y camau, y mae'r Cynulliad yn cyfarwyddo y dylid eu cymryd.
19.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn ddyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol i roi i Gyngor yr wybodaeth honno am gynllunio a gweithredu gwasanaethau iechyd yn ei ardal y gall y Cyngor yn rhesymol ofyn amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau.
(2) Nid fydd dim ym mharagraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Awdurdod Iechyd Strategol, neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ddarparu gwybodaeth gyfrinachol mewn cysylltiad â —
(a)diagnosis neu driniaeth i unrhyw glaf; neu
(b)materion personél yn effeithio ar unrhyw swyddog a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Awdurdod Iechyd Strategol, neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; neu unrhyw wybodaeth arall y gwaherddir drwy gyfraith ei datgelu.
(3) Os bydd i Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Awdurdod Iechyd Strategol wrthod datgelu i Gyngor wybodaeth nad yw paragraff (2) yn gymwys iddi, caiff y Cyngor apelio at y Cynulliad a bydd penderfyniad y Cynulliad ynghylch a yw'n rhesymol i'r Cyngor ofyn am yr wybodaeth er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau yn derfynol at ddibenion y rheoliad hwn.
20.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, caiff personau a gafodd eu hawdurdodi'n ysgrifenedig gan Gyngor, ar unrhyw adeg resymol, fynd i mewn i fangreoedd y mae'r canlynol yn berchen arnynt neu'n eu rheoli i'w harchwilio:—
(a)Byrddau Iechyd Lleol;
(b)Ymddiriedolaethau GIG ;
(c)awdurdodau lleol;
(ch)Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol;
(d)personau sy'n darparu gwasanaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 1977 neu o dan drefniadau o dan adran 28C o'r Ddeddf honno, neu
(dd)personau sy'n darparu gwasanaethau peilot o dan gynlluniau peilot a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf 2001, neu sy'n darparu gwasanaethau o dan gynllun GFfLl a sefydlwyd o dan Atodlen 8A i'r Ddeddf,
(e)personau sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran I o'r Ddeddf; neu
(f)personau sy'n berchen ar fangreoedd lle y darperir gwasanaethau fel a grybwyllir yn (d) (dd), neu (e).
(2) Rhaid rhoi i bob person a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) dystiolaeth ysgrifenedig ei fod wedi'i awdurdodi a phan fydd yn ceisio mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at y dibenion a bennwyd yn y paragraff hwnnw, rhaid iddo ddangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannwr y fangre honno neu gan berson sy'n gweithredu ar ran y naill neu'r llall ohonynt.
(3) Ac eithrio pan fydd Cyngor o'r farn ei bod yn fanteisiol i'r gwasanaeth iechyd ac er budd y gwasanaeth hwnnw, neu pan fydd risg i ddiogelwch neu les cleifion neu staff, rhaid i berson a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) beidio â mynnu ei fod yn cael mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw fel mater o hawl oni chafodd y person neu'r corff sy'n berchen arni neu sy'n eu rheoli rybudd rhesymol o'i fwriad.
(4) Ni chaiff person a awdurdodwyd gan Gyngor o dan baragraff (1) fynd i mewn i unrhyw fangre neu ran o fangre a ddefnyddir fel llety preswyl —
(a)ar ran personau a gyflogir gan unrhyw rai o'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraffau 4(a) i (ch); neu
(b)gan bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (4)(d) i (e),
heb iddo fod wedi cael caniatâd y bobl hynny'n gyntaf.
(5) Wrth arfer hawliau i fynd i mewn i fangre i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, bydd yn rhaid i Gyngor gadw mewn cof yr angen am sicrhau diogelwch, preifatrwydd ac urddas claf, ac unrhyw gyngor neu ganllawiau a roddwyd gan y Cynulliad a phan fydd yn ymarferol gwneud hynny, bydd yn cydweithredu ag unrhyw gorff arall sy'n arfer hawliau tebyg yn unol ag unrhyw ddeddfiad.
21. Bydd yn ddyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol i drefnu cyfarfod rhwng dim llai na thraean aelodau'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ac aelodau'r Cyngor er mwyn trafod materion y gallai'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd Lleol gytuno arnynt rhyngddynt, a hynny ddim llai nag unwaith bob blwyddyn.
22. Rhaid i Gynghorau ddarparu'r gwasanaethau adfocatiaeth y mae angen eu darparu o dan adran 19A o'r Ddeddf ar ran y Cynulliad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys