- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 13
1. Cynhelir cyfarfod cyntaf Cyngor a sefydlwyd o dan adran 20A(2)(b) o'r Ddeddf ar y dyddiad ac mewn lle y gall y Cynulliad a fydd yn gyfrifol am alw'r cyfarfod eu pennu.
2. Rhaid cynnal cyfarfod o'r Cyngor o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o dri mis a rhaid i'r cyfarfodydd fod yn agored i'r cyhoedd.
3.—(1) Ar ôl y cyfarfod cyntaf, caiff y cadeirydd alw cyfarfod o'r Cyngor unrhyw bryd.
(2) Os cyflwynir cais am gynnal cyfarfod, a hwnnw wedi'i lofnodi gan draean o leiaf o gyfanswm yr aelodau, i'r cadeirydd, a naill ai —
(a)bod y cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod; neu
(b)nad yw'r cadeirydd yn galw cyfarfod o fewn deg diwrnod i dderbyn y cais, a hynny heb wrthod galw cyfarfod,
caiff yr aelodau hynny alw cyfarfod ar eu hunion.
(3) Cyn pob cyfarfod o Gyngor, rhaid danfon hysbysiad o'r cyfarfod—
(a)sy'n nodi'r busnes y cynigir ei drin yno; a
(b)a lofnodwyd gan y Prif Swyddog neu gan un o swyddogion y Cyngor a awdurdodwyd gan y Prif Swyddog i arwyddo ar ei ran,
i bob aelod, neu ei anfon trwy'r post i'w breswylfa arferol neu ei gyfeiriad busnes arferol, a hynny o leiaf saith diwrnod cyfan cyn dyddiad y cyfarfod.
(4) Ni fydd methu â chyflwyno hysbysiad i unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.
(5) Yn achos cyfarfod a gaiff ei alw gan aelodau yn hytrach na'r cadeirydd, rhaid i'r aelodau hynny lofnodi'r hysbysiad ac yn y cyfarfod rhaid peidio â thrin unrhyw fusnes heblaw'r busnes a bennir yn yr hysbysiad.
4.—(1) Mewn unrhyw gyfarfod o Gyngor rhaid i'r cadeirydd lywyddu, os yw'n bresennol.
(2) Os yw'r cadeirydd yn absennol o'r cyfarfod rhaid i is-gadeirydd lywyddu os yw'n bresennol.
(3) Os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn absennol, llywyddir gan aelod y bydd yr aelodau sy'n bresennol yn ei ddewis.
5. Penderfynir ar bob cwestiwn mewn cyfarfod gan fwyafrif pleidleisiau yr aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn ac, yn achos pleidlais gytbwys, bydd gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a honno'r bleidlais fwrw.
6. Rhaid peidio â thrin unrhyw fusnes mewn cyfarfod onid oes traean o'r aelodau o leiaf yn bresennol (ac eithrio llefydd gwag ac aelodau cyfetholedig).
7. Rhaid llunio cofnodion a'u cyflwyno er mwyn cytuno arnynt yng nghyfarfod nesaf y Cyngor, a rhaid i'r person sy'n llywyddu yno eu llofnodi.
8. Rhaid cofnodi enwau aelodau sy'n bresennol mewn cyfarfod yng nghofnodion y cyfarfod.
9. Ym mharagraff 3 o'r Atodlen hon mae “cadeirydd” yn cynnwys is-gadeirydd sy'n gweithredu fel cadeirydd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys