- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Wedi'i wneud
24 Mawrth 2004
Yn dod i rym
1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 88(7) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1), a chan y ddarpariaeth honno fel y'i cymhwysir gan adran 4(2) o Ddeddf Cwn (Baeddu Tir) 1996(2), sef y pwerau sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru(3), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sbwriel a Baeddu gan Gŵn (Cosb Benodedig) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr yn unig ac mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig.
2. Yn adran 88(6) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (sy'n pennu'r gosb benodol am adael sbwriel ac a gymhwysir yn ogystal gan adran 4(2) o Ddeddf Cŵ n (Baeddu Tir) 1996)—
(a)ar ôl y swm a bennwyd ar gyfer Lloegr mewnosoder “or, in Wales, £75”, a
(b)diddymir drwy hyn unrhyw gyfeiriad at £25 sy'n goroesi.
3.—(1) Dirymir Gorchymyn Sbwriel (Cosb Benodedig) 1996(4) mewn perthynas â Chymru.
(2) Dirymir Erthygl 3 o Orchymyn Baeddu gan Gŵ n (Cosbau Penodedig) 1996(5) (swm y gosb benodedig) mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mawrth 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn darparu y caiff rhywun dalu cosb benodedig er mwyn ei ryddhau ei hun o fod yn agored i'w gollfarnu am y tramgwydd o adael sbwriel o dan adran 87 o'r Ddeddf honno.
Mae Adran 4 o Ddeddf Cŵ n (Baeddu Tir) 1996 yn darparu y caiff rhywun dalu cosb benodedig er mwyn ei ryddhau ei hun o fod yn agored i'w gollfarnu am y tramgwydd o fethu â chael gwared ar faw cŵ n o dan adran 3 o'r Ddeddf honno, ac mae'n cymhwyso darpariaethau adran 88 (2)–(8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd.
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yn cynyddu'r gosb benodedig am y tramgwyddau hyn ill dau, sef y tramgwydd o adael sbwriel a'r tramgwydd o faeddu gan gŵ n, o £25 i £75.
Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys