- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
12 Ebrill 2005
Yn dod i rym
30 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) ac is-adran (2) o adran 2 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2), ac yntau wedi'i ddynodi(3) at ddibenion yr is-adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfio â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed ac amcanion ansawdd aer, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002(4).
3.—(1) Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2002, mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol:
“ystyr “y cyhoedd” yw person neu bersonau naturiol neu gyfreithiol, gan gynnwys cyrff gofal iechyd a chyrff sydd â buddiant yn ansawdd yr aer amgylchynol ac sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd ond heb eu cyfyngu i'r cyrff hynny;”.
(2) Yn rheoliad 10 o Reoliadau 2002, mewnosoder ar ôl paragraff (11)—
“(12) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod cyfleoedd cynnar ac effeithiol yn cael eu rhoi i'r cyhoedd i gymryd rhan wrth baratoi ac addasu neu adolygu unrhyw gynllun neu raglen y mae'n ofynnol eu llunio o dan baragraff (3), yn unol â pharagraffau (13) a (14).
(13) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a)sicrhau bod y cyhoedd yn cael ei hysbysu, p'un ai drwy hysbysiadau cyhoeddus neu ddulliau priodol eraill megis cyfrwng electronig, ynghylch unrhyw gynigion ar gyfer paratoi cynlluniau neu raglenni o'r fath, neu ar gyfer eu haddasu neu eu diwygio;
(b)sicrhau bod unrhyw wybodaeth am y cynigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried ei bod yn berthnasol ar gael i'r cyhoedd, gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ac i gyflwyno sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(c)sicrhau bod cyfle gan y cyhoedd i gyflwyno sylwadau cyn i benderfyniadau ar y cynllun neu'r rhaglen gael eu gwneud;
(ch)cymryd sylw dyladwy o unrhyw sylwadau o'r fath wrth benderfynu; a
(d)ar ôl astudio'r sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd, gwneud ymdrechion rhesymol i hysbysu'r cyhoedd am y penderfyniadau a wnaed a'r ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniadau hynny arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am y broses o gyfranogiad y cyhoedd.
(14) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei rhoi o dan baragraffau (12) a (13) yn y dull y mae'n ystyried sy'n briodol at ddibenion ei dwyn i sylw'r cyhoedd a rhaid iddo—
(a)peri bod copïau o'r wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd yn ddi-dâl drwy wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru; a
(b)pennu mewn hysbysiad ar y wefan honno y trefniadau manwl a wnaed i'r cyhoedd gymryd rhan wrth baratoi, addasu ac adolygu cynlluniau neu raglenni, gan gynnwys
(i)y cyfeiriad lle mae'n rhaid cyflwyno sylwadau, a
(ii)yr amserlenni erbyn pryd y ceir cyflwyno sylwadau, gan ganiatàu digon o amser ar gyfer pob un o'r gwahanol gyfnodau i'r cyhoedd gymryd rhan fel sy'n ofynnol gan baragraffau (12) a (13).”.
(3) Yn rheoliad 12 o Reoliadau 2002, hepgorer paragraff (9).
4. Yn rheoliad 8(6) o Reoliadau 2002, ar ôl “canlyniadau cyfwerth” mewnosoder “neu, o ran samplu a mesur PM10, y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod modd dangos eu bod yn arddangos perthynas gyson â'r dull cyfeirio”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Ebrill 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3183 (Cy.299)) (“Rheoliadau 2002”), sy'n gweithredu, o ran Cymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol(5), Cyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm(6) a Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/69/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol(7).
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 2002 at ddibenion gweithredu Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2003/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfranogiad y cyhoedd o ran llunio cynlluniau a rhaglenni penodol sy'n ymwneud â'r amgylchedd(8).
Mae rheoliad 4 yn ychwanegu dull amgen ar gyfer samplu a mesur PM10 er mwyn iddo gydymffurfio â'r dulliau y darparwyd ar eu cyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC.
Gweler Erthygl 2 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000, O.S. 2000/2812.
OJ L296, 21.11.1996, t.55, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor, OJ L284, 31.10.2003, t.1.
OJ L163, 29.6.1999, t.41, a ddiwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/774/EC, OJ L 278, 23.10.2001, t.35.
OJ L313, 13.12.2000, t.12.
OJ Rhif L156, 25.6.2003, t.17.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys