- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
26 Ebrill 2005
Yn dod i rym
1 Medi 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 134, 135, 145(1) a (2) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 (1), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Medi 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i berson a benodwyd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn bennaeth ar y canlynol:
(a)ysgol yng Nghymru neu Loegr a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig yng Nghymru neu Loegr na chynhelir mohoni gan awdurdod addysg lleol;
(b)ysgol annibynnol yng Nghymru neu Loegr; neu
(c)sefydliad addysgol tebyg y tu allan i Gymru neu Loegr.
(4) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Unedau Cyfeirio Disgyblion.
2. Yn y Rheoliadau hyn:
ystyr “Rheoliadau 2005 (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005(2);
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac
ystyr “ysgol” (“school”) (oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig na chynhelir mohoni gan awdurdod addysg lleol.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, dim ond os yw'n meddu ar un o'r canlynol y caiff person wasanaethu fel pennaeth ysgol:—
(a)y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru;
(b)y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn Lloegr(3);
(c)Safon Prifathrawiaeth yr Alban(4);
(ch)y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Ngogledd Iwerddon (5);
(d)cymhwyster sy'n debyg o ran ei effaith yn rhinwedd Rheoliadau 2005.
(2) Ystyr y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru yw'r cymhwyster a ddyfernir gan y Cynulliad Cenedlaethol i berson os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod y person wedi llwyddo i gwblhau unrhyw gwrs hyfforddiant y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo o dro i dro at ddibenion dyfarnu'r cymhwyster hwnnw.
4. Dim ond os yw:
(a)yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig; neu
(b)yn meddu ar gymhwyster sy'n debyg o ran effaith yn rhinwedd Rheoliadau 2005
5. Dim ond os yw wedi cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (cofrestr a gedwir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru) (6) y caiff person wasanaethu fel pennaeth ysgol.
6. Nid yw person sy'n cyflawni swyddogaethau pennaeth ysgol —
(a)hyd nes y penodir pennaeth, neu
(b)yn ystod absenoldeb pennaeth,
yn gwasanaethu fel pennaeth yr ysgol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn gwneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod penaethiaid tro cyntaf ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt gan awdurdod addysg lleol, ac a benodir yn benaethiaid ar neu ar ôl 1 Medi 2005:
(i)yn meddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru, neu'r cymhwyster sy'n cyfateb iddo yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(ii)yn athrawon cymwysedig; a
(iii)wedi'u cofrestru yn athrawon.
Bydd yn ofynnol bod gweithwyr mudol o Aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein neu'r Swistir yn meddu ar gymwysterau cyfatebol.
Yn rhinwedd rheoliad 8, nid yw person sy'n cyflawni swyddogaethau pennaeth hyd nes y penodir pennaeth, neu yn ystod absenoldeb pennaeth ('pennaeth dros dro') yn bennaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Unedau Cyfeirio Disgyblion.
O.S. 2005/18. Mae hwn yn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC ynghylch system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir pan gwblheir addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am o leiaf dair blynedd.
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Prifathrawon) (Lloegr) 2003, (O.S. 2003/3111), yw'r Rheoliadau cyfredol sy'n darparu ar gyfer hyn. Mae'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn Lloegr yn cael ei ddyfarnu gan y National College for School Leadership Limited.
Ar hyn o bryd, mae Safon Prifathrawiaeth yr Alban yn cael ei hennill drwy ymgymryd â Chymhwyster yr Alban ar gyfer Prifathrawiaeth.
Mae'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei ddyfarnu gan yr Uned Hyfforddi Rhanbarthol yng Ngogledd Iwerddon.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys