- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Wedi'u gwneud
4 Mai 2005
Yn dod i rym
5 Mai 2005
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2005. Deuant i rym ar 5 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001(3) yn unol â rheoliadau 3 i 9 o'r Rheoliadau hyn.
3. Yn rheoliad 2 (Diffiniadau), ym mharagraff (1) —
(a)dileer y diffiniad o “cais am gymorth arwynebedd” (“area aid application”);
(b)yn y diffiniad o “arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano” (“claimed forage area”) yn lle'r geiriau “cais am gymorth ardal” rhodder y geiriau “cais sengl”;
(c)mewnosoder y diffiniadau canlynol yn eu lle priodol yn nhrefn yr wyddor —
“ystyr “Cod Ymarfer Ffermio Da (“Code of Good Farming Practice”) yw'r darpariaethau Ymarfer Ffermio Da a nodir yn adran 9.1 o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000 — 2006(4);
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 796/2004” (“Commission Regulation 796/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004(5) sy'n gosod rheolau manwl ar drawsgydymffurfio, modwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli y darperir ar ei chyfer yn Rheoliad y Cyngor 1782/2003;”;
(ch)rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniadau o “Rheoliad y Comisiwn 1750/1999” (“Commission Regulation 1750/1999”) —
““ystyr “Rheoliad y Comisiwn 817/2004” (“Commission Regulation 817/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004(6) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ar gymorth i ddatblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF);”;
(d)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —
““ystyr “Rheoliad y Cyngor 1254/1999” (“Council Regulation 1254/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999(7)1254/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion a chig llo;”;
(dd)dileer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”);
(e)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —
““ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003(8) sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr;”;
(f)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —
““ystyr “Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel” (“Hill Livestock Compensatory Allowances”) neu (“HLCA”) yw lwfansau a delir o dan y Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal);”;
(ff)rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o “IACS” —
“ystyr “IACS” yw System Integredig Gweinyddu a Rheoli a sefydlwyd o dan Bennod 4 o Reoliad y Cyngor 1782/2003;”;
(g)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor —
“mae i “cais sengl” yr ystyr a roddir i “single application” yn erthygl 2(11) o Reoliad y Comisiwn 796/2004;”.
4. Yn rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys), ym mharagraff (1) —
(1) yn is-baragraff (a), yn lle'r geiriau “cais dilys am gymorth arwynebedd” rhodder y geiriau “cais sengl dilys”;
(2) yn is-baragraff (b) —
(a)o flaen y geiriau “y ceisydd” mewnosoder y geiriau “yn ddarostyngedig i is-baragraff (d) isod,”;
(b)ar ôl y geiriau “wedi cyflwyno cais” mewnosoder y gair “dilys”;
(c)yn lle'r geiriau “mewn perthynas â'r flwyddyn” mewnosoder y geiriau “mewn perthynas â chynllun blwyddyn 2004”;
(ch)dileer y geiriau “y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd”.
(3) Yn is-baragraff (c) ar ôl y geiriau “ffermio cynaliadwy” mewnosoder y geiriau “ac wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Ymarfer Ffermio Da”.
(4) Ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder yr is-baragraff canlynol —
“(d)gofyniad is-baragraff (b) uchod ynghylch cyflwyno cais dilys am gymorth ar gyfer da byw heb fod yn gymwys —
(i)os yw'r ceisydd wedi gwneud cais ac wedi derbyn Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel am y flwyddyn 2000 ac os yw wedi gwneud cais ac wedi derbyn taliad Tir Mynydd ar gyfer pob blwyddyn ar ôl hynny; neu
(ii)os nad yw'r ceisydd cyn hynny wedi gwneud cais am daliad Tir Mynydd.”.
5. Yn rheoliad 4 (Y dwysedd stocio isaf), ym mharagraff (1) —
(1) ar ôl y geiriau “rhaid bod” mewnosoder y geiriau “wedi bod”;
(2) ar ôl y geiriau “am bob hectar” mewnosoder y geiriau “ar sail nifer y defaid a/neu fuchod sugno a oedd yn denu premiwm o dan y cynllun premiwm blynyddol defaid a/neu'r cynllun Premiwm Buchod Sugno ar gyfer cynllun blwyddyn 2004”.
6. Yn rheoliad 8 (Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol), dileer paragraff (b).
7. Yn rheoliad 10 (Ceisiadau) —
(1) dileer paragraff (2);
(2) ym mharagraff (3), yn lle'r geiriau “ Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2419/2001 dyddiedig 11 Rhagfyr 2001 sy'n cyflwyno rheolau manwl er mwyn cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai cynlluniau o blith Cynlluniau cymorth y Gymuned a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 3508/1992” rhodder y geiriau “Erthygl 21 o Reoliad y Comisiwn 796/2004”.
8. Ar ôl rheoliad 13 (Cadw'n ôl neu adennill taliadau) mewnosoder y rheoliad canlynol —
13A. Yn unol ag Erthygl 73 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu, a chyhoeddi yn y dull y gwêl yn dda, system o gosbau cymesur a fydd yn gymwys mewn achosion os bydd y ceiswyr yn methu cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.”.
9. Yn rheoliad 16 (Pwerau personau awdurdodedig) ym mharagraff (3) —
(1) yn is-baragraff (c), dileer y gair “ac”;
(2) yn is-baragraff (ch), yn lle'r marc atalnodi “.” rhodder y marc atalnodi a'r gair “; a”; a
(3) ar ôl is-baragraff (ch), mewnosoder yr is-baragraff canlynol —
“(d)cyflawni unrhyw arolygiad neu archwiliad sy'n angenrheidiol at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r Cod Ymarfer Ffermio Da.”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Mai 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 5 Mai 2005, yn diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 (“y prif Reoliadau”) er mwyn:
(a)gwneud diwygiadau canlyniadol yn sgil newidiadau i'r polisi amaethyddol cyffredin o ran y Cynllun Taliad Sengl.
(b)darparu y gellir gwneud taliadau Tir Mynydd i geiswyr a gafodd Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel ar gyfer Lwfansau cynllun blwyddyn 2000 hyd yn oed os nad ydynt wedi hawlio cymorth da byw o ran defaid neu fuchod sugno neu'r ddau yn ystod y flwyddyn y cyflwynir y cais Tir Mynydd (Rheoliad 4(4)).
(c)tynnu rheoliad 8(b) er mwyn osgoi'r posibiliad o gyllido dwbl (Rheoliad 6).
(ch)sicrhau bod cymhwyster ar gyfer y cynllun yn cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Ymarfer Ffermio Da a nodir yng Nghynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000 — 2006, a gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu system o gosbau cymesur a fydd yn gymwys mewn achosion pan na chydymffurfir â'r Cod. (Rheoliad 4(3) a Rheoliad 8).
(d)darparu ar gyfer mân newidiadau a newidiadau yn y diffiniadau o ganlyniad i'r diwygiadau a nodir uchod.
Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) (“y Gorchymyn”).
O.S. 2001/496 (Cy.23) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1154 (Cy.61) ac O.S. 2002/1806 (Cy.176).
Paratowyd ef gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef gan y Comisiwn Ewropeaidd yn gyntaf ar 11 Hydref 2000 drwy Benderfyniad y Comisiwn C(2000) 2932 gydag addasiadau dilynol a gymeradwywyd gan Benderfyniadau'r Comisiwn C(2002) 1743 a C(2003) 1432.
OJ Rhif L141, 30.4.2004, t.18, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 239/2005 (OJ Rhif L042, 12.2.2005, t.3).
OJ Rhif L153, 30.4.2004, t.30, fel y mae wedi'i gywiro gan Gywiriad (OJ Rhif L231, 30.6.2004, t.24).
OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1899/2004 (OJ Rhif L328, 30.10.2004, t.67).
OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 118/2005 (OJ Rhif L024, 27.1.2005, t.15).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys