- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yw Rheoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005 ac maent yn dod i rym ar 13 Mai 2005.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “AGB” (“BID”) yw ardal gwella busnes (“business improvement district”);
ystyr “ail bleidlais” (“re-ballot”) yw pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu neu bleidlais ddiwygio, yn ôl y digwydd, sy'n ofynnol i'w threfnu yn unol â rheoliad 9(10);
ystyr “ar ffurf data” (“data form”) yw gwybodaeth sydd ar ffurf y gellir ei phrosesu gyda chyfarpar awtomatig mewn ymateb i gyfarwyddiadau a roddwyd i'r pwrpas hwnnw;
ystyr “awdurdod bilio perthnasol” (“relevant billing authority”) yw yr awdurdod bilio ar gyfer ardal ddaearyddol yr AGB;
ystyr “cod bar” (“barcode”) yw marciau —
sy'n ymddangos ar y papur pleidleisio ac sy'n cynnwys gwybodaeth ar ffurf cod am y pleidleisiwr hwnnw a'r bleidlais honno;
y mae modd eu sganio'n electronig mewn modd sy'n galluogi i'r wybodaeth ar ffurf cod a ddynodir gan y marciau i gael eu darllen; a
lle nad oes modd darllen gyda'r llygad dynol yn unig, y wybodaeth ar ffurf cod a gynhwysir yn y marciau;
ystyr “corff AGB” (“BID body”) yw, lle nad yw corff AGB awdurdod lleol yn gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, y corff (boed yn gorfforaethol neu beidio) sy'n gyfrifol am weithredu'r trefniadau;
ystyr “corff AGB awdurdod lleol” (“local authority BID body”) yw, lle mai'r awdurdod bilio perthnasol neu gwmni o dan reolaeth yr awdurdod (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 68 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1)) sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, y person hwnnw;
ystyr “cyflwyno…yn electronig” (“electronic communication”) yw gwybodaeth a drosglwyddir (boed o un person i'r llall, o un ddyfais i'r llall neu o berson i ddyfais neu i'r gwrthwyneb) —
drwy system delathrebu (o fewn ystyr Deddf Telathrebu 1984 (2)); neu
mewn ffordd arall, ond ar ffurf electronig;
ystyr “cynigion adnewyddu” (“renewal proposals”) yw cynigion o ran adnewyddu trefniadau'r AGB o dan adran 54(2) y Ddeddf;
ystyr “cynigion diwygio” (“alteration proposals”) yw cynigion yng nghyswllt diwygio trefniadau'r AGB yn unol â rheoliad 17;
ystyr “cynigydd yr AGB” (“BID proposer”) yw person sy'n llunio cynigion yr AGB;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(3);
ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(4);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ar wahân i ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu unrhyw ddiwrnod sy'n ŵyl y banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(5);
ystyr “diwrnod y bleidlais” (“the day of the ballot”) yw'r diwrnod a bennir gan drefnydd y bleidlais, yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 2;
ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw, yn ddarostyngedig i reoliad 9(12), y diwrnod y daw trefniadau'r AGB i rym, yn unol ag adran 53 y Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2003;
ystyr “feto” (“veto”) yw sefyllfa lle mae'r awdurdod bilio perthnasol yn atal drwy feto yn unol ag adran 51(2) y Ddeddf;
ystyr “gorchymyn atebolrwydd” (“liability order”) yw'r ystyr a roddir yn rheoliad 10 o Reoliadau 1989;
ystyr “hereditament” (“hereditament”) yw unrhyw beth sydd, neu sy'n cael ei drin fel hereditament yn rhinwedd y darpariaethau a wneir yn, neu unrhyw ddarpariaethau a wneir o dan, adran 64 o Ddeddf 1988 gan gynnwys unrhyw hereditament y mae rheoliad 6 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol)1989(6) yn gymwys iddo ac eithrio unrhyw hereditament y mae rheoliadau a wneir o dan adran 64(3)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;
ystyr “hysbysiad feto” (“veto notice”) yw hysbysiad gan awdurdod bilio yn unol ag adran 51(4) y Ddeddf;
ystyr “hysbysiad galw am dalu” (“demand notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff 2(1) o Atodlen 4;
ystyr “person sydd â hawl i bleidleisio” (“person entitled to vote”) yw'r ystyr a roddir yn rheoliad 8;
ystyr “pleidlais adnewyddu” (“renewal ballot”) yw pleidlais o dan adran 54(2) y Ddeddf;
ystyr “pleidlais AGB” (“BID ballot”) yw pleidlais o dan adran 49(1) y Ddeddf;
ystyr “pleidlais ddiwygio” (“alteration ballot”) yw'r ystyr a roddir yn rheoliad 17;
ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(7);
ystyr “swm sy'n daladwy” (“the amount payable”) yw'r swm sy'n daladwy am gyfnod trethadwy neu ran o gyfnod trethadwy o ran person penodol, awdurdod bilio perthnasol a hereditament gan gynnwys —
y swm y mae'r person hwnnw yn atebol i'w dalu i'r awdurdod mewn perthynas â'r hereditament am y cyfnod neu ran o'r cyfnod o dan adran 46 y Ddeddf yn rhinwedd y ffaith fod y person hwnnw yn dod o dan y disgrifiad o bersonau sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn nhrefniadau'r AGB; neu
lle mae'r awdurdod yn gyfrifol am gredydu'r swm yn erbyn atebolrwydd y person hwnnw am y cyfnod neu ran ohono, y swm (os oes un) y mae'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn fwy na'r swm sydd i'w gredydu yn y modd hwnnw;
ystyr “trefnydd y bleidlais” (“ballot holder”) yw'r ystyr a roddir yn rheoliad 6;
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at —
(a)rif rheoliad neu Atodlen, yn gyfeiriad at y rheoliad yn, neu'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn sydd â'r Rhif hwnnw;
(b)at rif paragraff, mewn rheoliad neu Atodlen, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sydd â'r Rhif hwnnw;
(c)rif neu lythyren is-baragraff, mewn paragraff, yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sydd â'r Rhif hwnnw neu'r llythyren honno.
2.—(1) Pan fydd yr awdurdod bilio perthnasol yn derbyn cais (wedi'i wneud yn unol â pharagraff (2)) gan unrhyw berson sy'n datblygu cynigion AGB, rhaid i'r awdurdod —
(a)paratoi dogfen yn dangos (cyn belled ag y gall yr awdurdod bilio perthnasol ganfod o'i gofnodion bilio ardrethi annomestig ar y pryd) enw pob trethdalwr annomestig a chyfeiriad a gwerth ardrethol pob hereditament a feddiannir, neu (os na feddiannir) a berchenogir ganddo yn ardal ddaearyddol yr AGB arfaethedig; a
(b)darparu copi o'r wybodaeth yn y ddogfen i'r person perthnasol ar ffurf data.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) —
(a)bod ar ffurf cais ysgrifenedig i'r awdurdod bilio perthnasol;
(b)cadarnhau bod y person sy'n gwneud y cais yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth ond i bwrpas datblygu cynnig yr AGB fel a ddisgrifir yn y cais;
(c)darparu crynodeb o natur cynigion yr AGB sydd i'w datblygu;
(ch)darparu disgrifiad o'r ardal ddaearyddol ar gyfer yr AGB arfaethedig; a
(d)cynnwys y ffi (os oes un) a godir gan yr awdurdod bilio perthnasol o dan baragraff (4).
(3) Ni chaiff unrhyw berson —
(a)ddatgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1);
(b)gwneud defnydd o wybodaeth o'r fath,
heblaw at ddiben datblygu cynigion yr AGB fel a ddisgrifir yn y cais a wneir o dan baragraff (1).
(4) Caiff yr awdurdod bilio perthnasol godi tâl ar y person sy'n gwneud y cais am wybodaeth am ddelio gyda'r cais ac am ddarparu'r wybodaeth o dan y rheoliad hwn.
(5) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol sicrhau bod swm y tâl a godir ganddo o dan baragraff (4) yn rhesymol o ystyried y costau a achosir neu sy'n debygol o gael eu hachosi gan yr awdurdod wrth ddelio gyda cheisiadau a darparu gwybodaeth o dan y rheoliad hwn.
3.—(1) Caiff y personau canlynol lunio cynigion AGB —
(a)unrhyw berson sydd, ar yr adeg yr anfonir eu cynigion AGB at yr awdurdod bilio perthnasol o dan reoliad 4(2)(a) —
(i)yn drethdalwr annomestig mewn perthynas â hereditament a leolir yn yr AGB arfaethedig;
(ii)â buddiant mewn tir (a leolir yn yr ardal sydd i'w chynnwys mewn cynigion o'r fath) boed hynny fel rhydd-ddeiliad, person morgeisiedig neu ddeiliad prydles, neu sydd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn derbyn rhent am y tir (p'un ai yw'n drethdalwr annomestig o ran y tir hwnnw neu beidio); neu
(iii)yn gorff (boed yn gorfforaethol neu beidio) lle mai un o'i bwrpasau yw, neu lle mae'n cynnwys, datblygu cynigion AGB; a
(b)yr awdurdod bilio perthnasol.
(2) Rhaid i gynigydd yr AGB, o leiaf 84 diwrnod cyn cyflwyno'r hysbysiad sy'n ofynnol o dan reoliad 4(2)(a)(ii), hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol a'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ynghylch bwriad y cynigydd i ofyn i'r awdurdod bilio perthnasol roi cynigion yr AGB i bleidlais.
4.—(1) Rhaid i gynigion yr AGB, cynigion adnewyddu neu gynigion diwygio, yn ôl y digwydd, gynnwys y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1, 2 a 3 o Atodlen 1.
(2) Pan fydd cynigydd yr AGB yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion yr AGB drwy bleidlais AGB, neu lle mae'r corff AGB yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion diwygio drwy bleidlais ddiwygio neu ar gyfer cynigion adnewyddu drwy bleidlais adnewyddu, rhaid iddo —
(a)anfon at yr awdurdod bilio perthnasol —
(i)copi o gynigion yr AGB, y cynigion diwygio neu'r cynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd, ynghyd â chrynodeb o —
(aa)y broses ymgynghori y mae wedi'i chynnal gyda'r personau hynny fydd yn atebol i dalu lefi'r AGB arfaethedig;
(bb)cynllun busnes arfaethedig (gan gynnwys amcangyfrif o'r llif arian, amcangyfrif o'r refeniw y disgwylir ei gynhyrchu a'r gwariant disgwyliedig o dan drefniadau'r AGB, y gyllideb ddisgwyliedig dros gyfnod trefniadau'r AGB a'r ddarpariaeth wrth gefn yn y gyllideb);
(cc)cytundeb arfaethedig sydd i'w ffurfio gyda'r awdurdod bilio perthnasol; a'r
(chch)trefniadau rheolaeth ariannol ar gyfer y corff AGB, a'r trefniadau ar gyfer darparu'r awdurdod bilio perthnasol, o bryd i'w gilydd, gyda gwybodaeth am sefyllfa ariannol y corff AGB; a
(ii)hysbysiad yn gofyn i'r awdurdod bilio perthnasol gyfarwyddo trefnydd y bleidlais i gynnal pleidlais AGB, pleidlais ddiwygio neu bleidlais adnewyddu, yn ôl y digwydd; a
(b)darparu'r awdurdod bilio perthnasol gydag unrhyw wybodaeth y bydd yn rhesymol ei angen i'w fodloni ei hun bod gan gynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, gyllid digonol i dalu costau'r bleidlais AGB neu'r bleidlais adnewyddu, neu'r ail bleidlais o ran y bleidlais AGB neu'r bleidlais adnewyddu, yn ôl y digwydd, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny o dan reoliad 10.
(3) Os —
(a)yw cynigydd yr AGB yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion yr AGB drwy bleidlais AGB;
(b)yw corff AGB neu gorff AGB awdurdod lleol, yn ôl y digwydd, yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion diwygio drwy bleidlais ddiwygio neu ar gyfer cynigion adnewyddu drwy bleidlais adnewyddu,
rhaid iddo anfon copi o gynigion yr AGB, y cynigion diwygio neu'r cynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd, a'r cynllun busnes arfaethedig, at unrhyw berson fydd yn atebol i dalu lefi'r AGB arfaethedig ac sy'n gofyn am gopi.
(4) Os mae'r awdurdod bilio perthnasol yn ystyried bod cynigion yr AGB, y cynigion adnewyddu neu'r cynigion diwygio yn gwrthdaro gyda pholisi sydd wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol gan yr awdurdod ac sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen a gyhoeddwyd gan yr awdurdod (p'un ai oes gan yr awdurdod ddyletswydd statudol i baratoi dogfen o'r fath neu beidio) rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol rhesymol ar ôl derbyn y cynigion, hysbysu cynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn ysgrifenedig i egluro natur y gwrthdaro.
5.—(1) Pan fydd awdurdod bilio perthnasol —
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), yn derbyn hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii);
(b)mewn achos lle mae corff AGB awdurdod lleol yn gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion diwygio neu gynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd; neu
(c)yn derbyn hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 9(10) yn gofyn iddo drefnu ail bleidlais;
rhaid iddo gyfarwyddo trefnydd y bleidlais i gynnal pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd.
(2) Pan fydd awdurdod bilio perthnasol yn derbyn hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii), nid yw'n ofynnol iddo gyfarwyddo trefnydd y bleidlais o dan baragraff (1) hyd nes bydd cynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn cydymffurfio gyda gofynion rheoliad 4(1) a (2).
6.—(1) Y person sy'n cynnal pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais (“trefnydd y bleidlais”) yw'r person a benodwyd gan yr awdurdod bilio perthnasol o dan adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(8) i fod yn swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau i'r awdurdod hwnnw.
(2) Caiff trefnydd y bleidlais, ar ffurf ysgrifenedig drwy ei law ef neu hi, benodi un neu fwy o bersonau i gyflawni'r cyfan neu unrhyw un o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
7. Pan fydd yn derbyn cyfarwyddyd o dan reoliad 5, rhaid i drefnydd y bleidlais wneud trefniadau i gynnal pleidlais AGB, pleidlais ddiwygio, pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, yn unol ag Atodlen 2.
8.—(1) Bydd gan berson hawl i bleidleisio mewn pleidlais AGB, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais o ran pleidlais AGB, neu mewn pleidlais ddiwygio os, ar y dyddiad y bydd trefnydd y bleidlais yn cyflwyno'r hysbysiad o dan baragraff 3(a) o Atodlen 2, bydd y person hwnnw yn dod o dan y categori o drethdalwyr annomestig sy'n atebol i dalu lefi'r AGB fel a ddisgrifir yng nghynigion yr AGB neu'r cynigion diwygio, yn ôl y digwydd.
(2) Bydd gan berson hawl i bleidleisio mewn pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais o ran pleidlais adnewyddu os, ar y dyddiad y bydd trefnydd y bleidlais yn cyhoeddi'r hysbysiad o dan baragraff 3(a) o Atodlen 2, yw'n dod o dan y categori o drethdalwyr annomestig sydd yn atebol i dalu lefi'r AGB ar y dyddiad hwnnw.
(3) Pan fydd mwy nag un person yn atebol i dalu lefi'r AGB fel partneriaid neu ymddiriedolwyr o ran hereditament, y person sydd â hawl i bleidleisio o ran yr hereditament hwnnw fydd y partneriaid neu'r ymddiriedolwyr ar y cyd.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais yn annilys os yw'n ymddangos iddo fod unrhyw anghysondeb sylweddol wedi digwydd.
(2) Yn y rheoliad hwn, y mae “anghysondeb sylweddol” yn golygu —
(a)tramgwyddo yn erbyn unrhyw un o ofynion y Rheoliadau hyn sydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn golygu ei bod yn debygol fod pleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu'r ail bleidlais yn ôl y digwydd wedi'i effeithio i raddau helaeth gan y tramgwydd hwn;
(b)bod personau ar wahân i bersonau sydd â hawl i bleidleisio wedi honni pleidleisio yn y bleidlais AGB ac, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, y mae'n debygol bod canlyniad y bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu'r ail bleidlais, yn ôl y digwydd, wedi ei effeithio i raddau helaeth; neu
(c)bod personau sydd â hawl i bleidleisio wedi eu hatal rhag pleidleisio neu eu rhwystro rhag gwneud hynny yn rhydd yn unol â'u barn ac, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, y mae'n debygol bod canlyniad y bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu'r ail bleidlais, yn ôl y digwydd, wedi ei effeithio i raddau helaeth.
(3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys oni bai fod person (“yr achwynydd”), sef person neu grŵp o bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4), erbyn y dyddiad sydd 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2, wedi gwneud cais (drwy hysbysiad ysgrifenedig) i'r Cynulliad Cenedlaethol i arfer ei bwerau o dan y rheoliad hwn, gan nodi'r rheswm dros y cais hwnnw.
(4) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw —
(a)cynigydd yr AGB neu'r corff AGB;
(b)o leiaf 5 y cant o'r personau sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd; neu
(c)yr awdurdod bilio perthnasol.
(5) Pan fydd yn derbyn cais o dan baragraff (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r achwynydd, yr awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn ysgrifenedig ei fod wedi derbyn y cais ac anfon copi at bob un ohonynt.
(6) Pan fydd dau neu fwy o geisiadau yn ymwneud â'r un bleidlais, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu y ceisiadau hynny gyda'i gilydd.
(7) O fewn 28 diwrnod i ddyddiad derbyn yr hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (5), caiff yr achwynydd, yr awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y cais.
(8) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r sylwadau a wnaed gan un parti at y partïon eraill ynghyd â datganiad yn egluro effaith paragraff (9).
(9) Caiff unrhyw barti yr anfonir copi o'r sylwadau ato o dan baragraff (8), o fewn 14 diwrnod i fod wedi ei dderbyn, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig pellach mewn ymateb i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o unrhyw sylwadau pellach o'r fath at y partïon eraill.
(10) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r achwynydd, yr awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, ynghylch ei benderfyniad a, pan fydd yn datgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais yn annilys, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol yn ysgrifenedig i ofyn iddo drefnu cynnal ail bleidlais neu ail bleidlais arall, yn ôl y digwydd.
(11) Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol yn datgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais o ran pleidlais o'r fath yn annilys ac y mae o'r farn bod yr anghysondeb sylweddol wedi'i achosi gan weithredoedd neu hepgoriad cynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad i'r perwyl hwnnw ynghyd â'i hysbysiad penderfynu ac, yn yr hysbysiad hwnnw rhaid iddo egluro effaith rheoliad 10.
(12) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan bod pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais yng nghyswllt pleidlais o'r fath yn annilys—
(a)ni fydd trefniadau'r AGB, y trefniadau AGB adnewyddedig neu'r diwygiadau i'r trefniadau AGB, o ran pleidlais a gafodd ei datgan yn annilys, yn dod i rym ar y diwrnod cychwyn; ac
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (13), bydd trefniadau'r AGB, y trefniadau AGB adnewyddedig neu'r diwygiadau i'r trefniadau AGB, os cymeradwyir hwynt drwy ail bleidlais yn dilyn hynny, yn dod i rym ar y diwrnod y bydd yr awdurdod bilio perthnasol yn pennu.
(13) Rhaid i'r diwrnod a bennir o dan baragraff (12) beidio â bod ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2.
10.—(1) Y mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd nifer y personau a bleidleisiodd o blaid yn y bleidlais yn llai na 20 y cant o'r nifer o bersonau sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais, ac —
(a)ni chymeradwywyd y cynigion drwy'r bleidlais; neu
(b)y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 9(11) ynghylch y bleidlais.
(2) Pan fo paragraff (1) yn berthnasol, caiff yr awdurdod bilio perthnasol ei gwneud yn ofynnol i gynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, i dalu costau trefnu a chynnal y bleidlais a gall yr awdurdod bilio perthnasol adennill y swm hwn fel dyled sifil sydd yn ddyledus iddo.
(3) Y mae'r costau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn cynnwys unrhyw dreuliau a achoswyd yn gywir gan drefnydd y bleidlais ac a godwyd ar yr awdurdod bilio perthnasol o dan reoliad 20.
11.—(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyfarwyddo trefnydd y bleidlais i gynnal pleidlais (o dan reoliad 5(1)), rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol —
(a)paratoi dogfen yn dangos (cyn belled ag y gall yr awdurdod bilio perthnasol ganfod o'i gofnodion ardrethi annomestig ar y pryd) enw pob trethdalwr annomestig a chyfeiriad a gwerth ardrethol pob hereditament a feddiannir, neu (os na feddiannir) a berchenogir ganddo yn yr ardal ddaearyddol y mae unrhyw gynigion AGB, cynigion diwygio neu gynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd, yn berthnasol iddo;
(b)darparu copi o'r ddogfen honno i drefnydd y bleidlais; a
(c)darparu copi o'r wybodaeth yn y ddogfen honno yn ei brif swyddfa yn ystod oriau gwaith arferol i'w archwilio gan unrhyw berson.
(2) Pan fydd yn derbyn cais (a wnaed yn unol â pharagraff (3)) gan —
(a)gynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd; neu gan
(b)unrhyw berson sydd, neu unrhyw grŵp o bersonau sydd yn cynrychioli 5 y cant neu fwy o'r personau sy'n atebol i dalu unrhyw lefi AGB arfaethedig,
rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol ddarparu, ar ffurf data, copi o'r wybodaeth yn y ddogfen y mae'n ofynnol iddo'i pharatoi o dan baragraff (1) i'r person neu'r grŵp o bersonau hynny.
(3) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (2) —
(a)bod ar ffurf ysgrifenedig i'r awdurdod bilio perthnasol;
(b)nodi pa bleidlais AGB, pleidlais ddiwygio, pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais y gwneir y cais mewn perthynas ag ef;
(c)cadarnhau bod y person neu'r grŵp o bersonau sy'n gwneud y cais yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth y gofynnir amdani ond i bwrpas canfasio personau sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais ddiwygio, y bleidlais adnewyddu neu'r ail bleidlais a nodir yn y cais a wneir o dan baragraff (2); a
(ch)cynnwys y ffi (os oes un) a godir gan yr awdurdod bilio perthnasol o dan baragraff (5).
(4) Ni chaiff unrhyw berson —
(a)datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a ddarperir iddo o dan baragraff (2);
(b)defnyddio unrhyw wybodaeth o'r fath,
ac eithrio at ddiben canfasio personau sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais ddiwygio, y bleidlais adnewyddu neu'r ail bleidlais a nodir yn y cais a wneir o dan baragraff (2).
(5) Caiff yr awdurdod bilio perthnasol godi tâl am ddelio â chais ac am ddarparu'r wybodaeth o dan y rheoliad hwn ar y person y darperir yr wybodaeth iddo.
(6) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol sicrhau bod swm y tâl a godir o dan baragraff (5) yn rhesymol ar ôl ystyried y costau a achoswyd neu sy'n debygol o gael eu hachosi gan yr awdurdod wrth ddelio gyda cheisiadau ac am gyflenwi gwybodaeth o dan y rheoliad hwn.
12.—(1) At ddibenion adran 51(2) y Ddeddf, yr amgylchiadau rhagnodedig yw bod awdurdod bilio perthnasol o'r farn bod trefniadau'r AGB yn debygol—
(a)o wrthdaro yn sylweddol gydag unrhyw bolisi sydd wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol ac a gynhwysir mewn dogfen a gyhoeddwyd gan yr awdurdod (p'un ai yw'r awdurdod o dan ddyletswydd statudol i baratoi dogfen o'r fath neu beidio); neu
(b)o fod yn faich ariannol anghymesur ar unrhyw berson neu gategori o bersonau (o'u cymharu â threthdalwyr annomestig eraill yn ardal ddaearyddol yr AGB) a—
(i)bod y baich yn cael ei achosi gan gamlunio ardal ddaearyddol yr AGB neu gan strwythur lefi'r AGB; a
(ii)bod y baich yn annheg.
(2) At ddiben adran 51(2) y Ddeddf, y cyfnod rhagnodedig yw 15 o ddiwrnodau gwaith o ddiwrnod y bleidlais.
(3) At ddiben adran 51(3) y Ddeddf, y materion rhagnodedig y mae'n rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol eu hystyried wrth benderfynu a fydd yn defnyddio ei hawl i atal drwy feto yw—
(a)lefel y gefnogaeth (fel a ddangosir gan ganlyniad y bleidlais AGB neu'r ail bleidlais AGB, yn ôl y digwydd) ar gyfer cynigion yr AGB;
(b)natur a maint y gwrthdaro y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a);
(c)o ran paragraff (1)(b), strwythur lefi'r AGB arfaethedig a sut y bydd baich ariannol yr AGB yn cael ei rannu ymhlith trethdalwyr yn ardal ddaearyddol yr AGB;
(ch)i ba raddau y mae cynigydd yr AGB wedi trafod cynigion yr AGB gyda'r awdurdod cyn cyflwyno cynigion yr AGB i'r awdurdod o dan reoliad 4; ac
(d)y gost a achoswyd gan unrhyw berson hyd at ddiwedd y cyfnod a ragnodir ym mharagraff (2) o ganlyniad i ddatblygu cynigion yr AGB a chanfasio yng nghyswllt cynigion yr AGB.
13.—(1) Rhaid i berson (“yr apelydd”) sydd am apelio yn erbyn feto o dan adran 52(1) y Ddeddf, gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn 28 o ddiwrnodau i gyhoeddiad yr hysbysiad feto gan yr awdurdod bilio perthnasol o dan adran 51(4) y Ddeddf, hysbysiad ysgrifenedig (“yr hysbysiad apêl”) ynghyd â datganiad yn nodi'r rhesymau dros wneud yr apêl.
(2) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn yr hysbysiad apêl, rhaid iddo —
(a)rhoi gwybod i'r apelydd ac i'r awdurdod bilio perthnasol drwy lythyr ei fod wedi derbyn yr hysbysiad apêl; a
(b)anfon copi o'r hysbysiad apêl at yr awdurdod bilio perthnasol.
(3) Pan fydd dau neu fwy o hysbysiadau apêl yn ymwneud â'r un feto, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yr apelau gyda'i gilydd.
(4) Penderfynir yr apêl drwy sylwadau ysgrifenedig a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) O fewn 28 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2), caiff yr apelydd a'r awdurdod bilio perthnasol gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr apêl.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r sylwadau a wneir gan un parti yn yr apêl at y partïon eraill yn yr apêl ynghyd â datganiad yn egluro effaith paragraff (7).
(7) Caiff unrhyw barti mewn apêl yr anfonir copi o'r sylwadau ato o dan baragraff (6) gyflwyno fel ymateb, o fewn 14 diwrnod i fod wedi eu derbyn, sylwadau ysgrifenedig pellach i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o unrhyw sylwadau pellach a wneir at y partïon eraill yn yr apêl.
(8) Wrth benderfynu a fydd yn caniatáu apêl ai peidio, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried y materion canlynol—
(a)lefel y gefnogaeth (fel a ddangosir gan ganlyniad y bleidlais AGB neu'r ail bleidlais AGB, yn ôl y digwydd) ar gyfer cynigion yr AGB;
(b)natur a maint y gwrthdaro y cyfeirir ato yn rheoliad 12(1)(a);
(c)o ran rheoliad 12(1)(b), strwythur lefi'r AGB arfaethedig a sut y bydd baich ariannol yr AGB yn cael ei rannu ymhlith trethdalwyr yn ardal ddaearyddol yr AGB;
(ch)i ba raddau y mae cynigydd yr AGB wedi trafod cynigion yr AGB gyda'r awdurdod cyn cyflwyno'r cynigion hynny i'r awdurdod o dan reoliad 4;
(d)a ydyw'r awdurdod bilio perthnasol, ar ôl y dyddiad y derbynnir yr hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii), wedi newid unrhyw bolisi a fabwysiadwyd yn ffurfiol gan yr awdurdod ac a gynhwysir mewn dogfen a gyhoeddwyd gan yr awdurdod fel bo'r polisi yna'n gwrthdaro gyda chynigion yr AGB; ac
(dd)y gost a achoswyd gan unrhyw berson hyd at ddiwedd y cyfnod a ragnodir yn rheoliad 12(2) o ganlyniad i ddatblygu cynigion yr AGB a chanfasio yngylch cynigion yr AGB.
(9) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benderfyniad gael ei wneud, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ei benderfyniad at yr apelydd a'r awdurdod bilio perthnasol.
14.—(1) Bydd Atodlen 3 yn cael effaith ynghylch cadw Cyfrif Refeniw AGB.
(2) Pan fydd gan yr awdurdod bilio perthnasol fwy nag un hysbysiad o dan reoliad 4(2)(a)(ii), rhaid iddo sicrhau bod Cyfrif Refeniw AGB ar wahân yn cael ei gadw ar gyfer pob un o'r ardaloedd gwella busnes.
(3) Y mae'r paragraff hwn yn gymwys pan ddaw trefniadau'r AGB i ben (drwy eu terfynu o dan reoliad 18, neu fel arall) a cheir credyd yng Nghyfrif Refeniw yr AGB a fyddai, ar ôl tynnu swm rhesymol am weinyddu'r trefniadau i gredydu neu ad-dalu'r swm, yn rhoi credyd neu ad-daliad o £5 o leiaf i bob person oedd yn atebol i dalu lefi'r AGB yn yr union gyfnod cyn i drefniadau'r AGB ddod i ben (“talwr lefi blaenorol”).
(4) Pan fydd paragraff (3) yn berthnasol, rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol —
(a)cyfrifo faint o gredyd yng Nghyfrif Refeniw yr AGB (ar ôl tynnu'r swm y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (3)) sydd i'w gredydu neu ei ad-dalu i bob talwr lefi blaenorol (a rhaid cyfrifo faint sydd i'w gredydu neu ei ad-dalu i bob talwr lefi blaenorol yn ôl faint o lefi'r AGB yr oedd pob talwr lefi blaenorol yn atebol i'w dalu dros gyfnod trethadwy diwethaf trefniadau'r AGB); ac yn
(b)gwneud trefniadau i'r swm hwnnw gael ei gredydu yn erbyn unrhyw atebolrwydd yn nhermau ardrethi annomestig gan bob talwr lefi blaenorol, neu, lle nad oes gan y person hwnnw atebolrwydd yn nhermau ardrethi annomestig, yn trefnu i'r swm gael ei ad-dalu i'r person hwnnw.
(5) Pan na fydd paragraff (3) yn berthnasol, rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol drosglwyddo'r balans credyd yng Nghyfrif Refeniw yr AGB i gredyd ei gronfa gyffredinol.
15. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol, erbyn y dyddiad cychwyn, wneud trefniadau i godi, gweinyddu, casglu, adennill a gweithredu lefi'r AGB a bydd Atodlen 4 yn berthnasol i'r materion hyn.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), caniateir diwygio trefniadau'r AGB heb bleidlais ddiwygio pan fydd y trefniadau yn cynnwys darpariaeth i alluogi gwneud hynny.
(2) Ni chaiff unrhyw ddarpariaeth ym mharagraff (1) ddiwygio —
(a)ardal ddaearyddol yr AGB; na
(b)lefi'r AGB mewn ffordd a fyddai yn —
(i)achosi unrhyw berson i fod yn atebol i dalu lefi'r AGB lle nad oedd yn atebol i'w thalu'n flaenorol; na
(ii)chynyddu lefi'r AGB i unrhyw berson.
(3) Pan fydd paragraff (1) yn berthnasol, rhaid i drefniadau'r AGB gynnwys darpariaeth yn disgrifio'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar gyfer gwneud y diwygiad.
(4) Rhaid i'r weithdrefn y cyfeirir ati ym mharagraff (3) gynnwys —
(a)lle ceir corff AGB, ymgynghoriad rhwng y corff AGB a'r awdurdod bilio perthnasol; a
(b)lle mai'r corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, rhaid cynnal ymgynghoriad rhwng yr awdurdod bilio perthnasol ac unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol.
(5) Pan fydd trefniadau'r AGB yn cael eu diwygio o dan y rheoliad hwn —
(a)rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol sicrhau bod trefniadau'r AGB (wedi eu diwygio) wedi eu gwneud erbyn yr amser y mae'n rhaid i'r trefniadau AGB hynny (wedi eu diwygio) ddod i rym a rhaid iddo anfon hysbysiad yn egluro'r rheswm dros y diwygiad a'i effaith at bob person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB; a
(b)bydd adrannau 44 hyd at 47 y Ddeddf, rheoliadau 14 i 18 ac Atodlenni 3 a 4 yn effeithiol o'r dyddiad y daw trefniadau'r AGB (wedi eu diwygio) i rym fel pe bai cyfeiriad ym mhob un o'r darpariaethau hyn at “drefniadau'r AGB” yn gyfeiriad at drefniadau'r AGB (wedi eu diwygio).
17.—(1) Pan fydd cynnig i newid neu ddiwygio —
(a)trefniadau'r AGB nad ydynt yn cynnwys darpariaeth i alluogi diwygio'r trefniadau heb bleidlais;
(b)ardal ddaearyddol yr AGB; neu
(c)lefi'r AGB mewn ffordd a fyddai yn —
(i)achosi unrhyw berson i fod yn atebol i dalu lefi'r AGB lle nad oedd yn atebol i'w thalu'n flaenorol; neu yn
(ii)cynyddu lefi'r AGB i unrhyw berson,
caiff y corff AGB, neu, os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, caiff yr awdurdod bilio perthnasol ddiwygio trefniadau'r AGB yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Ni ddaw diwygiadau i drefniadau'r AGB o dan y rheoliad hwn i rym oni bai y cymeradwyir y cynigion diwygio drwy bleidlais o'r trethdalwyr annomestig sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o dan drefniadau'r AGB (wedi eu diwygio) (“pleidlais ddiwygio”) ac nid ystyrir hwynt i fod wedi eu cymeradwyo gan bleidlais ddiwygio oni bai —
(a)bod y mwyafrif o'r personau sy'n pleidleisio yn y bleidlais ddiwygio wedi pleidleisio o blaid y cynigion diwygio; a
(b)bod gwerth ardrethol cyfunol pob hereditament y pleidleisiodd person yn y bleidlais ddiwygio mewn perthynas ag ef o blaid y cynigion diwygio, yn fwy na gwerth ardrethol cyfunol pob hereditament y pleidleisiodd person yn y bleidlais ddiwygio mewn perthynas ag ef yn erbyn y cynigion diwygio.
(3) Pan fydd trefniadau'r AGB yn cael eu diwygio o dan y rheoliad hwn —
(a)rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol sicrhau bod trefniadau'r AGB (wedi eu diwygio) wedi eu gwneud erbyn yr amser y mae'n rhaid i'r trefniadau AGB hynny (wedi eu diwygio) ddod i rym; a
(b)bydd adrannau 44 hyd at 47 y Ddeddf, rheoliadau 14 i 18 ac Atodlenni 3 a 4 yn effeithiol o'r dyddiad y daw trefniadau'r AGB (wedi eu diwygio) i rym fel pe bai cyfeiriad ym mhob un o'r darpariaethau hynny at “drefniadau'r AGB” yn gyfeiriad at drefniadau AGB (wedi eu diwygio).
18.—(1) Caiff yr awdurdod bilio perthnasol derfynu trefniadau'r AGB os —
(a)ym marn yr awdurdod, ni fydd gan y corff AGB gyllid digonol i gwrdd â'i atebolrwydd ariannol dros y cyfnod trethadwy presennol, ac y mae'r awdurdod wedi —
(i)rhoi cyfle rhesymol i'r corff AGB wneud trefniadau i gyllido'r diffyg ariannol neu i leihau'r gwaith neu'r gwasanaethau a ddarperir o dan drefniadau'r AGB fel bod y diffyg ariannol yn cael ei wrthbwyso'n ddigonol; ac wedi
(ii)rhoi cyfle, mewn cyfarfod cyhoeddus, i'r personau sy'n atebol i dalu lefi'r AGB wneud sylwadau yng nghyswllt terfynu trefniadau'r AGB;
(b)ym marn yr awdurdod, y mae'r corff AGB wedi methu â darparu, neu wedi methu â gwneud cynnydd rhesymol gyda darparu'r gwaith neu'r gwasanaethau sydd i'w darparu o dan drefniadau'r AGB; neu
(c)os nad yw'r awdurdod yn gallu, am resymau sydd y tu hwnt i'w reolaeth, darparu gwaith neu wasanaethau sy'n angenrheidiol i'r AGB allu parhau, ac y mae'r awdurdod—
(i)os ceir corff AGB, wedi ymgynghori gyda'r corff AGB a gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol; ac
(ii)os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, wedi ymgynghori gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y corff AGB neu, os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, caiff yr awdurdod bilio perthnasol derfynu trefniadau'r AGB os —
(a)nad oes galw mwyach am y gwaith neu'r gwasanaethau a ddarperir o dan drefniadau'r AGB; neu
(b)os nad yw'r corff AGB neu'r corff AGB awdurdod lleol, yn ôl y digwydd, ac am resymau sydd y tu hwnt i'w reolaeth, yn gallu darparu gwaith neu wasanaethau sy'n angenrheidiol i'r AGB allu parhau.
(3) Ni chaiff y corff AGB neu, os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, ni chaiff yr awdurdod bilio perthnasol gymryd unrhyw gamau i derfynu trefniadau'r AGB hyd nes —
(a)os ceir corff AGB, y bydd wedi ymgynghori gyda'r awdurdod bilio perthnasol a gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol; a
(b)os mai corff AGB awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weithredu trefniadau'r AGB, y bydd yr awdurdod bilio perthnasol wedi ymgynghori gydag unrhyw gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes yn ardal ddaearyddol yr AGB y gwêl yr awdurdod yn briodol.
(4) Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol hysbysu'r corff AGB yn ysgrifenedig ynghylch ei fwriad i derfynu trefniadau'r AGB o dan baragraff (1) neu (2) o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad eu terfynu.
(5) Rhaid i'r corff AGB hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol yn ysgrifenedig ynghylch ei fwriad i derfynu trefniadau'r AGB o dan baragraff (2) o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad eu terfynu.
(6) Os terfynir trefniadau'r AGB o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol, cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i derfynu at bob person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB a rhaid i'r hysbysiad hwnnw egluro a fydd ad-daliad o dan reoliad 14(4) yn cael ei wneud.
19. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol gyflenwi unrhyw wybodaeth i drefnydd y bleidlais y mae ei angen at ddiben cyflawni ei swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.
20. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol dalu'r holl wariant a achosir yn briodol gan drefnydd y bleidlais o ran cynnal pleidlais o dan y Rheoliadau hyn.
21.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod unrhyw hysbysiad neu gais, yn ysgrifenedig (ar wahân i ystyr arferol yr ymadrodd hwnnw) wedi ei ddiwallu os bydd y testun—
(a)wedi ei drosglwyddo ar ffurf electronig;
(b)wedi ei dderbyn ar ffurf ddarllenadwy; a
(c)bod modd ei ddefnyddio at ddiben cyfeirio ato yn ddiweddarach.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw hysbysiad sy'n rhaid neu yr awdurdodir ei gyflwyno i awdurdod bilio neu gan awdurdod bilio i unrhyw berson o dan Atodlen 4, neu unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol iddo ei ddarparu o dan baragraff 3(2) yr Atodlen honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2005
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys