Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cynigion yr AGB, cynigion adnewyddu, cynigion diwygio a gweithdrefnau rhagarweiniol

4.—(1Rhaid i gynigion yr AGB, cynigion adnewyddu neu gynigion diwygio, yn ôl y digwydd, gynnwys y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1, 2 a 3 o Atodlen 1.

(2Pan fydd cynigydd yr AGB yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion yr AGB drwy bleidlais AGB, neu lle mae'r corff AGB yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion diwygio drwy bleidlais ddiwygio neu ar gyfer cynigion adnewyddu drwy bleidlais adnewyddu, rhaid iddo —

(a)anfon at yr awdurdod bilio perthnasol —

(i)copi o gynigion yr AGB, y cynigion diwygio neu'r cynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd, ynghyd â chrynodeb o —

(aa)y broses ymgynghori y mae wedi'i chynnal gyda'r personau hynny fydd yn atebol i dalu lefi'r AGB arfaethedig;

(bb)cynllun busnes arfaethedig (gan gynnwys amcangyfrif o'r llif arian, amcangyfrif o'r refeniw y disgwylir ei gynhyrchu a'r gwariant disgwyliedig o dan drefniadau'r AGB, y gyllideb ddisgwyliedig dros gyfnod trefniadau'r AGB a'r ddarpariaeth wrth gefn yn y gyllideb);

(cc)cytundeb arfaethedig sydd i'w ffurfio gyda'r awdurdod bilio perthnasol; a'r

(chch)trefniadau rheolaeth ariannol ar gyfer y corff AGB, a'r trefniadau ar gyfer darparu'r awdurdod bilio perthnasol, o bryd i'w gilydd, gyda gwybodaeth am sefyllfa ariannol y corff AGB; a

(ii)hysbysiad yn gofyn i'r awdurdod bilio perthnasol gyfarwyddo trefnydd y bleidlais i gynnal pleidlais AGB, pleidlais ddiwygio neu bleidlais adnewyddu, yn ôl y digwydd; a

(b)darparu'r awdurdod bilio perthnasol gydag unrhyw wybodaeth y bydd yn rhesymol ei angen i'w fodloni ei hun bod gan gynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, gyllid digonol i dalu costau'r bleidlais AGB neu'r bleidlais adnewyddu, neu'r ail bleidlais o ran y bleidlais AGB neu'r bleidlais adnewyddu, yn ôl y digwydd, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny o dan reoliad 10.

(3Os —

(a)yw cynigydd yr AGB yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion yr AGB drwy bleidlais AGB;

(b)yw corff AGB neu gorff AGB awdurdod lleol, yn ôl y digwydd, yn penderfynu ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion diwygio drwy bleidlais ddiwygio neu ar gyfer cynigion adnewyddu drwy bleidlais adnewyddu,

rhaid iddo anfon copi o gynigion yr AGB, y cynigion diwygio neu'r cynigion adnewyddu, yn ôl y digwydd, a'r cynllun busnes arfaethedig, at unrhyw berson fydd yn atebol i dalu lefi'r AGB arfaethedig ac sy'n gofyn am gopi.

(4Os mae'r awdurdod bilio perthnasol yn ystyried bod cynigion yr AGB, y cynigion adnewyddu neu'r cynigion diwygio yn gwrthdaro gyda pholisi sydd wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol gan yr awdurdod ac sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen a gyhoeddwyd gan yr awdurdod (p'un ai oes gan yr awdurdod ddyletswydd statudol i baratoi dogfen o'r fath neu beidio) rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol rhesymol ar ôl derbyn y cynigion, hysbysu cynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn ysgrifenedig i egluro natur y gwrthdaro.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill