Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2005.

2.  Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.

Dehongli

3.—(1Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1); a

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.

(2Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.

Y diwrnod penodedig

4.  31 Mai 2005 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Darpariaethau Trosiannol

5.—(1Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 3 o Atodlen 4 yn gymwys o ran derbyn plant mewn blwyddyn ysgol yn gynharach na 2007-2008.

(2Er bod paragraff 10 a 11 o Atodlen 4 yn dod i rym, nid yw'r diwygiadau i adrannau 96 a 97 o Ddeddf 1998 yn effeithiol o ran penderfyniad a wnaed gan awdurdod addysg lleol cyn 31 Mai 2005 sy'n cyfarwyddo ysgol benodol i dderbyn disgybl.

(3Os bydd rhiant wedi rhoi hysbysiad o apêl yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 24 i Deddf 1998 cyn 31 Mai 2005 —

(a)mae adrannau 84(6) a 94 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 24 iddi yn parhau i fod yn effeithiol ynglyn â'r apêl honno fel pe bai adran 50, paragraffau 2 a 8 o Atodlen 4 a diddymiad Atodlen 24 i Ddeddf 1998 heb ddod i rym; a

(b)mae adran 25(5)(c) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974(2) yn parhau i fod yn effeithiol fel pe bai paragraff 2(a) o Atodlen 21 heb ddod i rym.

(4Os bydd corff llywodraethu wedi rhoi hysbysiad o apêl yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 25 i Ddeddf 1998 cyn 31 Mai 2005 —

(a)mae adrannau 84(6), 87 a 95 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 25 iddi yn parhau i fod yn effeithiol ynglyn â'r apêl honno fel pe bai paragraffau 2 a 9 o Atodlen 4 a diddymiad Atodlen 25 i Ddeddf 1998 heb ddod i rym; a

(b)mae adran 25(5)(c) of Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 yn parhau i fod yn effeithiol fel pe bai paragraff 2(a) o Atodlen 21 heb ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2005

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill