Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/01/2014
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 22/04/2009.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “aelod lleyg” (“lay member”) yr ystyr a roddir iddo gan baragraffau 1(4) a 2(4) o Atodlen 1;
ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau a ddisgrifir yn rheoliad 3;
ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(1);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae i “diwrnod ysgol” (“school day”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.(2)
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —
(a)adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o Ddeddf 1998, oni ddywedir fel arall;
(b)athro neu athrawes yn cynnwys pennaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)
3. Pan wneir trefniadau neu drefniadau ar y cyd gan —
(a)awdurdod addysg lleol o dan adran 94(1) neu (1A)(3);
(b)corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir o dan adran 94(2) neu (2A)(4);
(c)cyrff llywodraethu dwy neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr un awdurdod addysg lleol, yn unol ag adran 94(3)(5);
(ch)awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu neu gyrff llywodraethu un neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr awdurdod, yn unol ag adran 94(4)(6);
(d)awdurdod addysg lleol o dan adran 95(2),
mae apêl i'w wneud i banel apêl a gyfansoddir yn unol â'r paragraff perthnasol yn Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)
4.—(1) Yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid i'r awdurdod priodol sicrhau cyhoeddi hysbyseb ar gyfer aelodau lleyg o banelau apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1.
(2) Rhaid cyhoeddi'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) cyn diwedd y cyfnod tair blynedd a ddechreuodd pan gyhoeddwyd yr hysbyseb ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw ar gyfer aelodau lleyg, panel apêl a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 24 i Ddeddf 1998, ac ar ôl hynny ym mhob cyfnod tair blynedd ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir hysbyseb (neu'r hysbyseb derfynol mewn cyfres o hysbysebion) ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw yn unol â'r rheoliad hwn.
(3) Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod —
(a)nodi wrth eu henw, eu dosbarth, neu'u disgrifiad cyffredinol, yr ysgolion sy'n cael eu gwasanaethu gan y panelau apêl y mae'r hysbyseb yn cyfeirio atynt;
(b)cael ei rhoi mewn o leiaf un papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal lle mae'r ysgolion a nodir yn yr hysbyseb;
(c)caniatáu cyfnod o 21 o ddiwrnodau o leiaf o ddyddiad cyhoeddi'r hysbyseb ar gyfer atebion.
(4) Cyn penodi unrhyw aelod lleyg, rhaid i'r awdurdod priodol ystyried unrhyw bersonau cymwys sydd wedi gwneud cais i'r awdurdod mewn ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu'r gyfres ddiweddaraf o hysbysebion a roddwyd yn unol â pharagraff (1) ac sy'n dangos eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer y penodiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)
5. Rhaid gwneud unrhyw apêl o dan drefniadau a bennir yn rheoliad 3 yn unol ag Atodlen 2.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)
6.—(1) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(a) i (ch), mae'r materion i'w hystyried gan banel apêl wrth ystyried apêl i gynnwys —
(a)unrhyw hoff ddewis a fynegir gan yr apelydd mewn perthynas â'r plentyn fel a grybwyllir yn adran 86; a
(b)y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion ac a gyhoeddir gan yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 92(7).
(2) Pan wnaethpwyd y penderfyniad o dan apêl ar y sail y byddai rhagfarn o'r math y cyfeirir ati yn adran 86(3)(a) yn codi fel a grybwyllir yn is-adran (4) o'r adran honno, caiff panel apêl benderfynu bod lle i'w gynnig i blentyn dim ond os yw'r panel yn cael ei fodloni —
(a)nad oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol [F1wedi ei wneud] o dan amgylchiadau'r achos; neu
(b)y byddai'r plentyn wedi cael cynnig lle petai'r trefniadau derbyn (fel a gyhoeddir yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 92) wedi cael eu gweithredu'n gywir.
(3) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan drefniadau a bennir yn rheoliad 3(d), wrth ystyried apêl rhaid i banel apêl ystyried —
(a)y rhesymau dros benderfyniad yr awdurdod addysg lleol y dylai'r plentyn dan sylw gael ei dderbyn; a
(b)unrhyw resymau a gyflwynir gan y corff llywodraethu pam y byddai derbyn y plentyn yn amhriodol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 6(2)(a) wedi eu hamnewid (22.4.2009) gan Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/823), rhlau. 1(1), 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)
7.—(1) Mae adran 173(4) o Ddeddf 1972(8), yn gymwys i unrhyw aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1, at ddibenion, ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol perthnasol i dalu lwfans colled ariannol i'r aelod hwnnw, ac yn yr adran honno fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at ddyletswydd wedi'i chymeradwyo i'w ddarllen fel cyfeiriad at fod yn bresennol mewn cyfarfod o banel apêl.
(2) Mae adran 174(1) o Ddeddf 1972(9) yn gymwys mewn perthynas â phanel apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1, ac yn yr adran honno fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at daliadau ar gyfraddau a benderfynir gan y corff dan sylw i'w ddarllen fel cyfeiriad at daliadau ar gyfraddau a benderfynir —
(a)gan yr awdurdod, yn achos panel apêl a gyfansoddir o dan drefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a), (ch) neu (d);
(b)fel arall gan gorff llywodraethu neu gyrff llywodraethu'r ysgol neu'r ysgolion dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)
8.—(1) Rhaid i'r awdurdod priodol indemnio aelodau unrhyw banel apêl a gyfansoddir at ddibenion y trefniadau a wnaed ganddo, fel a bennir yn rheoliad 3, yn erbyn unrhyw gostau a threuliau cyfreithiol rhesymol a dynnir gan yr aelodau hynny mewn cysylltiad ag unrhyw benderfyniad neu gam a gymerir ganddynt yn ddidwyll yn unol â'u swyddogaethau fel aelodau o'r panel hwnnw.
(2) Pan gyfansoddir un o'r panelau hynny gan —
(a)cyrff llywodraethu dwy neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr un awdurdod addysg lleol; neu
(b)awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu neu gyrff llywodraethu un neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr awdurdod,
mae unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o dan baragraff (1) yn rhwymedigaeth cyd ac unigol ar y cyrff sy'n gwneud y trefniadau ar y cyd oni bai bod trefniant blaenorol wedi'i gytuno fel arall yn ysgrifenedig rhwng y cyrff hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2005
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys