Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 3

ATODLEN 1CYFANSODDIAD PANELAU APÊL

Trefniadau a wnaed gan awdurdod addysg lleol

1.—(1Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(a), cyfansoddir panel apêl gan dri neu bum aelod a benodwyd gan awdurdod addysg lleol o blith—

(a)personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg; a

(b)personau sydd â phrofiad mewn addysg neu sy'n gyfarwydd â chyflwr addysg yn ardal yr awdurdod; neu

(c)personau sy'n rhieni i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol.

(2O blith aelodau panel apêl —

(a)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg ac a benodir felly; a

(b)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(b) neu (1)(c).

(3Rhaid i'r awdurdod addysg lleol benodi un aelod o'r panel i ymddwyn fel cadeirydd.

(4At ddibenion y paragraff hwn mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw ef yn berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).

(5Caniateir i'r awdurdod benodi digon o bersonau o dan y paragraff hwn i alluogi dau neu ragor o banelau apêl eistedd yr yn pryd.

(6Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os yw'n anghymwys yn rhinwedd is-baragraff (7).

(7Mae'r personau a ganlyn yn anghymwys i fod yn aelodau o banel apêl —

(a)unrhyw aelod o'r awdurdod neu o gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw;

(b)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod neu gan y corff llywodraethu neu gan y cyrff llywodraethu, heblaw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes;

(c)unrhyw berson sydd â, neu a fu ar unrhyw adeg ag, unrhyw gysylltiad â —

(i)yr awdurdod neu'r ysgol, neu

(ii)unrhyw berson o fewn paragraff (b)

o fath y gellid tybio'n rhesymol ei fod yn codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas â'r awdurdod neu'r ysgol.

(8Rhaid peidio â thybio bod person a gyflogir yn athro neu'n athrawes gan yr awdurdod, oherwydd y gyflogaeth honno'n unig â chysylltiad â'r awdurdod fel a grybwyllir yn is-baragraph (7)(c).

(9Ni chaiff person fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad os oedd y person hwnnw ymhlith y rheini a wnaeth y penderfyniad neu ymhlith y rheini a gymerodd ran yn y trafodaethau ynghylch gwneud y penderfyniad ai peidio.

(10Ni chaiff person sy'n athro neu'n athrawes mewn ysgol fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl sy'n cwestiynu a ddylid derbyn y plentyn i'r ysgol honno ai peidio.

(11Os bydd unrhyw un o'r aelodau, unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi ddechrau ystyried apêl —

(a)yn marw; neu

(b)oherwydd salwch, yn methu â pharhau yn aelod; neu

(c)oherwydd bod amheuon rhesymol yn codi am ei allu i weithredu'n ddiduedd, yn methu â pharhau yn aelod,

caiff y panel barhau i ystyried yr apêl a dod i benderfyniad yn ei chylch cyn belled nad yw nifer yr aelodau sy'n weddill yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (2) uchod wedi'u bodloni.

Trefniadau a wnaed gan gorff llywodraethu

2.—(1Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(b), cyfansoddir panel apêl gan dri neu bum aelod a benodwyd gan gorff llywodraethu o blith —

(a)personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg; a

(b)personau sydd â phrofiad mewn addysg neu sy'n gyfarwydd â chyflwr addysg yn ardal yr awdurdod; neu

(c)personau sy'n rhieni i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol.

(2O blith aelodau panel apêl —

(a)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg ac a benodir felly; a

(b)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(b) neu (1)(c).

(3Rhaid i'r corff llywodraethu penodi un aelod o'r panel i ymddwyn fel cadeirydd.

(4At ddibenion y paragraff hwn mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw ef yn berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu unrhyw brofiad mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).

(5Caniateir i'r corff llywodraethu benodi digon o bersonau o dan y paragraff hwn i alluogi dau neu ragor o banelau apêl eistedd yr yn pryd.

(6Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os yw'n anghymwys yn rhinwedd is-baragraff (7).

(7Mae'r personau a ganlyn yn anghymwys i fod yn aelodau o banel apêl —

(a)unrhyw aelod o'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu unrhyw aelod o'r corff llywodraethu;

(b)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod neu gan y corff llywodraethu heblaw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes;

(c)unrhyw berson sydd â, neu a fu ar unrhyw adeg gysylltiad â —

(i) yr awdurdod neu'r ysgol, neu

(ii) unrhyw berson o fewn paragraff (b),

o fath y gellid tybio'n rhesymol ei fod yn codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas â'r awdurdod neu'r ysgol.

(8Rhaid peidio â thybio bod person a gyflogir yn athro neu'n athrawes gan yr awdurdod, oherwydd y gyflogaeth honno'n unig, â chysylltiad â'r awdurdod fel a grybwyllir yn is-baragraff (7)(c).

(9Ni chaiff person sy'n athro neu'n athrawes mewn ysgol fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl sy'n cwestiynu a ddylid derbyn y plentyn i'r ysgol honno ai peidio.

(10Os bydd unrhyw un o'r aelodau, unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi ddechrau ystyried apêl —

(a)yn marw; neu

(b)oherwydd salwch, yn methu â pharhau yn aelod; neu

(c)oherwydd bod amheuon rhesymol yn codi am ei allu i weithredu'n ddiduedd, yn methu â pharhau yn aelod,

caiff y panel barhau i ystyried yr apêl a dod i benderfyniad yn ei chylch cyn belled nad yw nifer yr aelodau sy'n weddill yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (2) uchod wedi'u bodloni.

Trefniadau ar y cyd gan ddau neu ragor o gyrff llywodraethu

3.—(1Pan fydd trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(c), mae paragraff 2 o'r Atodlen hon yn gymwys fel petai —

(a)(ac eithrio yn is-baragraff (7)) unrhyw gyfeiriad at y corff llywodraethu yn gyfeiriad at gyrff llywodraethu y ddwy ysgol neu'r ysgolion i gyd; a

(b)yn is-baragraff (7), unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw neu at yr ysgol honno yn gyfeiriad at unrhyw un o'r cyrff llywodraethu hynny neu at unrhyw un o'r ysgolion hynny.

Trefniadau ar y cyd gan awdurdod addysg lleol ac un neu ragor o gyrff llywodraethu

4.  Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(ch), bydd paragraff 1 o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â'r trefniadau hynny fel y mae'n gymwys mewn perthynas â threfniadau a wneir gan awdurdod addysg lleol ac y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) ond fel petai yn is-baragraff (7) unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw neu at yr ysgol honno yn gyfeiriad at gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r trefniadau yn ymwneud â hi neu unrhyw ysgol o'r fath.

Apelau gan gyrff llywodraethu o dan adran 95

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(d), bydd paragraff 1 o'r Atodlen hon yn effeithiol fel y bydd yn effeithiol pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(a).

(2Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl o dan adran 95(2) os bu i unrhyw raddau â rhan mewn ystyried o'r blaen a ddylai'r plentyn dan sylw gael ei dderbyn yn ôl ai peidio i unrhyw ysgol y gwaharddwyd ef yn barhaol ohoni ar unrhyw adeg, neu mewn unrhyw apêl blaenorol sy'n ymwneud â'r plentyn o dan adran 95(2).

Rheoliad 5

ATODLEN 2GWEITHDREFN APÊL

Apelau a wneir yn unol ag adran 94

1.—(1Yn y paragraff hwn ystyr “apêl” yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(a) i (ch).

(2Rhaid i fanylion y trefniadau ar gyfer gwneud apêl, gan gynnwys yr wybodaeth sy'n cynnwys y manylion cyswllt ar gyfer pa gorff neu gyrff bynnag sy'n gyfrifol am y trefniadau hynny, gael eu rhoi mewn unrhyw ddogfen sy'n cynnwys hysbysiad i rieni am —

(a)penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(b) a (2) ac sy'n gwrthod derbyn eu plentyn i ysgol y mae'r rhieni wedi mynegi mai hi yw eu hoff ddewis yn unol â'r trefniadau a wneir o dan adran 86(1);

(b)penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(a) o ran yr ysgol y mae addysg i'w darparu i'w plentyn ynddi; neu

(c)penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1A) neu (2A) ac sy'n gwrthod caniatâd i blentyn sydd eisoes wedi'i dderbyn i ysgol i fynd i chweched dosbarth yr ysgol honno.

(3Rhaid i apêl fod yn ysgrifenedig a rhaid iddi nodi'r sail dros ei gwneud.

(4Rhaid i banel apêl roi cyfle i apelydd ymddangos a gwneud sylwadau llafar, a chaniatáu iddo gael ei hebrwng gan gyfaill neu gael ei gynrychioli.

(5Rhaid i apêl gael ei gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sydd wedi gwneud y trefniadau o dan adran 94 o Ddeddf 1998 yn cyfarwyddo fel arall, ond —

(a)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan y panel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1;

(b)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 neu 2 o Atodlen 1 (neu yn unol â pharagraff 2 fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 3 o'r Atodlen honno); a

(c)caiff un aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod o unrhyw banel apêl pan fydd apêl yn cael ei hystyried.

(6At ddibenion is-baragraff (5), mae apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno i'w thrin —

(i)fel apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o'r Atodlen honno os yw'n ymwneud ag ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir, a

(ii)fel apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen honno, os yw'n ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

(7Os bydd aelodau'r panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(8Rhaid i'r panel apêl roi gwybod am ei benderfyniad a'r sail dros ei gwneud yn ysgrifenedig i —

(a)yr apelydd a'r awdurdod addysg lleol; a

(b)yn achos apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1, (neu yn unol â'r paragraff hwnnw fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 3 o'r Atodlen honno), i'r corff llywodraethu a wnaeth y penderfyniad yr apeliwyd yn ei erbyn neu'r corff llywodraethu yr apeliwyd yn erbyn y penderfyniad a wnaed ar ei ran.

(9At ddibenion is-baragraff (8), bydd apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno, i'w thrin fel apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen honno, os bydd yn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

(10Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (9), bydd pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio, gan gynnwys y cyfnod y maent i'w dwyn o'i fewn, i'w penderfynu gan y corff neu'r cyrff sy'n gwneud y trefniadau o dan adran 94.

Apelau a wneir yn unol ag adran 95 o Ddeddf 1998

2.—(1Yn y paragraff hwn ystyr “apêl” yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(d).

(2Pan fydd unrhyw benderfyniad a grybwyllir yn adran 95(2) wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol neu ar ei ran, rhaid i'r awdurdod hysbysu corff llyworaethu'r ysgol yn ysgrifenedig am —

(a)y penderfyniad hwnnw; a

(b)hawl y corff llywodraethu i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol ag is-baragraff (3).

(3Rhaid i unrhyw apêl gan y corff llywodraethu yn erbyn unrhyw benderfyniad cael ei gwneud dim hwyrach na'r pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan hysbysir ef o dan is-baragraff (2).

(4Rhaid i apêl fod drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r sail dros ei gwneud.

(5Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar unrhyw ddyddiad y bydd yr awdurdod addysg lleol yn ei benderfynu ond rhaid i'r dyddiad a benderfynir beidio â bod ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan fydd yr awdurdod hwnnw yn derbyn yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan hysbysiad is-baragraff (4).

(6Ar apêl rhaid i'r panel ganiatáu —

(a)i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu wneud sylwadau ysgrifenedig;

(b)i un o swyddogion yr awdurdod a enwebir gan yr awdurdod, a llywodraethwr a enwebir gan y corff llywodraethu, ymddangos a gwneud sylwadau llafar; ac

(c)i'r corff llywodraethu gael ei gynrychioli.

(7Rhaid i apelau gael eu gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn cyfarwyddo fel arall; ond —

(a)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad o apêl gan banel apêl; a

(b)caiff un aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod o banel apêl sy'n ystyried apêl.

(8Caniateir cyfuno dwy neu ragor o apelau ac ymdrin â hwy yn yr un achos os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwylus oherwydd mai'r un rhai yw'r materion a godir gan yr apelau neu oherwydd eu bod yn gysylltiedig.

(9Os bydd aelodau panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(10Rhaid i'r panel apêl roi gwybod am ei benderfyniad a'r sail dros ei wneud—

(a)yn ysgrifenedig i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu; a

(b)erbyn diwedd yr ail ddiwrnod ysgol ar ôl i wrandawiad yr apêl ddod i ben.

(11Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (10), mae pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio i'w benderfynu gan yr awdurdod addysg lleol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill