- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987 (O.S. 1987/1523, fel y'i diwygiwyd) (“Rheoliadau 1987”) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ac yn ailddeddfu neu'n ailddeddfu gyda diwygiadau ddarpariaethau penodol a geir yn y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC (“Rheoliad 1935/2004”).
2. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau a ddynodir yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau a gyflenwir fel hynafolion, deunyddiau sy'n orchudd neu'n gaenen ac sy'n ffurfio rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gyda'r bwyd, a chyfarpar sefydlog cyhoeddus neu breifat i gyflenwi dŵr.
3. Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gorfodi Rheoliad 1935/2004, (rheoliad 4). Mae Rheoliad 1935/2004 yn Rheoliad fframwaith ar ddeunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd, ac mae'n disodli Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC, a weithredwyd gan Reoliadau 1987. Mae'r Rhan hon hefyd yn darparu ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at yr amrywiol ddibenion a ddynodir yn Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 5).
4. Mae Rhan 3 yn cynnwys rheoliadau sy'n ailddeddfu, heb ddiwygio'n sylweddol, ddarpariaethau Rheoliadau 1987 sy'n ymwneud â finyl clorid (rheoliadau 6 & 7).
5. Mae Rhan 4 yn cynnwys rheoliadau sy'n ailddeddfu darpariaethau Rheoliadau 1987 sy'n ymwneud â ffilm seliwlos a adfywiwyd (“RCF”), fel y'i diwygiwyd yn ôl yr angen i weithredu gofynion Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 93/10/EC (rheoliadau 8 & 9).
6. Yn benodol mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn —
(a)yn rheoli pa sylweddau y ceir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu RCF, a all amrywio yn ôl a chafodd gaenen o blastigau ai peidio (paragraff (3));
(b)yn rheoleiddio pa sylweddau y ceir eu defnyddio i weithgynhyrchu caenennau plastig ar gyfer RCF, ac o dan ba amodau (paragraff (4));
(c)yn creu rhanddirymiad amodol o baragraff (3) o ran sylweddau y ceir eu defnyddio fel lliwyddion neu ludyddion wrth weithgynhyrchu RCF heb gaenen blastig (paragraff (5));
(ch)yn creu tramgwyddau o ran gwerthu, mewnforio neu ddefnydd busnes o RCF nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau (paragraffau (6) & (7)); a
(d)yn creu gofyniad amodol bod datganiad o gydymffurfedd deddfwriaethol gyda'r RCF pan gaiff ei marchnata cyn y cyfnod adwerthu (paragraff (8)).
7. Mae rheoliad 9 yn cymhwyso i RCF â chaenen blastig y rheolaethau sy'n bodoli (sy'n deillio o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72 ac a weithredwyd gan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998, O.S. 1998/1376 fel y'i diwygiwyd) ar ymfudiad o gyfansoddion o ddeunyddiau ac eitemau plastig i fwyd, yn benodol drwy —
(a)pennu terfynau ymfudiad cyffredinol ar gyfer RCF â chaenen blastig (paragraffau (1) & (2));
(b)cymhwyso i RCF â chaenen blastig y terfynau ymfudiad penodedig sy'n gymwys i sylweddau penodol a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig (paragraffau (3) & (4)); ac
(c)cymhwyso'r dulliau a'r gweithdrefnau a ragnodwyd ar gyfer archwilio cydymffurfedd â therfynau ymfudiad (paragraffau (5) & (6)).
8. Mae rheoliad 10 yn cynnwys arbedion a darpariaethau trosiannol —
(a)sy'n cadw'r amddiffyniadau sydd ar gael o dan Reoliadau 1987 ar gyfer unrhyw RCF a weithgynhyrchwyd cyn 29 Ebrill 1994 a allai fod yn parhau mewn cylchrediad;
(b)sy'n creu amddiffyniad o ran RCF a weithgynhyrchwyd yn y Gymuned Ewropeaidd neu a fewnforiwyd iddi cyn 29 Ionawr 2006;
(c)sy'n darparu amddiffyniad o ran allforion.
9. Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau gweinyddol a gorfodi cyffredinol —
(a)sy'n cosbi mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn neu Reoliad 1935/2004 (rheoliad 11);
(b)sy'n dynodi awdurdodau gorfodi (rheoliad 12);
(c)sy'n darparu y caiff y llysoedd gyfarwyddo y dylid cyflwyno sylweddau i Fferyllydd y Llywodraeth er mwyn eu dadansoddi (rheoliad 13);
(ch)sy'n cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 14).
(d)sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (O.S. 1998/1376, fel y'i diwygiwyd) (rheoliad 15);
(dd)sy'n dirymu Rheoliadau 1987 a deddfwriaeth ddiwygio ddilynol (rheoliad 16).
10. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC wedi cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Stryd Wood, Caerdydd CF10 1EW.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys