Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987 (O.S. 1987/1523, fel y'i diwygiwyd) (“Rheoliadau 1987”) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ac yn ailddeddfu neu'n ailddeddfu gyda diwygiadau ddarpariaethau penodol a geir yn y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC (“Rheoliad 1935/2004”).

2.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau a ddynodir yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau a gyflenwir fel hynafolion, deunyddiau sy'n orchudd neu'n gaenen ac sy'n ffurfio rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gyda'r bwyd, a chyfarpar sefydlog cyhoeddus neu breifat i gyflenwi dŵr.

3.  Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gorfodi Rheoliad 1935/2004, (rheoliad 4). Mae Rheoliad 1935/2004 yn Rheoliad fframwaith ar ddeunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd, ac mae'n disodli Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC, a weithredwyd gan Reoliadau 1987. Mae'r Rhan hon hefyd yn darparu ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at yr amrywiol ddibenion a ddynodir yn Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 5).

4.  Mae Rhan 3 yn cynnwys rheoliadau sy'n ailddeddfu, heb ddiwygio'n sylweddol, ddarpariaethau Rheoliadau 1987 sy'n ymwneud â finyl clorid (rheoliadau 6 & 7).

5.  Mae Rhan 4 yn cynnwys rheoliadau sy'n ailddeddfu darpariaethau Rheoliadau 1987 sy'n ymwneud â ffilm seliwlos a adfywiwyd (“RCF”), fel y'i diwygiwyd yn ôl yr angen i weithredu gofynion Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 93/10/EC (rheoliadau 8 & 9).

6.  Yn benodol mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn —

(a)yn rheoli pa sylweddau y ceir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu RCF, a all amrywio yn ôl a chafodd gaenen o blastigau ai peidio (paragraff (3));

(b)yn rheoleiddio pa sylweddau y ceir eu defnyddio i weithgynhyrchu caenennau plastig ar gyfer RCF, ac o dan ba amodau (paragraff (4));

(c)yn creu rhanddirymiad amodol o baragraff (3) o ran sylweddau y ceir eu defnyddio fel lliwyddion neu ludyddion wrth weithgynhyrchu RCF heb gaenen blastig (paragraff (5));

(ch)yn creu tramgwyddau o ran gwerthu, mewnforio neu ddefnydd busnes o RCF nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau (paragraffau (6) & (7)); a

(d)yn creu gofyniad amodol bod datganiad o gydymffurfedd deddfwriaethol gyda'r RCF pan gaiff ei marchnata cyn y cyfnod adwerthu (paragraff (8)).

7.  Mae rheoliad 9 yn cymhwyso i RCF â chaenen blastig y rheolaethau sy'n bodoli (sy'n deillio o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72 ac a weithredwyd gan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998, O.S. 1998/1376 fel y'i diwygiwyd) ar ymfudiad o gyfansoddion o ddeunyddiau ac eitemau plastig i fwyd, yn benodol drwy —

(a)pennu terfynau ymfudiad cyffredinol ar gyfer RCF â chaenen blastig (paragraffau (1) & (2));

(b)cymhwyso i RCF â chaenen blastig y terfynau ymfudiad penodedig sy'n gymwys i sylweddau penodol a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig (paragraffau (3) & (4)); ac

(c)cymhwyso'r dulliau a'r gweithdrefnau a ragnodwyd ar gyfer archwilio cydymffurfedd â therfynau ymfudiad (paragraffau (5) & (6)).

8.  Mae rheoliad 10 yn cynnwys arbedion a darpariaethau trosiannol —

(a)sy'n cadw'r amddiffyniadau sydd ar gael o dan Reoliadau 1987 ar gyfer unrhyw RCF a weithgynhyrchwyd cyn 29 Ebrill 1994 a allai fod yn parhau mewn cylchrediad;

(b)sy'n creu amddiffyniad o ran RCF a weithgynhyrchwyd yn y Gymuned Ewropeaidd neu a fewnforiwyd iddi cyn 29 Ionawr 2006;

(c)sy'n darparu amddiffyniad o ran allforion.

9.  Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau gweinyddol a gorfodi cyffredinol —

(a)sy'n cosbi mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn neu Reoliad 1935/2004 (rheoliad 11);

(b)sy'n dynodi awdurdodau gorfodi (rheoliad 12);

(c)sy'n darparu y caiff y llysoedd gyfarwyddo y dylid cyflwyno sylweddau i Fferyllydd y Llywodraeth er mwyn eu dadansoddi (rheoliad 13);

(ch)sy'n cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 14).

(d)sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (O.S. 1998/1376, fel y'i diwygiwyd) (rheoliad 15);

(dd)sy'n dirymu Rheoliadau 1987 a deddfwriaeth ddiwygio ddilynol (rheoliad 16).

10.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC wedi cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Stryd Wood, Caerdydd CF10 1EW.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources