Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 5Cyffredinol

Tramgwyddau a chosbau

11.—(1Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 6(2), 8(3), (4), (6) neu (7), neu 9(1) neu (3) yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) neu o dan reoliad 4 yn agored —

(a)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau;

(b)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na chwe mis, neu'r ddau.

Gorfodi

12.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi —

(a)darpariaethau Rheoliad 1935/2004 a grybwyllir yn rheoliad 4, a

(b)y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i'r Asiantaeth hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau Erthyglau 16(1) a 17(2).

Dadansoddi gan Fferyllydd y Llywodraeth

13.—(1Caiff y llys lle dygir unrhyw achosion ger ei fron o dan y Rheoliadau hyn, os yw o'r farn bod hynny'n briodol at ddibenion yr achosion, beri —

(a)bod unrhyw ddeunydd neu eitem sy'n destun yr achosion, ac os cawsant brofion eisoes y gellir rhoi profion pellach iddynt, neu

(b)bod unrhyw fwyd a fu mewn cysylltiad ag unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath,

yn cael eu hanfon at Fferyllydd y Llywodraeth a fydd yn cyflawni'r profion hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol a throsglwyddo tystysgrif o'r canlyniad i'r llys, a thelir costau'r profion hynny gan yr erlynydd neu gan y person a gyhuddwyd yn ôl gorchmyniad y llys.

(2Os ceir achos pan ddygir apêl ond na chymerwyd camau o dan baragraff (1), bydd darpariaethau'r paragraff hwnnw'n gymwys o ran y llys sy'n gwrando ar yr apêl.

(3Rhaid i unrhyw dystysgrif o'r canlyniad i'r profion a drosglwyddir gan Fferyllydd y Llywodraeth o dan y rheoliad hwn gael ei llofnodi gan Fferyllydd y Llywodraeth neu ar ei ran, ond gellir gwneud y profion gan unrhyw berson o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.

(4Rhaid ystyried bod unrhyw dystysgrif a drosglwyddir gan Fferyllydd y Llywodraeth yn unol â pharagraff (3) yn dystiolaeth o'r ffeithiau a nodir ynddi oni fydd unrhyw barti i'r achos yn gofyn i'r person a lofnododd y dystysgrif gael ei alw yn dyst.

(5Yn y rheoliad hwn mae'r term “profion” yn cynnwys archwiliad a dadansoddiad, a dehonglir “profi” yn unol â hynny.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf

14.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) gyda'r addasiad y bernir yn is-adran (4) bod y cyfeiriadau at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod;

(dd)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod;

(e)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(f)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Sgotaidd).

(2Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriadau yn is-adran (1) i'r Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at Reoliad 1935/2004.

(3Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf fel cyfeiriad at Reoliad 1935/2004 a'r Rheoliadau hyn —

(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta) gyda'r addasiadau y bernir bod cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn eu trefn;

(b)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(c)adran 33(2) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);

(ch)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).

(4Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyn) yn gymwys i dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.

Diwygiadau i Reoliadau 1998

15.—(1Diwygir Rheoliadau 1998 o ran Cymru yn unol â pharagraffau (2) i (6).

(2Yn rheoliad 2 (dehongli) —

(a)hepgorer y diffiniad o “the 1987 Regulations”;

(b) ar ôl y diffiniad o “the 1992 Regulations” mewnosoder y diffiniad canlynol —

“the 2005 Regulations” means the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2005(1);.

(3Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 6 (dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion a dulliau dadansoddi) yn lle “regulation 14(2) of the 1987 Regulations” rhodder “regulation 7(2) of the 2005 Regulations”.

(4ym mharagraff (1) o reoliad 9 (gorfodi) yn lle “the 1987 Regulations” rhodder “the 2005 Regulations”.

(5Yn rheoliad 11 (rhagdybiaeth o ran bwyd sydd i ddod i gysylltiad â deunydd plastig neu eitem blastig, gludydd neu ddeunydd neu eitem a orchuddiwyd â chaenen wyneb) yn lle “the 1987 Regulations” rhodder “Regulation (EC) No. 1935/2004 of the European Parliament and of the Council(2)”.

(6Yn lle rheoliad 12 (cymhwyso darpariaethau eraill) rhodder y canlynol —

Application of other provisions

12.(1) The following provisions of the Act shall apply for the purposes of these Regulations as they apply for the purposes of the Act —

(a)section 3 (presumption that food is intended for human consumption);

(b)section 30(8) (relating to documentary evidence);

(c)section 44 (protection of officers acting in good faith).

(2) Regulation 13 of the 2005 Regulations shall apply in relation to proceedings taken under these Regulations as it does to proceedings taken under those Regulations..

Dirymiadau

16.  Dirymir y Rheoliadau canlynol neu rannau ohonynt i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —

(a)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987(3);

(b)Rheoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Allforio) 1991(4);

(c)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) 1994(5).

(2)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill