- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
11.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 6(2), 8(3), (4), (6) neu (7), neu 9(1) neu (3) yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) neu o dan reoliad 4 yn agored —
(a)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau;
(b)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na chwe mis, neu'r ddau.
12.—(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi —
(a)darpariaethau Rheoliad 1935/2004 a grybwyllir yn rheoliad 4, a
(b)y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r Asiantaeth hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau Erthyglau 16(1) a 17(2).
13.—(1) Caiff y llys lle dygir unrhyw achosion ger ei fron o dan y Rheoliadau hyn, os yw o'r farn bod hynny'n briodol at ddibenion yr achosion, beri —
(a)bod unrhyw ddeunydd neu eitem sy'n destun yr achosion, ac os cawsant brofion eisoes y gellir rhoi profion pellach iddynt, neu
(b)bod unrhyw fwyd a fu mewn cysylltiad ag unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath,
yn cael eu hanfon at Fferyllydd y Llywodraeth a fydd yn cyflawni'r profion hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol a throsglwyddo tystysgrif o'r canlyniad i'r llys, a thelir costau'r profion hynny gan yr erlynydd neu gan y person a gyhuddwyd yn ôl gorchmyniad y llys.
(2) Os ceir achos pan ddygir apêl ond na chymerwyd camau o dan baragraff (1), bydd darpariaethau'r paragraff hwnnw'n gymwys o ran y llys sy'n gwrando ar yr apêl.
(3) Rhaid i unrhyw dystysgrif o'r canlyniad i'r profion a drosglwyddir gan Fferyllydd y Llywodraeth o dan y rheoliad hwn gael ei llofnodi gan Fferyllydd y Llywodraeth neu ar ei ran, ond gellir gwneud y profion gan unrhyw berson o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.
(4) Rhaid ystyried bod unrhyw dystysgrif a drosglwyddir gan Fferyllydd y Llywodraeth yn unol â pharagraff (3) yn dystiolaeth o'r ffeithiau a nodir ynddi oni fydd unrhyw barti i'r achos yn gofyn i'r person a lofnododd y dystysgrif gael ei alw yn dyst.
(5) Yn y rheoliad hwn mae'r term “profion” yn cynnwys archwiliad a dadansoddiad, a dehonglir “profi” yn unol â hynny.
14.—(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c)adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) gyda'r addasiad y bernir yn is-adran (4) bod y cyfeiriadau at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;
(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod;
(dd)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod;
(e)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(f)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Sgotaidd).
(2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriadau yn is-adran (1) i'r Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at Reoliad 1935/2004.
(3) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf fel cyfeiriad at Reoliad 1935/2004 a'r Rheoliadau hyn —
(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta) gyda'r addasiadau y bernir bod cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn eu trefn;
(b)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(c)adran 33(2) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);
(ch)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).
(4) Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyn) yn gymwys i dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.
15.—(1) Diwygir Rheoliadau 1998 o ran Cymru yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) —
(a)hepgorer y diffiniad o “the 1987 Regulations”;
(b) ar ôl y diffiniad o “the 1992 Regulations” mewnosoder y diffiniad canlynol —
““the 2005 Regulations” means the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2005(1);”.
(3) Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 6 (dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion a dulliau dadansoddi) yn lle “regulation 14(2) of the 1987 Regulations” rhodder “regulation 7(2) of the 2005 Regulations”.
(4) ym mharagraff (1) o reoliad 9 (gorfodi) yn lle “the 1987 Regulations” rhodder “the 2005 Regulations”.
(5) Yn rheoliad 11 (rhagdybiaeth o ran bwyd sydd i ddod i gysylltiad â deunydd plastig neu eitem blastig, gludydd neu ddeunydd neu eitem a orchuddiwyd â chaenen wyneb) yn lle “the 1987 Regulations” rhodder “Regulation (EC) No. 1935/2004 of the European Parliament and of the Council(2)”.
(6) Yn lle rheoliad 12 (cymhwyso darpariaethau eraill) rhodder y canlynol —
12.—(1) The following provisions of the Act shall apply for the purposes of these Regulations as they apply for the purposes of the Act —
(a)section 3 (presumption that food is intended for human consumption);
(b)section 30(8) (relating to documentary evidence);
(c)section 44 (protection of officers acting in good faith).
(2) Regulation 13 of the 2005 Regulations shall apply in relation to proceedings taken under these Regulations as it does to proceedings taken under those Regulations.”.
16. Dirymir y Rheoliadau canlynol neu rannau ohonynt i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —
(a)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987(3);
(b)Rheoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Allforio) 1991(4);
(c)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) 1994(5).
OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: