Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 182 (Cy.15)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

1 Chwefror 2005

Yn dod i rym

28 Chwefror 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2) ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005, maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig a deuant i rym ar 28 Chwefror 2005.

Diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998

2.  Diwygir Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998(4) i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru, yn unol â rheoliadau 3 i 6.

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli) —

(a)ar ddiwedd y diffiniad o “Commission Directive 2002/16” ychwaneger y geirau “as amended by Commission Directive 2004/13/EC(5);

(b)ar ddiwedd y diffiniad o “the Directive” ychwaneger y geiriau “as amended by Commission Directive 2004/1/EC(6).

4.  Yn y darpariaethau canlynol, rhodder y ffigur “2006” yn lle'r ffigur “2005” —

(a)rheoliad 4A(1)(a);

(b)rheoliad 5(1)(b)(i);

(c)rheoliad 8A(1);

(ch)yn adran A o Ran I o Atodlen 1, yn eitem 40 yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau).

5.  Yn Rhan 1 o Atodlen 2, yn eitem 27A yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau), ar ôl y geiriau “For use only as a blowing agent” ychwaneger y geiriau “Use prohibited as from 2 August 2005”.

6.  Yn rheoliad 10 (tramgwyddau) —

(a)yn lle paragraff (19) rhodder y ddarpariaeth ganlynol —

(19) In any proceedings for an offence under regulation 3(1)(a) or (b) in relation to the requisite standards applicable to adhesives and materials and articles covered by a surface coating it shall be a defence to prove that —

(a)the adhesive, material or article was brought into contact with food before 28 February 2003;

(b)the date of filling (or subject to paragraph (24) of this regulation a coded indication of the date of filling) of the material or article concerned appeared on the adhesive, material or article at the time of sale; and

(c)the labelling or marking with the particulars mentioned in subparagraph (b) at the time of sale complied with the requirements as regards labelling relating to durability contained in Article 2.1(a) of Directive 2000/13/EC of the European Parliament and of the Council.;

(b)hepgorer paragraff (20);

(c)yn union ar ôl paragraff (22) ychwaneger —

(23) In any proceedings for an offence under regulations 3(1)(a) or (b) in relation to the sale as from 2 August 2005 of a plastic material or article containing azodicarbonamide with reference number 36640 in Part I of Schedule 2 it shall be a defence to prove that—

(a)the plastic material or article was brought into contact with food before 2 August 2005,

(b)the date of filling (or subject to paragraph (24) of this regulation a coded indication of the date of filling) of the material or article concerned appeared on the plastic material or article at the time of sale, and

(c)the labelling or marking with the particulars mentioned in subparagraph (b) at the time of sale complied with the requirements as regards labelling relating to durability contained in Article 2.1(a) of Directive 2000/13/EC of the European Parliament and the Council.

(24) For the purposes of paragraph (19)(b) and paragraph (23)(b) of this regulation the date signified by a coded indication shall have been made available on request to the Food Standards Agency and the enforcement authority..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Chwefror 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, ac maent yn diwygio ymhellach Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (O.S.1998/1376, “Rheoliadau 1998”), sy'n rhychwantu'r cyfan o Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/13/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/16/EC sy'n ymwneud â defnyddio deilliannau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L51, 22.2.2002, t.27) a hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/1/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC mewn perthynas â defnyddio asodicarbonamid fel cyfrwng chwythu (OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18).

2.  Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 1998 drwy —

(a)ychwanegu blwyddyn at awdurdodiad dros dro i 2,2-bis(hydroxyphenyl)propane bis(2,3-epocsipropyl)ether (“BADGE”) (rheoliad 4);

(b)gwahardd defnyddio cyfrwng chwythu asodicarbonamid o 2 Awst 2005 ymlaen (rheoliad 5);

(c)diwygio'r amddiffyniad sydd ar gael o dan reoliad 10 paragraff (19) o Reoliadau 1998 i ganiatáu ar gyfer defnyddio cod dyddiad fel dewis amgen i'r dyddiad llenwi sy'n ymddangos ar ddeunyddiau ac eitemau a orchuddiwyd â haenau arwyneb, a bod yr amddiffyniad hwnnw yn amodol ar i ystyr y cod fod wedi cael ei ddatgelu i'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod gorfodi pan ofynnwyd amdano (rheoliad 6(a));

(ch)creu amddiffyniad sy'n ymwneud ag asodicarbonamid yn debyg i'r un sy'n gymwys i ddeunyddiau ac eitemau a orchuddiwyd â haenau arwyneb (rheoliad 6(c)).

3.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/13/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau “yr Ysgrifennydd Gwladol” i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(5)

OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.46.

(6)

OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill