Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005, ac aent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd fel y cyfryw o dan reoliad 5;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol;

mae i “cyfathrebiadau electronig” yr un ystyr ag “electronic communications” yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(1);

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw darpariaeth yn Rheoliad y Cyngor a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1946/2003(2) Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 15 Gorffennaf 2003 ar symud ar draws ffin organeddau a addaswyd yn enetig.

(2Mae i ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor neu y cyfeirir atynt ynddo, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol at ddibenion Rheoliad y Cyngor.

(3Mae gofyniad sy'n cael ei osod ar berson gan y Rheoliadau hyn i gyflawni gweithred neu i ymatal rhag ei chyflawni, ac sy'n amodol ar p'un a roddwyd rhyw hysbysiad neu a fynegwyd rhyw ofyniad i'r person hwnnw gan arolygydd, gan awdurdod lleol neu gan y Cynulliad, i'w osod hefyd os oedd yr hysbysiad hwnnw wedi'i roi neu'r gofyniad hwnnw wedi'i fynegi gan berson a chanddo bŵer i wneud hynny o dan Reoliadau sy'n gymwys i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig ac sy'n rhoi eu heffaith i Reoliad y Cyngor.

Awdurdod Cymwys

3.  Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi'n Awdurdod Cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor.

Gorfodi

4.—(1Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (2), rhaid i'r Cynulliad orfodi a gweithredu darpariaethau'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

(2Caiff y Cynulliad gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad penodol neu o ran unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi sy'n cael ei gosod gan y rheoliad hwn i'w chyflawni—

(a)gan bob awdurdod lleol o fewn ei ardal, ac nid gan y Cynulliad; neu

(b)gan bob awdurdod lleol o fewn ei ardal, a chan y Cynulliad yn gweithredu ar y cyd.

Penodi arolygwyr

5.—(1Caiff y Cynulliad, neu mewn unrhyw achos y mae cyfarwyddyd gan y Cynulliad o dan reoliad 4(2) yn gymwys iddo, yr awdurdod lleol, benodi'n arolygwyr y personau y mae'r Cynulliad neu'r awdurdod lleol yn ôl eu trefn yn barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

(2Mae unrhyw benodiad o arolygydd o dan Ran VI o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(3) sy'n effeithiol ar yr adeg y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn effeithiol fel petai'n benodiad gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r arolygydd hwnnw i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Hawliau Mynediad

6.—(1Os yw'n ofynnol iddo wneud hynny, caiff arolygydd, ar ôl dangos tystiolaeth ddogfennol sy'n dangos ei awdurdod, arfer unrhyw un o'r pwerau a bennir yn is-baragraff (3) isod at ddibenion gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.

(2At y dibenion hyn, mae'r pwerau hynny yn arferadwy o ran unrhyw fangre ac eithrio unrhyw ran o fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion domestig.

(3Mae pwerau arolygydd fel a ganlyn—

(a)ar unrhyw adeg resymol—

(i)caiff fynd i mewn i fangre y mae ganddo le i gredu ei bod yn angenrheidiol iddo fynd i mewn iddi a chaiff gymryd gydag ef unrhyw berson a awdurdodwyd yn briodol gan y Cynulliad ac, os oes gan yr arolygydd sail resymol dros ragweld unrhyw rwystr difrifol wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd, cwnstabl; a

(ii)caiff gymryd gydag ef unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben y mae'r pŵer i fynd i mewn yn cael ei arfer ar ei gyfer;

(b)caiff gynnal unrhyw brofion ac arolygiadau (a gwneud unrhyw recordiadau) sy'n angenrheidiol o dan unrhyw amgylchiadau;

(c)caiff gyfarwyddo y dylid gadael unrhyw fangre, neu unrhyw ran ohoni, y mae ganddo bŵer i fynd i mewn iddi, neu unrhyw beth yn y fangre honno neu arni, heb darfu arnynt (boed yn gyffredinol neu mewn ffyrdd penodol) am gyhyd ag y bo'n rhesymol angenrheidiol at ddibenion unrhyw brawf neu arolygiad;

(ch)caiff gymryd samplau o unrhyw organeddau, eitemau neu sylweddau a geir mewn neu ar unrhyw fangre y mae ganddo bŵer i fynd i mewn iddi;

(d)yn achos unrhyw gynnyrch a geir ar fangre y mae ganddo bŵer i fynd i mewn iddi a hwnnw'n gynnyrch sy'n ymddangos ei fod yn organedd a addaswyd yn enetig, neu sydd wedi'i ffurfio o organeddau a addaswyd yn enetig neu'n eu cynnwys, caiff gymryd meddiant o'r cynnyrch hwnnw a'i gadw am gyhyd ag sy'n angenrheidiol at bob un neu at unrhyw un o'r dibenion canlynol, sef—

(i)ei archwilio;

(ii)sicrhau na fydd neb yn ymyrryd ag ef cyn iddo orffen ei archwilio; a

(iii)sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn;

(dd)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae ganddo sail resymol dros gredu ei fod yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i unrhyw brawf neu arolygiad o dan y paragraff hwn i ateb y cwestiynau y mae'r arolygydd yn barnu ei bod yn briodol eu gofyn a llofnodi datganiad bod ei atebion yn wir;

(e)at ddibenion paragraff (dd), caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ateb cwestiynau o'r fath yn absenoldeb unrhyw bersonau eraill, ac eithrio person a enwebwyd gan y person a grybwyllwyd yn gyntaf ac unrhyw bersonau y gall yr arolygydd ganiatáu iddynt fod yn bresennol;

(f)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddangos unrhyw gofnodion, neu os yw'r wybodaeth wedi'i chofnodi ar ffurf gyfrifiadurol, i ddarparu darnau o unrhyw gofnodion, y mae'n ofynnol eu cadw er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig neu y mae'n angenrheidiol iddo eu gweld at ddibenion unrhyw brawf neu arolygiad o dan y paragraff hwn;

(ff)caiff arolygu a chymryd copïau o'r cofnodion hynny, neu unrhyw eitem ynddynt; ac

(g)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi iddo unrhyw gyfleusterau a chymorth, o ran unrhyw faterion neu bethau sydd o fewn rheolaeth y person hwnnw ac y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn cysylltiad â hwy, i'r graddau y mae'r cyfleusterau hynny a'r cymorth hwnnw yn angenrheidiol i alluogi'r arolygydd i arfer unrhyw un o'r pwerau a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn.

(4Pan fo arolygydd yn cymryd meddiant, o dan y pŵer a roddwyd gan baragraff (3)(d) uchod, o unrhyw beth a geir ar unrhyw fangre, rhaid iddo adael hysbysiad yno, naill ai gyda pherson cyfrifol neu, os nad yw hynny'n ymarferol, rhaid iddo adael hysbysiad sydd wedi'i osod mewn safle amlwg, sy'n rhoi digon o fanylion i alluogi pobl i wybod pwy yw'r arolygydd a beth y mae wedi'i atafaelu ac sy'n datgan ei fod wedi cymryd meddiant ohono o dan y pŵer hwnnw; a chyn cymryd meddiant o dan y pŵer hwnnw—

(a)o unrhyw beth sy'n rhan o swp o bethau tebyg, neu

(b)o unrhyw sylwedd,

rhaid i arolygydd, os yw'n ymarferol ac yn ddiogel iddo wneud hynny, gymryd sampl ohono a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o'r sampl a honno wedi'i marcio mewn modd digonol i'w hadnabod.

Cael gwybodaeth oddi wrth bersonau

7.—(1At unrhyw ddiben o ran gorfodi a gweithredu Rheoliad y Cyngor, caiff y Cynulliad, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo—

(a)ei fod yn ymwneud ag allforio organeddau a addaswyd yn enetig; neu

(b)ei fod ar fin ymwneud, neu ei fod wedi bod yn ymwneud, â'r gweithgaredd hwnnw,

ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw roi'r wybodaeth berthnasol sydd ar gael iddo ac a bennir yn yr hysbysiad, ar y ffurf a bennir ynddo ac o fewn y cyfryw gyfnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad ag a bennir ynddo.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw gwybodaeth am unrhyw agwedd ar y gweithgareddau o dan sylw.

Tramgwyddau

8.—(1Mae'n dramgwydd i berson—

(a)mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig, neu fethu â chydymffurfio â hi;

(b)rhwystro arolygydd wrth iddo arfer pŵer a roddwyd iddo gan reoliad 6 neu reoliad 7;

(c)methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodwyd o dan reoliad 6;

(ch)gwneud datganiad neu roi unrhyw wybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, a gwneud y datganiad hwnnw neu roi'r wybodaeth honno yn ddi-hid neu gan wybod bod y datganiad neu'r wybodaeth yn anwir, os yw'r datganiad yn cael ei wneud neu os yw'r wybodaeth yn cael ei rhoi gan y person gan honni ei fod yn cydymffurfio—

(i)ag unrhyw ofyniad o osodir gan y darpariaethau Cymunedol penodedig; neu

(ii)â chais gan arolygydd a wnaed at ddiben sy'n gysylltiedig â gweinyddu neu orfodi'r Rheoliadau hyn;

(d)rhoi eitem anwir yn fwriadol mewn unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan ddarpariaeth Gymunedol benodedig.

(2Mae'n amddiffyniad i berson a gyhuddir o dramgwydd o dan reoliad 8(1)(a) i brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y tramgwydd yn cael ei gyflawni ganddo ef ei hun neu gan berson sydd o dan ei reolaeth.

Tramgwyddau oherwydd bai person arall

9.  Pan fo tramgwydd wedi'i gyflawni gan unrhyw berson o dan reoliad 8 oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, mae'r person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd, a gellir cyhuddo person o'r tramgwydd a'i gollfarnu ohono yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf neu beidio.

Tramgwyddau gan Gyrff Corfforaethol

10.—(1Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un ohonynt, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae'r paragraff blaenorol yn gymwys o ran gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.

Cosbau

11.—(1Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig yn Rhan I o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd ac yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

(2Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig yn Rhan II o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod heb fod yn hwy na thri mis, neu i'r ddau.

(3Mae person yn euog o dramgwydd o dan reoliad 8(1)(b), (c), (ch), neu (d) uchod yn atebol o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau.

Terfynau Amser

12.—(1Caniateir i achos am dramgwydd o dan reoliad 8, yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, gael ei gychwyn o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y daw tystiolaeth, sy'n ddigon ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau achos cyfreithiol, yn hysbys iddo.

(2Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos o'r fath yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na thair blynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac sy'n datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth, a oedd yn ddigon yn ei farn ef i gyfiawnhau dwyn yr achos cyfreithiol, yn hysbys iddo yn dystiolaeth derfynol am y ffaith honno.

(4Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n honni ei bod wedi'i llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi'i llofnodi felly oni phrofir y gwrthwyneb.

Cyflwyno Hysbysiadau

13.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad sydd i'w gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig.

(2Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o'r fath i berson—

(a)drwy ei draddodi i'r person hwnnw, neu drwy ei anfon drwy'r post ato yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf;

(b)yn achos corff corfforaethol, drwy ei draddodi i'r ysgrifennydd neu'r clerc yn y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, neu drwy ei anfon drwy'r post ato yn y swyddfa honno;

(c)yn achos partneriaeth (nad yw'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), drwy ei draddodi i bartner neu berson sy'n llywio neu'n rheoli busnes y bartneriaeth, neu drwy ei anfon drwy'r post ato yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r bartneriaeth honno;

(ch)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei draddodi i aelod o'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu drwy ei anfon drwy'r post ato yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r bartneriaeth honno;

(d)yn achos unrhyw berson arall, drwy ei adael neu ei anfon drwy'r post ato yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf; neu

(dd)pan fo cyfeiriad ar gyfer ei gyflwyno drwy ddefnyddio dull cyfathrebu electronig wedi'i roi gan y person hwnnw, ei anfon drwy ddefnyddio dull cyfathrebu electronig at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw.

(3Pan fo hysbysiad i'w gyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre ac nad yw'n ymarferol darganfod, ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, enw a chyfeiriad y person y dylid ei gyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy ei gyfeirio at y person o dan sylw a'i ddisgrifio fel “meddiannydd” y fangre (gan enwi'r fangre honno) ac—

(a)drwy ei draddodi i ryw berson yn y fangre; neu

(b)os nad oes unrhyw berson yn y fangre y gellir ei draddodi iddo, drwy osod yr hysbysiad, neu gopi ohono, ar ryw ran amlwg o'r fangre.

(4Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, bernir bod y gwasanaeth wedi'i gyflawni drwy gyfeirio a throsglwyddo'r cyfathrebiad electronig yn gywir.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Gorffennaf 2005

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill