- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 a deuant i rym ar 1 Awst 2005, ac eithrio rheoliadau 2 a 7 a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001(1).
2. Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, pan fydd y swm hwnnw'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau, a honno'n ddarpariaeth a bennir mewn perthynas â'r swm hwnnw yng ngholofn (1) (ac y gwelir yng ngholofn (2) beth yw ei phwnc), rhodder yn lle'r swm hwnnw y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4).
3. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli)—
(a)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder —
“ystyr “Rheoliadau Ffioedd 2000” (“the Charges Regulations 2000”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000(2);”;
(b)yn y diffiniad cyntaf o “swp-ddyroddiad” (“batch issue”) yn lle “rhagnodydd” ym mhob man y digwydd, rhodder “rhagnodydd amlroddadwy”;
(c)hepgorer yr ail ddiffiniad o “swp-ddyroddiad” (“batch issue”);
(ch)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“ystyr “swp-ddyroddiad cyfatebol” (“equivalent batch issue”) yw ffurflen a ddarperir o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a ddyroddir gan ragnodydd amlroddadwy ar yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy cyfatebol i alluogi fferyllydd i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu;”;
(d)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“ystyr “ffurflen bresgripsiwn gyfatebol” (“equivalent prescription form”) yw ffurflen a ddarparwyd ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol ac nad yw'n cynnwys—
ffurflen bresgripsiwn Gymreig;
presgripsiwn amlroddadwy Cymreig; neu
presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol;”;
(dd)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“ystyr “presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol” (“equivalent repeatable prescription”) yw presgripsiwn a geir mewn ffurflen ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau amlweinyddu;”;
(e)hepgorer y diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn” (“prescription form”);
(f)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“mae “carchar” (“prison”) yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc ond nid canolfan hyfforddi ddiogel neu garchar y llynges, carchar milwrol neu garchar y llu awyr, ac at ddibenion y diffiniad hwn—
ystyr “canolfan hyfforddi ddiogel” (“secure training centre”) yw man y mae troseddwyr sy'n destun gorchmynion cadw a hyfforddi o dan adran 100 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(3) (tramgwyddwyr o dan 18 oed: gorchmynion cadw a hyfforddi) yn gallu cael eu cadw a'u hyfforddi a'u haddysgu a'u paratoi ar gyfer eu rhyddhau; ac
ystyr “sefydliad tramgwyddwyr ifanc” (“young offender institution”) yw man i gadw tramgwyddwyr a ddedfrydwyd i gael eu cadw mewn sefydliad i droseddwyr ifanc neu ddalfa am oes;”;
(ff)ar ôl y diffiniad o “carchar” mewnosoder—
“ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person a gedwir mewn carchar, lle darperir gwasanaethau deintyddol, offthalmig, fferyllol neu nyrsio o dan y Ddeddf a thrwy, neu o dan drefniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol neu fel arall heblaw yn rhinwedd adran 7(2) o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988(4) (estyniad pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i ariannu'r Gwasanaeth Iechyd);”;
(g)hepgorer y diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy” (“repeatable prescription”);
(ng)yn y diffiniad o “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—
“neu
(ch)y rhan o'r gofrestr a gynhelir gan Gyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(5) sy'n ymwneud â'r canlynol—
(i)ciropodyddion a phodiatryddion,
(ii)ffysiotherapyddion, neu
(iii)radiograffyddion: diagnostig neu therapiwtig,”;
(h)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “ffurflen bresgripsiwn Gymreig” (“Welsh prescription form”) yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru a ddyroddwyd gan ragnodydd neu ddeintydd i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac nid yw'n cynnwys—
presgripsiwn amlroddadwy Cymreig;
ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu
presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
ac at ddibenion y diffiniad hwn—
ystyr “un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru (“Welsh NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth y GIG y lleolir y cyfan neu'r rhan fwyaf o'i hysbytai, sefydliadau a chyfleusterau yng Nghymru;
yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“ystyr “presgripsiwn amlroddadwy Cymreig” (“Welsh repeatable prescription”) yw presgripsiwn ar ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddwyd gan ragnodydd amlroddadwy i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol yn y fformat a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Contract y GMS—
a gynhyrchir gan gyfrifiadur ond a lofnodir gan ragnodydd amlroddadwy; a
sy'n dangos y ceir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a orchmynnir ar y ffurflen fwy nag unwaith, ac sy'n pennu sawl gwaith y ceir eu darparu”;
4. Yn lle rheoliad 3 o'r prif Reoliadau rhodder y rheoliad a ganlyn—
3.—(1) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi ac adennill taliad gan y claf—
(a)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig—
(i)am eitem hosan elastig ffi o £4.00, hynny yw ffi o £8.00 y pâr,
(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;
(b)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol—
(i)am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau Ffioedd 2000,
(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.
(2) Os telir ffi o dan baragraff (1), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.
(3) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau amlweinyddu i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi ac adennill taliad gan y claf hwnnw—
(a)o ran pob swp-ddyroddiad—
(i)am eitem hosan elastig ffi o £4.00, hynny yw ffi o £8.00 y pâr,
(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;
(b)o ran pob swp-ddyroddiad cyfatebol—
(i)am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(i) o Reoliadau Ffioedd 2000,
(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(ii) o Reoliadau Ffioedd 2000.
(4) Os telir ffi o dan baragraff (3), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y swp-ddyroddiad neu'r swp-ddyroddiad cyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn Gymreig sengl fesul cyfrannau, rhaid i'r ffi o £4.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf;
(b)os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn gyfatebol sengl fesul cyfrannau, rhaid i'r ffi a bennir yn rheoliad 3(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf.
(6) Ni chaniateir codi nac adennill ffioedd o dan baragraffau (1), (3) neu (5) yn yr amgylchiadau canlynol—
(a)pan fydd esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i esemptiad wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—
(i)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn Gymreig, ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig,
(ii)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,
(iii)mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar;
(b)pan fydd hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a datganiad o hawl i beidio â thalu wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—
(i)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn Gymreig, ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig,
(ii)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,
(iii)mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar; neu
(c)pan fydd y claf yn preswylio mewn ysgol neu sefydliad y mewnosodwyd ei henw neu ei enw ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol gan ragnodydd yn unol â theler contract gwasanaethau meddygol cyffredinol sy'n rhoi effaith i baragraff 44(2) o Atodlen 6 i Reoliadau Contractau GMS neu drefniadau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wnaed o dan adran 16CC(2) o'r Ddeddf.
(7) Ni fydd fferyllydd, beth bynnag fo telerau ei wasanaeth, o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ran gorchymyn ar—
(a)ffurflen bresgripsiwn Gymreig,
(b)ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,
(c)presgripsiwn amlroddadwy Cymreig, neu
(ch)presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
oni thelir yn gyntaf iddo gan y claf unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei chodi a'i hadennill gan baragraff (1), (3), neu (5) o ran y gorchymyn hwnnw.
(8) Rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn adennill ffi o dan baragraff (1), (3), neu (5), os bydd y claf yn gofyn am hynny, roi derbynneb i'r claf am y swm a dderbyniwyd ar y ffurflen a ddarparwyd at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais am ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y gellir gwneud cais am ad-daliad.
(9) Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Fwrdd Iechyd Lleol i fferyllydd o ran darparu gwasanaethau fferyllol gan y fferyllydd ei leihau gan swm unrhyw ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u hadennill gan y darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn.”.
5.—(1) Diwygier rheoliad 4 o'r prif Reoliadau fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) rhodder y canlynol —
“(1) Rhaid i feddyg sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (3), godi ac adennill taliad gan y claf hwnnw—
(a)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig—
(i)am eitem hosan elastig ffi o £4.00, hynny yw ffi o £8.00 y pâr,
(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;
(b)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol—
(i)am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 4(1)(a) o Reoliadau Ffioedd 2000,
(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 4(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.”.
(3) Ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau “ffurflen bresgripsiwn” rhodder “ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol”.
(4) Ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau “ffurflen bresgripsiwn” ym mhob man y digwydd, rhodder y geiriau “ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol”.
(5) Ym mharagraff (4)—
(a)yn lle'r geiriau “ffurflen bresgripsiwn sengl” rhodder “ffurflen bresgripsiwn Gymreig sengl neu ffurflen bresgripsiwn gyfatebol sengl”; a
(b)yn lle “£6.00” rhodder “£4.00”.
6.—(1) Diwygier rheoliad 8 o'r prif Reoliadau fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3), ar ddechrau'r paragraff, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (3A)”.
(3) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Ni fydd yn ofynnol i berson sy'n dod o fewn paragraff (1)(a) neu (b) ddarparu unrhyw ddatganiad o hawl sy'n ofynnol gan reoliadau 3(6) neu 4(3) os dyroddwyd—
(a)ffurflen bresgripsiwn Gymreig;
(b)presgripsiwn amlroddadwy Cymreig;
(c)ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu
(ch)presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
a bod dyddiad geni'r person wedi'i argraffu drwy gyfrwng cyfrifiadur ar y ffurflen berthnasol .”.
7. Ar ôl rheoliad 8, mewnosoder y rheoliad canlynol—
8A. Nid yw carcharor yn atebol i dalu unrhyw ffioedd o dan y Rheoliadau hyn.”.
8. Ym mharagraff (2) o reoliad 11 o'r prif Reoliadau, yn lle'r geiriau “rheoliad 3(6)” rhodder “rheoliad 3(8)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Gorffennaf 2005
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys