Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Amnewid rheoliad 3 o'r prif Reoliadau

4.  Yn lle rheoliad 3 o'r prif Reoliadau rhodder y rheoliad a ganlyn—

Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr

3.(1) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi ac adennill taliad gan y claf—

(a)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig—

(i)am eitem hosan elastig ffi o £4.00, hynny yw ffi o £8.00 y pâr,

(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;

(b)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol—

(i)am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau Ffioedd 2000,

(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.

(2) Os telir ffi o dan baragraff (1), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.

(3) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau amlweinyddu i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi ac adennill taliad gan y claf hwnnw—

(a)o ran pob swp-ddyroddiad—

(i)am eitem hosan elastig ffi o £4.00, hynny yw ffi o £8.00 y pâr,

(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;

(b)o ran pob swp-ddyroddiad cyfatebol—

(i)am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(i) o Reoliadau Ffioedd 2000,

(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(ii) o Reoliadau Ffioedd 2000.

(4) Os telir ffi o dan baragraff (3), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y swp-ddyroddiad neu'r swp-ddyroddiad cyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.

(5) At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn Gymreig sengl fesul cyfrannau, rhaid i'r ffi o £4.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf;

(b)os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn gyfatebol sengl fesul cyfrannau, rhaid i'r ffi a bennir yn rheoliad 3(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf.

(6) Ni chaniateir codi nac adennill ffioedd o dan baragraffau (1), (3) neu (5) yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)pan fydd esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i esemptiad wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—

(i)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn Gymreig, ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig,

(ii)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,

(iii)mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar;

(b)pan fydd hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a datganiad o hawl i beidio â thalu wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—

(i)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn Gymreig, ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig,

(ii)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,

(iii)mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar; neu

(c)pan fydd y claf yn preswylio mewn ysgol neu sefydliad y mewnosodwyd ei henw neu ei enw ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol gan ragnodydd yn unol â theler contract gwasanaethau meddygol cyffredinol sy'n rhoi effaith i baragraff 44(2) o Atodlen 6 i Reoliadau Contractau GMS neu drefniadau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wnaed o dan adran 16CC(2) o'r Ddeddf.

(7) Ni fydd fferyllydd, beth bynnag fo telerau ei wasanaeth, o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ran gorchymyn ar—

(a)ffurflen bresgripsiwn Gymreig,

(b)ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,

(c)presgripsiwn amlroddadwy Cymreig, neu

(ch)presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,

oni thelir yn gyntaf iddo gan y claf unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei chodi a'i hadennill gan baragraff (1), (3), neu (5) o ran y gorchymyn hwnnw.

(8) Rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn adennill ffi o dan baragraff (1), (3), neu (5), os bydd y claf yn gofyn am hynny, roi derbynneb i'r claf am y swm a dderbyniwyd ar y ffurflen a ddarparwyd at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais am ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y gellir gwneud cais am ad-daliad.

(9) Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Fwrdd Iechyd Lleol i fferyllydd o ran darparu gwasanaethau fferyllol gan y fferyllydd ei leihau gan swm unrhyw ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u hadennill gan y darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn..

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill