Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005.

Y diwrnod penodedig

2.—(1Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, sef—

(a)adran 61 (arolwg);

(b)adran 64 (archwiliad annibynnol);

(c)adran 65 (ymyrraeth gan y Cynulliad);

(ch)adran 66 (tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl);

(d)adran 67 (mabwysiadu cynllun datblygu lleol);

(dd)adran 68 (dirymu cynllun datblygu lleol);

(e)adran 69 (adolygu cynllun datblygu lleol);

(f)adran 70 (diwygio cynllun datblygu lleol);

(ff)adran 71 (pŵer diofyn y Cynulliad);

(g)adran 74 (corfforaethau datblygu trefol); ac

(ng)adran 76 (yr adroddiad monitro blynyddol), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,

yw, at ddiben gwneud rheoliadau, 5 Hydref 2005, ac ymmhob achos arall, 15 Hydref 2005.

(2Y diwrnod penodedig i erthyglau 3 i 7 o'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 15 Hydref 2005.

Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

3.—(1Diwygier Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) fel a ganlyn:

(2Diwygier Atodlen 13 (tir o dan falltod) fel a ganlyn.

(3Ar ôl paragraff 1A mewnosoder—

1B  Land in Wales which is identified for the purposes of relevant public functions by a local development plan for the area in which the land is situated.

Notes

(1) Relevant public functions are—

(a)the functions of the National Assembly for Wales, a government department, local authority, National Park authority or statutory undertakers;

(b)the establishment or running by a public telecommunications operator of a telecommunications system.

(2) For the purposes of this paragraph a local development plan is—

(a)a local development plan which is adopted or approved for the purposes of Part 6 of the Planning and Compulsory Act 2004 (in this paragraph, the 2004 Act);

(b)a revision of a local development plan in pursuance of section 70 of the 2004 Act which is adopted or approved for purposes of Part 6 of the 2004 Act;

(c)a local development plan which has been submitted to the National Assembly for independent examination under section 64(1) of the 2004 Act;

(d)a revision of a local development plan in pursuance of section 70 of the 2004 Act if the plan has been submitted to the National Assembly for independent examination under section 64(1) of that Act.

(3) But Note (2)(c) and (d) does not apply if the plan is withdrawn under section 66 of the 2004 Act at any time after it has been submitted for independent examination.

(4) In Note (2)(c) and (d) the submission of a local development plan to the National Assembly for independent examination is to be taken to include the holding of an independent examination by the National Assembly under section 65 or section 71 of the 2004 Act.

(5Ym mharagraff 5, yn lle “any such functions as are mentioned in paragraph 1(a)(i) or (ii)” rhodder “relevant public functions (within the meaning of paragraph 1A or 1B)”.

(6Ym mharagraff 6, yn lle “any such functions as are mentioned in paragraph 5” rhodder “relevant public functions (within the meaning of paragraph 1A or 1B)”.

(7Ym mharagraff 13, yn lle “paragraphs 1, 2, 3 and 4” rhodder “paragraph 1A or 1B”.

Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005

4.  Dirymer erthygl 4 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005(2), ar y diwrnod penodedig, gan erthygl 2(2).

Darpariaethau Trosiannol

5.—(1Dirymer Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu) 1991(3) (“Rheoliadau 1991”) ar y diwrnod penodedig, gan erthygl 2(2).

(2Nid yw paragraff (1) yn effeithiol mewn perthynas ag ardaloedd unrhyw awdurdod cynllunio lleol a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

6.  Pan fo awdurdod cynllunio lleol a grybwyllir yn yr Atodlen yn penderfynu cwblhau arfer ei bwerau o dan Reoliadau 1991, rhaid iddo, cyn pen—

(a)3 wythnos, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig am—

(i)y penderfyniad hwnnw; a

(ii)statws cynllun datblygu cyfredol yr awdurdod ar gyfer ei ardal, a

(b)4 wythnos, gyhoeddi ar ei wefan yr wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff (a).

Arbedion

7.—(1Nid yw diddymiad(4) paragraffau 1 i 4 o Atodlen 13 i'r brif Ddeddf yn effeithio ar unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud at ddibenion Pennod 2 o ran 6 o'r brif Ddeddf yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd cynllun a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o'r paragraffau hynny yn parhau i ffurfio rhan o'r cynllun datblygu yn rhinwedd erthygl 5(2) o'r Gorchymyn hwn.

(2Mae cyfeiriadau at gynllun a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau 1 i 4 yn cynnwys unrhyw gynnig i newid y cynllun neu i roi cynllun arall yn ei le.

(3Y cynllun datblygu yw'r cynllun datblygu at ddibenion adran 27A neu 54 o'r brif Ddeddf.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Hydref 2005

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill