- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
11 Hydref 2005
Yn dod i rym
14 Hydref 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997(1), â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac sy'n cynrychioli ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(2):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Hydref 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol.
(3) Ym mharagraff 2 uchod, ystyr “cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol” yw'r ystyr a roddir i “relevant remission question” yn Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997—
(a)sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005; a
(b)nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle “£1,540” ym mhob man y'i gwelir rhodder “£1,575”.
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle “£11,935” rhodder “£12,182”.
(4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—
(1) | (2) | (3) | (4) |
---|---|---|---|
Part of relevant income to which specified percentage applies | Only assisted pupil (%) | Each of two assisted pupils (%) | Each of three assisted pupils (%) |
That part (if any) which exceeds £12,016 but does not exceed £13,066 | 9 | 6.75 | 5.25 |
That part (if any) which exceeds £13,066 but does not exceed £14,133 | 12 | 9 | 7 |
That part (if any) which exceeds £14,133 but does not exceed £16,247 | 15 | 11.25 | 8.75 |
That part (if any) which exceeds £16,247 but does not exceed £19,509 | 21 | 15.75 | 12.25 |
That part (if any) which exceeds £19,509 but does not exceed £23,761 | 24 | 18 | 14 |
That part (if any) which exceeds £23,761 | 33 | 24.75 | 19.25” |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 (“Rheoliadau 1997”) at ddibenion “cwestiwn peidio â chasglu perthnasol”. Mae hwn yn gwestiwn o beidio â chasglu o dan Reoliadau 1997 sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Mae Rheoliadau 1997 yn darparu trefniadau ar gyfer peidio â chasglu ffioedd ysgol ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i barhau i ddal lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er gwaethaf diddymu y cynllun lleoedd a gynorthwyir gan adran 1 o'r Ddeddf honno.
Mae'r swm sydd i'w dynnu yn yr incwm “perthnasol” o ran perthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,540 i £1,575.
Pan fo'r incwm “perthnasol” ar neu'n is na lefel benodol, ni chesglir y ffioedd o gwbl. Mae'r lefel honno yn cael ei chynyddu o £11,935 i £12,182, gyda chynnydd cyfatebol yn y swm nad yw'n cael ei gasglu os yw'r incwm “perthnasol” yn fwy na'r swm hwnnw.
1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).
Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru:. gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod o ran Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).
O.S. 1997/1968, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966, O.S. 1999/1504, O.S. 2000/1938 (Cy.136), O.S. 2001/2680 (Cy.221), O.S. 2002/1879 (Cy.188), O.S. 2003/1854 (Cy.204) ac O.S. 2004/1812 (Cy.197).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys