Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 4Y WEITHDREFN AR GYFER CYNLLUN DATBLYGU LLEOL

Cyfranogi cyn adneuo

14.  Cyn bod CDLl yn cydymffurfio â rheoliad 15, rhaid iddo gysylltu â'r cyrff canlynol er mwyn llunio strategaethau ac opsiynau amgen—

(a)pob un o'r cyrff ymgynghori penodol i'r graddau y mae'r ACLl yn credu bod pwnc arfaethedig yr CDLl yn effeithio ar y cyrff hynny; a

(b)y cyrff ymgynghori cyffredinol y mae'r ACLl yn barnu eu bod yn briodol.

Ymgynghori â'r cyhoedd cyn adneuo

15.  Cyn bod ACLl yn penderfynu'n derfynol ar gynnwys CDLl sydd wedi'i adneuo yn unol â rheoliad 17, rhaid iddo—

(a)trefnu bod copïau o'r dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o'r materion cyn-adneuo ar gael i'w harolygu yn ystod oriau arferol swyddfa—

(i)yn ei brif swyddfa, a

(ii)mewn unrhyw le arall o fewn ei ardal y mae'r ACLl yn barnu ei fod yn briodol;

(b)cyhoeddi ar ei wefan—

(i)y dogfennau cynigion cyn-adneuo,

(ii)y materion cyn-adneuo,

(iii)datganiad o'r ffaith bod y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael i'w harolygu ac o'r lleoedd lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu;

(c)anfon at y cyrff hynny a nodwyd o dan reoliad 14(a) a (b)—

(i)dogfennau cynigion cyn-adneuo'r ACLl,

(ii)y dogfennau ategol sy'n berthnasol i'r corff y mae'r dogfennau yn cael eu hanfon ato,

(iii)hysbysiad o'r materion cyn-adneuo,

(iv)y datganiad ym mharagraff (b)(iii); ac

(ch)hysbysu drwy hysbyseb leol—

(i)y materion cyn-adneuo,

(ii)y ffaith bod y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael i'w harolygu, y mannau lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu.

Sylwadau Ymgynghoriad â'r Cyhoedd

16.—(1Caiff unrhyw berson gyflwyno sylwadau am ddogfennau cyn-adneuo ACLl.

(2Rhaid i unrhyw sylwadau o'r fath—

(a)cael eu cyflwyno o fewn cyfnod o 6 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod y mae'r ACLl yn cydymffurfio â rheoliad 15(a), (c) ac (ch); a

(b)cael eu hanfon i'r cyfeiriad, a phan fo'n gymwys, at y person a bennir yn unol â rheoliad 15(ch).

(3Rhaid i ACLl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff (2) cyn penderfynu'n derfynol ar gynnwys y cynigion CDLl sydd i'w rhoi ar gael o dan reoliad 17.

Adneuo Cynigion

17.  Rhaid i'r ACLl—

(a)trefnu bod copïau o'r dogfennau CDLl, a datganiad o'r materion CDLl, ar gael i'w harolygu yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a);

(b)cyhoeddi ar ei wefan—

(i)y dogfennau CDLl,

(ii)y materion adneuo, a

(iii)datganiad o'r ffaith bod y dogfennau CDLl ar gael i'w harolygu ac o'r mannau lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu;

(c)anfon at bob un o'r cyrff a nodwyd yn rheoliad 14(a) a (b), gopïau o'r canlynol—

(i)yr CDLl sydd wedi'i adneuo,

(ii)yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd,

(iii)yr adroddiad ymgynghori cychwynnol,

(iv)rhestr o'r dogfennau ategol sy'n berthnasol ym marn yr ACLl i waith paratoi'r CDLl,

(v)hysbysiad o'r materion adneuo, a

(vi)y datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b)(iii); ac

(ch)hysbysu drwy hysbyseb leol—

(i)y materion adneuo, a

(ii)y ffaith bod y dogfennau CDLl ar gael i'w harolygu ac o'r mannau lle gellir eu harolygu a'r amserau y gellir eu harolygu.

Sylwadau ar gynigion adneuo cynllun datblygu lleol

18.  Caiff person gyflwyno sylwadau am CDLl drwy eu hanfon i'r cyfeiriad, a phan fo'n gymwys, at y person a bennir yn unol â rheoliad 15(ch), o fewn y cyfnod o 6 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod y bydd yr CDLl yn cydymffurfio â rheoliad 17(a), (c) ac (ch).

Ymdrin â sylwadau: cyffredinol

19.—(1Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i sylw ar ddyraniad safle.

(2Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ACLl gael sylw ar CDLl o dan reoliad 18, rhaid iddo—

(a)trefnu bod copi o'r sylw ar gael yn y mannau lle trefnwyd bod y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a);

(b)pan fo'n ymarferol, cyhoeddi ar ei wefan fanylion am yr holl sylwadau a gafwyd ynghyd â datganiad ynghylch sut y gellir eu harolygu yn unol â rheoliad 15(a).

(3Nid oes angen i ACLl gydymffurfio â pharagraff (2) os cyflwynir y sylw ar ôl y cyfnod a bennir yn rheoliad 18.

Ymdrin â sylwadau : sylwadau ar ddyraniad safle

20.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i sylw ar ddyraniad safle.

(2Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cyfnod yn rheoliad 18 ddod i ben, rhaid i'r ACLl—

(a)trefnu bod sylw ar ddyraniad safle, a datganiad o'r materion ym mharagraff (3), ar gael i'w harolygu yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a);

(b)cyhoeddi ar ei wefan—

(i)pan fo'n ymarferol, y sylw ar ddyraniad safle,

(ii)y materion ym mharagraff (3),

(iii)datganiad o'r ffaith bod y sylw ar ddyraniad safle ar gael i'w archwilio ac ynghylch y mannau lle gellir ei archwilio a'r amserau y gellir ei archwilio;

(c)anfon at y cyrff a nodwyd yn rheoliad 14(a) a (b)—

(i)cyfeiriad y safle y mae'r sylw ar ddyraniad safle yn ymwneud ag ef,

(ii)hysbysiad o'r materion ym mharagraff (3),

(iii)datganiad o'r ffaith bod y sylw ar ddyraniad safle ar gael i'w archwilio a'r mannau lle gellir ei archwilio a'r amserau y gellir ei archwilio; ac

(ch)hysbysu drwy hysbyseb leol—

(i)y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3),

(ii)y ffaith bod y sylw ar y dyraniad safle ar gael i'w archwilio; a'r mannau lle gellir ei archwilio a'r amserau y gellir ei archwilio;

(3Y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 yw—

(a)y cyfnod y mae rhaid cyflwyno sylwadau ynddo am y sylw ar ddyraniad safle;

(b)y cyfeiriad, a phan fo'n briodol, y person y mae rhaid i—

(i)sylwadau ysgrifenedig, a

(ii)sylwadau ar ffurf cyfathrebiadau electronig,

gael eu hanfon ato.

Sylwadau am sylw ar ddyraniad safle

21.—(1Caiff unrhyw berson gyflwyno sylwadau am sylw ar ddyraniad safle drwy eu hanfon i'r cyfeiriad, a phan fo'n gymwys, at y person a bennir yn unol â rheoliad 20(2)(b)(ii) o fewn y cyfnod o chwe wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod y mae'r ACLl yn cydymffurfio â rheoliad 20(2)(a), (c) ac (ch).

(2Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ACLl gael sylw ar CDLl o dan reoliad 20, rhaid iddo—

(a)trefnu bod copi o'r sylw ar gael yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a);

(b)pan fo'n ymarferol, cyhoeddi ar ei wefan fanylion am yr holl sylwadau a gafwyd ynghyd â datganiad ynghylch sut y gellir eu harchwilio yn unol â rheoliad 15(a).

(3Nid oes angen i ACLl gydymffurfio â pharagraff (2) os yw'r sylw wedi'i gyflwyno ar ôl y cyfnod a bennir ym mharagraff 1.

Cyflwyno cynllun datblygu lleol i'r Cynulliad Cenedlaethol

22.—(1Rhaid i ACLl beidio â chyflwyno'r CDLl i'r Cynulliad Cenedlaethol onid yw wedi ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd o dan reoliadau 18 ac 21 a hyd nes iddo eu hystyried.

(2Y dogfennau a ragnodir at ddibenion adran 64(3) yw—

(a)yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd;

(b)y cynllun cynnwys cymunedau;

(c)adroddiad ymgynghori sy'n nodi—

(i)p'un o'r cyrff y maent wedi cysylltu neu wedi ymgynghori â hwy yn unol â rheoliadau 14, 15, 17 ac 20,

(ii)crynodeb o'r prif faterion a godwyd yn y cysylltiadau, yr ymgynghoriadau a'r sylwadau hynny, a

(iii)sut yr aethpwyd i'r afael â'r prif bynciau hynny yn yr CDLl,

(iv)cyfanswm y sylwadau a gafwyd yn unol â phob un o reoliadau 16, 18 ac 21,

(v)ei argymhellion ynglŷn â'r ffordd y dylid mynd i'r afael, yn ei farn ef, yn yr CDLl â'r prif faterion a godwyd yn y sylwadau a gafwyd yn unol â rheoliadau 18 a 21,

(vi)ei argymhellion ynglŷn â'r ffordd y dylid mynd i'r afael, yn ei farn ef, yn yr CDLl â phob un o'r sylwadau a gafwyd yn unol â rheoliadau 18 a 21, a

(vii)unrhyw wyro oddi wrth y cynllun cynnwys cymunedau;

(ch)copi o'r sylwadau a gafwyd yn unol â rheoliadau 18 a 21; a

(d)unrhyw ddogfennau ategol y mae'r ACLl yn barnu eu bod yn berthnasol i waith paratoi'r CDLl.

(3O'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(a) i (c) a (d)—

(a)rhaid anfon pedwar copi o bob un ar ffurf papur, a

(b)rhaid anfon un copi yn electronig, ar yr amod, yn achos y dogfennau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(d), neu y cyfeiriwyd atynt ynddo, y byddai'n ymarferol gwneud hynny.

(4O'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2(ch), rhaid anfon un copi o bob un ar ffurf papur.

(5Rhaid i'r ACLl—

(a)cyhoeddi datganiad ar ei wefan fod yr CDLl wedi'i gyflwyno i'w archwilio o dan adran 64(1);

(b)hysbysu'r ffaith drwy hysbyseb leol;

(c)trefnu bod y dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(c) a (d) ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a);

(ch)cyhoeddi ar ei wefan y dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(c) ac, os yw'n ymarferol, y rhai y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(d);

(d)rhoi hysbysiad i'r personau hynny a ofynnodd am gael eu hysbysu pan fyddai'r CDLl wedi'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod wedi'i gyflwyno felly.

Archwiliad annibynnol

23.—(1O leiaf chwe mis cyn dechrau cynnal archwiliad annibynnol o dan adran 64, rhaid i'r ACLl—

(a)cyhoeddi ar ei wefan y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2);

(b)hysbysu o'r materion hynny unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylw (a heb ei dynnu'n ôl) yn unol â rheoliad 18 neu 21; ac

(c)hysbysu drwy hysbyseb leol o'r materion hynny.

(2Y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)yr amser a'r lle y mae'r archwiliad i'w gynnal; a

(b)enw'r person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad.

(3Cyn bod y person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad yn cydymffurfio ag adran 64(7), rhaid i'r person hwnnw ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn unol â rheoliadau 18 ac 21.

Cyhoeddi argymhellion y person a benodwyd

24.—(1Rhaid i'r ACLl gydymffurfio ag adran 64(8)—

(a)ar y diwrnod y caiff yr CDLl ei fabwysiadu neu cyn hynny; neu

(b)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(1) neu (4) ar ôl i'r person a benodwyd gydymffurfio ag adran 64(7), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael y cyfarwyddyd.

(2Pan fydd yr ACLl yn cydymffurfio ag adran 64(8), rhaid iddo—

(a)trefnu bod argymhellion y person a benodwyd, a'r rhesymau a roddwyd dros yr argymhellion hynny, ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15;

(b)cyhoeddi ar ei wefan yr argymhellion a'r rhesymau; ac

(c)hysbysu'r personau hynny a ofynnodd am gael eu hysbysu o gyhoeddiad argymhellion y person a benodwyd eu bod wedi'u cyhoeddi felly.

Mabwysiadu cynllun datblygu lleol

25.—(1Rhaid i'r ACLl fabwysiadu'r CDLl o fewn wyth wythnos i'r dyddiad y cafodd yr argymhellion a'r rhesymau a roddwyd gan y person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Pan fydd yr ACLl yn mabwysiadu CDLl, rhaid iddo yr un pryd—

(a)trefnu bod y dogfennau canlynol ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15—

(i)yr CDLl,

(ii)datganiad mabwysiadu, a

(iii)yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd;

(b)cyhoeddi ar ei wefan y datganiad mabwysiadu;

(c)hysbysu o'r canlynol drwy hysbyseb leol—

(i)y datganiad mabwysiadu,

(ii)y ffaith bod yr CDLl ar gael i'w archwilio; a'r mannau lle gellir archwilio'r ddogfen a'r amserau y gellir ei harchwilio;

(ch)anfon y datganiad mabwysiadu at unrhyw berson sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o fabwysiadu'r CDLl; a

(d)anfon pedwar copi o'r CDLl a'r datganiad mabwysiadu i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl

26.  Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i CDLl gael ei dynnu'n ôl o dan adran 66, rhaid i'r ACLl—

(a)cyhoeddi ar ei wefan ddatganiad o'r ffaith honno;

(b)hysbysu'r ffaith honno drwy hysbyseb leol;

(c)hysbysu unrhyw gorff y rhoddwyd hysbysiad iddo o'r ffaith honno o dan reoliad 15(c);

(ch)dileu unrhyw gopïau, dogfennau, materion a datganiadau y trefnwyd iddynt fod ar gael neu a gyhoeddwyd o dan reoliadau 15(a) a (b), 17(a) a (b), 19(2)(a) a (b), ac 20(2)(a) a (b); a

(d)hysbysu unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylw (a heb ei dynnu'n ôl) yn unol â rheoliad 18 neu 21 o'r ffaith honno.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill