- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
27. Rhaid i ACLl ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol gopi o bob hysbysiad a gyhoeddwyd gan yr ACLl yn unol â'r Rheoliadau hyn pan gaiff yr hysbysiad ei gyhoeddi gyntaf, ynghyd â chopi o bob dogfen y trefnwyd iddi fod ar gael i'w harolygu yn unol â'r Rheoliadau hyn.
28.—(1) Os, mewn perthynas ag CDLl, y mae'r person a benodwyd i gyflawni archwiliad o dan adran 64 wedi cydymffurfio ag is-adran (7) o'r adran honno, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'r ACLl ar unrhyw adeg i beidio â mabwysiadu'r CDLl hwnnw nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(1) neu (4).
(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o'r fath, rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod y cyfarwyddyd ar gael i'w archwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15;
(b)cyhoeddi'r cyfarwyddyd ar ei wefan;
(c)peidio â mabwysiadu'r CDLl nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi hysbysu'r ACLl o'i benderfyniad o dan baragraff (1).
29. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(1) ynglŷn ag CDLl, rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod y cyfarwyddyd ar gael i'w archwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15;
(b)cyhoeddi'r cyfarwyddyd ar ei wefan; ac
(c)ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â rheoliad 25, cyhoeddi a rhoi ar gael i'w archwilio yn unol â'r rheoliad hwnnw—
(i)datganiad bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi tynnu'r cyfarwyddyd yn ôl, neu
(ii)hysbysiad y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 65(2)(b).
30.—(1) Mae'r rheoliad hwn, a rheoliadau 31 i 35, yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(4).
(2) Os rhoddir y cyfarwyddyd cyn bod yr ACLl yn cydymffurfio â rheoliad 17—
(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflawni arfarniad o gynaliadwyedd y cynigion yn yr CDLl a pharatoi adroddiad ar gasgliadau'r arfarniad; a
(b)rhaid i'r ACLl—
(i)trefnu bod y cyfarwyddyd ar gael i'w archwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15; a
(ii)cyhoeddi'r cyfarwyddyd ar ei wefan; a
(iii)yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, a pharagraff 4, cydymffurfio â'r rheoliadau a enwir ym mharagraff (3) fel petai'n paratoi'r CDLl.
(3) Y rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(b)(iii) yw rheoliadau 15 i 21 a rheoliad 24 ac eithrio paragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.
(4) Nid oes dim ym mharagraff (2)(b)(iii) yn ei gwneud yn ofynnol i ACLl ailgyflawni unrhyw gam a gymerwyd cyn iddo gael y cyfarwyddyd.
31.—(1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu gwyro oddi wrth argymhellion y person a benodwyd i gyflawni archwiliad o dan adran 64, rhaid iddo gyhoeddi—
(a)y newidiadau y mae'n bwriadu eu gwneud; a
(b)ei resymau dros wneud hynny.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (1), rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod copïau o'r newidiadau a'r rhesymau a datganiad o'r materion ym mharagraff (3) ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15;
(b)cyhoeddi ar ei wefan—
(i)y newidiadau a'r rhesymau,
(ii)y materion ym mharagraff (3),
(iii)datganiad o'r ffaith bod y newidiadau a'r rhesymau ar gael i'w harchwilio a'r mannau lle gellir eu harchwilio a'r amserau y gellir eu harchwilio;
(c)anfon copïau o'r newidiadau a'r rhesymau at y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) a hysbysu'r cyrff hynny o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); a
(ch)hysbysu drwy hysbyseb leol—
(i)y materion ym mharagraff (3),
(ii)y ffaith bod y newidiadau a'r rhesymau ar gael i'w harchwilio; a'r mannau lle gellir eu harchwilio a'r amserau y gellir eu harchwilio.
(3) Dyma'r materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) —
(a)o fewn pa gyfnod y mae rhaid cyflwyno sylwadau ar y newidiadau;
(b)y cyfeiriad yn y Cynulliad Cenedlaethol y mae rhaid anfon sylwadau iddo, a phan fo'n briodol, y person y mae rhaid eu hanfon ato (boed ar ffurf cyfathrebiadau electronig neu fel arall); ac
(c)datganiad y caniateir i ddeisyfiad fynd gydag unrhyw sylwadau, a hwnnw'n ddeisyfiad am gael hysbysiad mewn cyfeiriad penodedig o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 65(9)(a).
(4) Y cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(c) yw—
(a)pob un o'r cyrff ymgynghori penodol i'r graddau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod y newidiadau yn effeithio ar y cyrff hynny; a
(b)y cyrff ymgynghori cyffredinol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod yn briodol.
32.—(1) Caiff unrhyw berson gyflwyno sylwadau ar y newidiadau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu eu gwneud drwy eu hanfon i'r cyfeiriad ac, os yw'n gymwys, at y person a bennir yn unol â rheoliad 31(3) o fewn y cyfnod o chwe wythnos, gan ddechrau ar ddiwrnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cydymffurfio â rheoliad 31(1).
(2) Cyn bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cydymffurfio ag adran 65(9)(a), rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (1).
33. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff 65 (6), rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod argymhellion y person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad, a'i resymau dros yr argymhellion hynny, ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15; a
(b)cyhoeddi ar ei wefan yr argymhellion a'r rhesymau.
34. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo CDLl, ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i addasiadau, neu ei wrthod yn unol ag adran 65(9)(a) (yn ôl y digwydd), rhaid i'r ACLl—
(a)trefnu bod y dogfennau canlynol ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn y mannau lle rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15(a)—
(i)yr CDLl a'r rhesymau a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 65(9)(b), a
(ii)datganiad penderfynu;
(b)cyhoeddi ar ei wefan y datganiad penderfynu;
(c)hysbysu drwy hysbyseb leol—
(i)y datganiad penderfynu,
(ii)y ffaith bod yr CDLl a rhesymau'r Cynulliad Cenedlaethol ar gael i'w harolygu a'r mannau lle gellir arolygu'r ddogfen a'r rhesymau a'r amserau pryd y gellir eu harolygu; ac
(ch)anfon y datganiad penderfynu at unrhyw berson sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 65(9)(a).
35. Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn paratoi neu'n diwygio CDLl o dan adran 71—
(a)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaethau yn Rhan 6 o'r Ddeddf ac unrhyw ddarpariaethau yn y Rheoliadau hyn—
(i)sy'n berthnasol i waith paratoi'r CDLl neu ei ddiwygio, a
(ii)fel petai'r cyfeiriadau yn y darpariaethau hynny yn y CDLl yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)mae rheoliadau 31 i 35 yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol ac fel petai cyfeiriadau at ACLl yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys