Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3115 (Cy.235)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

8 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(1) a (3),10 a 140(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1) ac adrannau 50, a 118(1) a (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:—

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arweiniad plant” (“children’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a gynhyrchir yn unol â rheoliad 4;

ystyr “cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwsyiadu” (“adoption support services advisor”) yw'r person a benodir yn unol â rheoliad 6 o'r Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005(3);

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a lunnir yn unol â rheoliad 3(1).

Mae i “gwarcheidwad” yr ystyr a roddir i “guardian” yn adran 5 o Ddeddf Plant 1989;

ystyr “gwasanaeth mabwysiadu” (“adoption service”) yw cyflawni gan awdurdod lleol swyddogaethau mabwysiadu perthnasol o fewn ystyr adran 43(3)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

dehonglir “rheolwr” (“manager”) yn unol â rheoliad 6;

ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn cysylltiad â gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol yw—

(a)

os oes swyddfa sydd dan reolaeth y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei phennu ganddo fel y swyddfa briodol mewn cysylltiad â'r awdurdod lleol hwnnw, y swyddfa honno;

(b)

yn unrhyw achos arall unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad—

(a)at reoliad â Rhif neu Atodlen yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn neu at Atodlen iddynt;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen i baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff o is-baragraff sy'n dwyn llythyren neu rif, yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw neu'r llythyren honno.

(3Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—

(a)cyflogi person p'run ai am dâl ai peidio;

(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau; ac

(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;

a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.

Datganiad o ddiben

3.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol, o ran y gwasanaeth mabwysiadu, lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “datganiad o ddiben”) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i'r awdurdod anfon copi o'r datganiad o ddiben i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo beri bod copi ohono ar gael, o ofyn amdano, i'w archwilio gan—

(a)plant y caniateir eu mabwysiadu, eu rhieni a'u gwarcheidwaid;

(b)personau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn;

(c)personau sydd wedi eu mabwysiadu, eu rhieni, eu rhieni naturiol a'u cyn-warcheidwaid;

(ch)personau sy'n dymuno cael asesiad o'u hanghenion ar gyfer darpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod;

(d)pob person sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r awdurdod sicrhau bod ei wasanaeth mabwysiadu yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.

(4Nid oes dim ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi awdurdod i dorri neu i beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.

Yr Arweiniad plant

4.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol lunio arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth mabwysiadu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad plant”) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 2.

(2Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r arweiniad plant i—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)pob darpar fabwysiadydd y mae'r awdurdod wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu gydag ef; ac

(c)pob plentyn (yn ddarostyngedig i oed a dealltwriaeth y plentyn hwnnw), y caniateir ei leoli neu sydd wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod.

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant

5.  Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)barhau i adolygu, a phan fydd yn briodol, ddiwygio'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant; a

(b)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw ddiwygiadau o'r fath o fewn 28 niwrnod.

RHAN 2RHEOLWYR

Penodi rheolwr

6.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu a rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o—

(a)enw'r person a benodwyd yn unol â'r rheoliad hwn; a

(b)y dyddiad y bydd y penodiad yn cychwyn.

(2Rhaid i'r awdurdod hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os yw'r person a benodwyd o dan baragraff (1) yn peidio â rheoli'r gwasanaeth mabwysiadu.

Ffitrwydd y rheolwr

7.—(1Dim ond person sy'n ffit i wneud hynny gaiff reoli gwasanaeth mabwysiadu.

(2Nid yw person yn ffit i reoli gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw—

(a)yn meddu gonestrwydd a chymeriad da;

(b)o ystyried maint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben—

(i)yn meddu'r cymwysterau, y medrau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer rheoli'r gwasanaeth mabwysiadu; a

(ii)yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu; ac oni bai

(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynghylch y person hwnnw ynglŷn â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.

Gofynion cyffredinol

8.—(1Rhaid i'r rheolwr, o ystyried—

(a)maint yr awdurdod lleol a'i ddatganiad o ddiben; a

(b)yr angen i ddiogelu a hybu lles plant y caniateir eu lleoli, neu sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod,

(c)reoli'r gwasanaeth mabwysiadu gyda gofal, cymhwysedd a medrusrwydd digonol.

(2Rhaid i'r rheolwr o bryd i'w gilydd ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau angenrheidiol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu.

Hysbysu tramgwyddau

9.  Rhaid i reolwr a gollfernir o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru neu mewn man arall, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith o—

(a)dyddiad a man y gollfarn;

(b)y tramgwydd; ac

(c)y gosb a osodwyd am y tramgwydd.

RHAN 3DULL RHEOLI GWASANAETH MABWYSIADU AWDURDOD LLEOL

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

10.  Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi a rhoi ar waith bolisi ysgrifenedig—

(a)y bwriedir iddo ddiogelu pob plentyn a leolir i'w fabwysiadu gan yr awdurdod, neu bob plentyn sy'n cael derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod rhag camdriniaeth neu esgeulustod; a

(b)sy'n gosod allan y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn os digwydd unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Staffio

11.  Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau fod, gan ystyried—

(a)maint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben; a

(b)yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu blant sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu blant y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu blant sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod,

digon o bersonau â'r cymwysterau addas, sy'n gymwys ac yn brofiadol, yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.

Ffitrwydd gweithwyr

12.—(1Rhaid i awdurdod lleol beidio ag—

(a)cyflogi person i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu; na

(b)caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir, heblaw gan yr awdurdod, mewn swydd lle caiff y person hwnnw, wrth wneud ei ddyletswyddau, ddod i gysylltiad rheolaidd â phlant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod, neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod.

(3At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth awdurdod mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw—

(a)yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;

(b)yn meddu'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y bydd y person hwnnw yn ei wneud;

(c)yn gorfforol ac yn feddyliol yn ffit ar gyfer y gwaith y bydd y person hwnnw yn ei wneud; ac oni bai

(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynghylch y person hwnnw ynglyn â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.

(4Rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu nad ydynt yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt yn cael eu goruchwylio'n briodol pan maent yn cyflawni eu dyletswyddau.

Cyflogi staff

13.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)sicrhau bod pob penodiad parhaol a wneir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu yn ddarostyngedig i gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a

(b)ddarparu swydd-ddisgrifiad sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau i bob cyflogai sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod at ddibenion eu gwasanaeth mabwysiadu.

(2Rhaid i'r awdurdod sicrhau fod pob person a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu—

(a)yn derbyn hyfforddiant, goruchwyliaeth ac arfarnu priodol; a

(b)yn cael cyfle o bryd i'w gilydd i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y maent yn ei wneud.

Gweithdrefn disgyblu staff

14.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol weithredu gweithdrefn ddisgyblu sydd, yn benodol—

(a)yn darparu ar gyfer atal dros dro gyflogai os bydd angen gwneud hynny o ystyried diogelwch neu les plant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod neu sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod neu y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod.

(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i hysbysu person priodol o ddigwyddiad cam-drin, neu achos lle mae amheuaeth o gam-drin plentyn sydd wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod neu y caniateir ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod neu y caniateir iddo dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod yn sail y gellir cychwyn achos disgyblu arni.

(2At ddibenion paragraff (1)(b), mae person priodol yn un o'r canlynol—

(a)rheolwr y gwasanaeth mabwysiadu;

(b)un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)un o swyddogion yr heddlu;

(ch)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(d)un o swyddogion yr awdurdod lleol dros yr ardal y mae'r plentyn wedi ei leoli i'w fabwysiadu ynddi pan fo hwnnw'n awdurdod gwahanol.

Trefniadau ar gyfer absenoldeb y rheolwr

15.  Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu system i sicrhau bod person dynodedig yn gyfrifol am reoli'r gwasanaethau mabwysiadu pan mae'r rheolwr yn absennol, neu'n bwriadu bod yn absennol, o'r awdurdod lleol am gyfnod parhaus o 28 niwrnod neu fwy tan yr amser y bydd y rheolwr yn dychwelyd i'r gwasanaeth mabwysiadu neu (yn ôl y digwydd) bod rheolwr newydd yn cael ei benodi gan yr awdurdod.

Cofnodion ynglŷn â staff

16.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4, a'u cadw'n gyfredol.

(2Rhaid rhoi'r cofnodion a bennir ym mharagraff (1) ar gadw am o leiaf 15 mlynedd o dyddiad y cofnod diwethaf.

Ffitrwydd y fangre

17.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â defnyddio mangre at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu oni bai bod y fangre yn addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a geir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r awdurdod sicrhau—

(a)bod trefniadau diogelwch digonol yn y fangre, ac yn benodol, bod cyfleusterau diogel ar gyfer storio cofnodion; a

(b)bod unrhyw gofnodion nad ydynt, am unrhyw reswm, ym mangre'r awdurdod yn cael eu cadw o dan amodau priodol o ran diogelwch.

Cwynion

18.  Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gwyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliad a wnaed, y canlyniad ac unrhyw beth a wnaed o ganlyniad iddo, a bod y cofnod yn cael ei roi dan gadw am o leiaf 3 blynedd ar ôl y dyddiad y'i gwnaed; a

(b)roi i'r Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed ynglŷn â'u gwasanaeth mabwysiadu yn ystod y 12 mis blaenorol a'r hyn a wnaed (os gwnaed unrhyw beth) oherwydd canlyniad yr ymchwiliad.

RHAN 4AMRYWIOL

Dirymu Rheoliadau

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003(4) (“Rheoliadau 2003”) yn cael eu dirymu.

(2Nid yw Paragraff (1) yn effeithio ar y diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(5) ac i'r Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002(6) gan reoliadau 19 a 20 o Reoliadau 2003, yn eu trefn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2005

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

1.  Nodau ac amcanion yr awdurdod lleol o ran y gwasanaeth mabwysiadu, gan gynnwys achosion yn ymwneud â mabwysiadu rhwng gwledydd.

2.  Y trefniadau y mae'r awdurdod lleol eisoes wedi eu gwneud i asesu ac i wneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

3.  Enw a chyfeiriad y rheolwr.

4.  Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr.

5.  Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu'r awdurdod.

6.  Strwythur trefniadol y gwasanaeth mabwysiadu.

7.  Y system sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso gwaith darparu'r gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr awdurdod yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth mabwysiadu o safon briodol.

8.  Y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol.

9.  Manylion y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r gweithdrefnau am asesiadau ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r ddarpariaeth ohonynt.

10.  Crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989(8), Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Cwynion) 1990(9) ac adran 114 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003(10).

11.  Cyfeiriad a Rhif ffôn y swyddog priodol o'r Cynulliad Cenedlaethol.

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN YR ARWEINIAD I BLANT

1.  Crynodeb o'r datganiad o ddiben.

2.  Crynodeb o'r gweithdrefnau pan gaiff mabwysiad ei ddynodi fel y cynllun priodol ar gyfer y plentyn.

3.  Gwybodaeth ynglŷn â swyddogaeth y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a chrynodeb o'r gweithdrefnau i geisio asesiad ar gyfer darpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu.

4.  Crynodeb o'r gweithdrefnau cwynion a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989, Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Cwynion) 1990 ac adran 114 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

5.  Manylion o sut y gall plentyn gael at wasanaethau eiriolwr sy'n annibynnol ar yr awdurdod i'w gynorthwyo i wneud cwyn neu i wneud sylw o dan y gweithdrefnau cwynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.

6.  Cyfeiriad a Rhif ffôn y swyddog priodol o'r Cynulliad Cenedlaethol.

7.  Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru.

Rheoliadau 7(2)(c) ac 12(3)(ch)

ATODLEN 3YR WYBODAETH Y MAE'N OFYNNOL EI CHAEL AM BERSONAU SY'N DYMUNO RHEOLI NEU WEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU

1.  Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Naill ai—

(a)pan fo'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) o Ddeddf yr Heddlu 1997(11), tystysgrif fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno y mae llai na thair blynedd mewn cysylltiad â hi wedi mynd heibio ers iddi gael ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â hi ers iddi gael ei dyroddi, gan gynnwys, i'r graddau a ganiatawyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu 115(6A) o'r Ddeddf honno.

3.  Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un.

4.  Pan fo person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

5.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

6.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.

Rheoliad 16(1)

ATODLEN 4Y COFNODION SYDD I'W CADW YNGHYLCH POB PERSON SY'N GWEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU

Cofnod sy'n cynnwys ar gyfer pob person sy'n gweithio i'r awdurdod lleol—

1.  Enw llawn.

2.  Rhyw.

3.  Dyddiad geni.

4.  Cyfeiriad cartref.

5.  Cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant, a phrofiad o waith o'r fath.

6.  Y dyddiad pan fydd y person yn dechrau cael ei gyflogi felly a phan fydd ei gyflogaeth yn dod i ben.

7.  A yw'r person yn cael ei gyflogi gan awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun heblaw'r awdurdod.

8.  Disgrifiad swydd y person ac a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi neu'n cael ei gontractio i weithio i wasanaeth mabwysiadu'r awdurdod bob wythnos.

9.  Yr hyfforddiant y mae'r person wedi ymgymryd ag ef, goruchwylio, arfarnu, y camau disgyblu (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn a chanlyniad y camau hynny, cofnodion cwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn a chanlyniad y gwyn honno ac unrhyw gofnodion eraill mewn cysylltiad â'i gyflogaeth.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“Deddf 2002”) a'r Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”) ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol Cymru. Maent yn cymryd lle Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003. Maent yn darparu fframwaith rheoliadol ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol. Mae Rhan III o Ddeddf 2000 yn darparu ar gyfer arolygu gwasanaethau awdurdodau lleol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Rheoliadau 3 a 4 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaeth mabwysiadu fod â datganiad o ddiben sy'n gosod allan amcanion a nodau'r gwasanaeth ac arweiniad plant. Rhaid rhedeg y gwasanaeth mewn modd sy'n gydnaws â'r datganiad o ddiben.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phersonau sy'n rheoli'r gwasanaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol fod gwybodaeth foddhaol ar gael ynglŷn â'r materion a ragnodir yn Atodlen 3.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhedeg y gwasanaeth, staffio a ffitrwydd y gweithwyr, addasrwydd y fangre ac ynglŷn â chwynion a chadw cofnodion.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill