Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005

RHAN 3DULL RHEOLI GWASANAETH MABWYSIADU AWDURDOD LLEOL

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

10.  Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi a rhoi ar waith bolisi ysgrifenedig—

(a)y bwriedir iddo ddiogelu pob plentyn a leolir i'w fabwysiadu gan yr awdurdod, neu bob plentyn sy'n cael derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod rhag camdriniaeth neu esgeulustod; a

(b)sy'n gosod allan y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn os digwydd unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Staffio

11.  Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau fod, gan ystyried—

(a)maint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben; a

(b)yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu blant sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu blant y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu blant sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod,

digon o bersonau â'r cymwysterau addas, sy'n gymwys ac yn brofiadol, yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.

Ffitrwydd gweithwyr

12.—(1Rhaid i awdurdod lleol beidio ag—

(a)cyflogi person i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu; na

(b)caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir, heblaw gan yr awdurdod, mewn swydd lle caiff y person hwnnw, wrth wneud ei ddyletswyddau, ddod i gysylltiad rheolaidd â phlant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod, neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod.

(3At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth awdurdod mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw—

(a)yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;

(b)yn meddu'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y bydd y person hwnnw yn ei wneud;

(c)yn gorfforol ac yn feddyliol yn ffit ar gyfer y gwaith y bydd y person hwnnw yn ei wneud; ac oni bai

(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynghylch y person hwnnw ynglyn â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.

(4Rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu nad ydynt yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt yn cael eu goruchwylio'n briodol pan maent yn cyflawni eu dyletswyddau.

Cyflogi staff

13.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)sicrhau bod pob penodiad parhaol a wneir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu yn ddarostyngedig i gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a

(b)ddarparu swydd-ddisgrifiad sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau i bob cyflogai sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod at ddibenion eu gwasanaeth mabwysiadu.

(2Rhaid i'r awdurdod sicrhau fod pob person a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu—

(a)yn derbyn hyfforddiant, goruchwyliaeth ac arfarnu priodol; a

(b)yn cael cyfle o bryd i'w gilydd i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y maent yn ei wneud.

Gweithdrefn disgyblu staff

14.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol weithredu gweithdrefn ddisgyblu sydd, yn benodol—

(a)yn darparu ar gyfer atal dros dro gyflogai os bydd angen gwneud hynny o ystyried diogelwch neu les plant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod neu sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod neu y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod.

(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i hysbysu person priodol o ddigwyddiad cam-drin, neu achos lle mae amheuaeth o gam-drin plentyn sydd wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod neu y caniateir ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod neu y caniateir iddo dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod yn sail y gellir cychwyn achos disgyblu arni.

(2At ddibenion paragraff (1)(b), mae person priodol yn un o'r canlynol—

(a)rheolwr y gwasanaeth mabwysiadu;

(b)un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)un o swyddogion yr heddlu;

(ch)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(d)un o swyddogion yr awdurdod lleol dros yr ardal y mae'r plentyn wedi ei leoli i'w fabwysiadu ynddi pan fo hwnnw'n awdurdod gwahanol.

Trefniadau ar gyfer absenoldeb y rheolwr

15.  Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu system i sicrhau bod person dynodedig yn gyfrifol am reoli'r gwasanaethau mabwysiadu pan mae'r rheolwr yn absennol, neu'n bwriadu bod yn absennol, o'r awdurdod lleol am gyfnod parhaus o 28 niwrnod neu fwy tan yr amser y bydd y rheolwr yn dychwelyd i'r gwasanaeth mabwysiadu neu (yn ôl y digwydd) bod rheolwr newydd yn cael ei benodi gan yr awdurdod.

Cofnodion ynglŷn â staff

16.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4, a'u cadw'n gyfredol.

(2Rhaid rhoi'r cofnodion a bennir ym mharagraff (1) ar gadw am o leiaf 15 mlynedd o dyddiad y cofnod diwethaf.

Ffitrwydd y fangre

17.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â defnyddio mangre at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu oni bai bod y fangre yn addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a geir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r awdurdod sicrhau—

(a)bod trefniadau diogelwch digonol yn y fangre, ac yn benodol, bod cyfleusterau diogel ar gyfer storio cofnodion; a

(b)bod unrhyw gofnodion nad ydynt, am unrhyw reswm, ym mangre'r awdurdod yn cael eu cadw o dan amodau priodol o ran diogelwch.

Cwynion

18.  Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gwyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliad a wnaed, y canlyniad ac unrhyw beth a wnaed o ganlyniad iddo, a bod y cofnod yn cael ei roi dan gadw am o leiaf 3 blynedd ar ôl y dyddiad y'i gwnaed; a

(b)roi i'r Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed ynglŷn â'u gwasanaeth mabwysiadu yn ystod y 12 mis blaenorol a'r hyn a wnaed (os gwnaed unrhyw beth) oherwydd canlyniad yr ymchwiliad.