- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10. Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi a rhoi ar waith bolisi ysgrifenedig—
(a)y bwriedir iddo ddiogelu pob plentyn a leolir i'w fabwysiadu gan yr awdurdod, neu bob plentyn sy'n cael derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod rhag camdriniaeth neu esgeulustod; a
(b)sy'n gosod allan y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn os digwydd unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod.
11. Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau fod, gan ystyried—
(a)maint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben; a
(b)yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu blant sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu blant y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu blant sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod,
digon o bersonau â'r cymwysterau addas, sy'n gymwys ac yn brofiadol, yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.
12.—(1) Rhaid i awdurdod lleol beidio ag—
(a)cyflogi person i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu; na
(b)caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir, heblaw gan yr awdurdod, mewn swydd lle caiff y person hwnnw, wrth wneud ei ddyletswyddau, ddod i gysylltiad rheolaidd â phlant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod, neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod.
(3) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth awdurdod mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw—
(a)yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;
(b)yn meddu'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y bydd y person hwnnw yn ei wneud;
(c)yn gorfforol ac yn feddyliol yn ffit ar gyfer y gwaith y bydd y person hwnnw yn ei wneud; ac oni bai
(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynghylch y person hwnnw ynglyn â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.
(4) Rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu nad ydynt yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt yn cael eu goruchwylio'n briodol pan maent yn cyflawni eu dyletswyddau.
13.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol—
(a)sicrhau bod pob penodiad parhaol a wneir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu yn ddarostyngedig i gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a
(b)ddarparu swydd-ddisgrifiad sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau i bob cyflogai sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod at ddibenion eu gwasanaeth mabwysiadu.
(2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau fod pob person a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu—
(a)yn derbyn hyfforddiant, goruchwyliaeth ac arfarnu priodol; a
(b)yn cael cyfle o bryd i'w gilydd i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y maent yn ei wneud.
14.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol weithredu gweithdrefn ddisgyblu sydd, yn benodol—
(a)yn darparu ar gyfer atal dros dro gyflogai os bydd angen gwneud hynny o ystyried diogelwch neu les plant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod neu sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod neu y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod.
(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i hysbysu person priodol o ddigwyddiad cam-drin, neu achos lle mae amheuaeth o gam-drin plentyn sydd wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod neu y caniateir ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod neu y caniateir iddo dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod yn sail y gellir cychwyn achos disgyblu arni.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae person priodol yn un o'r canlynol—
(a)rheolwr y gwasanaeth mabwysiadu;
(b)un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol;
(c)un o swyddogion yr heddlu;
(ch)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;
(d)un o swyddogion yr awdurdod lleol dros yr ardal y mae'r plentyn wedi ei leoli i'w fabwysiadu ynddi pan fo hwnnw'n awdurdod gwahanol.
15. Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu system i sicrhau bod person dynodedig yn gyfrifol am reoli'r gwasanaethau mabwysiadu pan mae'r rheolwr yn absennol, neu'n bwriadu bod yn absennol, o'r awdurdod lleol am gyfnod parhaus o 28 niwrnod neu fwy tan yr amser y bydd y rheolwr yn dychwelyd i'r gwasanaeth mabwysiadu neu (yn ôl y digwydd) bod rheolwr newydd yn cael ei benodi gan yr awdurdod.
16.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4, a'u cadw'n gyfredol.
(2) Rhaid rhoi'r cofnodion a bennir ym mharagraff (1) ar gadw am o leiaf 15 mlynedd o dyddiad y cofnod diwethaf.
17.—(1) Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â defnyddio mangre at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu oni bai bod y fangre yn addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a geir yn y datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau—
(a)bod trefniadau diogelwch digonol yn y fangre, ac yn benodol, bod cyfleusterau diogel ar gyfer storio cofnodion; a
(b)bod unrhyw gofnodion nad ydynt, am unrhyw reswm, ym mangre'r awdurdod yn cael eu cadw o dan amodau priodol o ran diogelwch.
18. Rhaid i bob awdurdod lleol—
(a)sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gwyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliad a wnaed, y canlyniad ac unrhyw beth a wnaed o ganlyniad iddo, a bod y cofnod yn cael ei roi dan gadw am o leiaf 3 blynedd ar ôl y dyddiad y'i gwnaed; a
(b)roi i'r Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed ynglŷn â'u gwasanaeth mabwysiadu yn ystod y 12 mis blaenorol a'r hyn a wnaed (os gwnaed unrhyw beth) oherwydd canlyniad yr ymchwiliad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys