Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 23/11/2005.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005 a daw i rym drannoeth y diwrnod y gwneir ef.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “aliwn” (“alien”) yr ystyr a roddir i “alien” gan adran 51(4) o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981(1);
ystyr yr “Awdurdod” (the “Agency”) yw Awdurdod Datblygu Cymru;
ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod o dan gontract cyflogaeth;
ystyr y “Cynulliad” (the “Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1975” (“1975 Act”) yw Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975(2); ac
ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
2.—(1) Ar y dyddiad trosglwyddo mae swyddogaethau'r Awdurdod yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn unol â darpariaethau Atodlenni 1 a 2 sy'n diwygio'r deddfiadau sy'n ymwneud â'r Awdurdod er mwyn—
(a)trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad, a
(b)gwneud darpariaeth sy'n ganlyniad i'r trosglwyddo neu'n atodol neu'n ategol iddo.
(2) Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir i'r Cynulliad a breinir ynddo yn rhinwedd y paragraff hwn yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd yr Awdurdod â hawl iddynt neu yr oedd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) uchod yn cynnwys rhai sydd yn codi o dan gontract cyflogaeth a wnaed rhwng cyflogai perthnasol a'r Awdurdod.
(4) Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981(3) yn gymwys i drosglwyddo swyddogaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad boed ar wahân i'r ddarpariaeth hon ai peidio, y byddai cyflawni'r swyddogaethau hyn yn cael eu trin fel ymgymeriad o natur fasnachol at ddibenion y Rheoliadau hynny.
(5) Er gwaethaf unrhyw beth mewn unrhyw ran arall o'r Gorchymyn hwn neu yn Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, os effaith yr erthygl hon yw bod person sydd yn aliwn yn dod yn aelod o staff y Cynulliad, nid yw adran 34(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gymwys i gontract cyflogaeth y person hwnnw cyn y dyddiad trosglwyddo.
(6) Mae tystysgrif a ddyroddwyd gan y Cynulliad bod unrhyw eiddo wedi'i drosglwyddo o dan baragraff (2) yn dystiolaeth bendant a diymwad o'r trosglwyddiad.
(7) Mae paragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â'r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae yn gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai'n atal trosglwyddo'r eiddo, yr hawliau neu'r rhwymedigaethau neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo heblaw gan y paragraff hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
3.—(1) Nid oes dim yn erthygl 2 nac Atodlenni 1 a 2 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth sydd wedi cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo.
(2) Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achos cyfreithiol) gael ei barhau gan y Cynulliad neu mewn perthynas â'r Cynulliad os yw—
(a)yn ymwneud ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod neu ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2), a
(b)wrthi'n cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef pan fo'r swyddogaethau a enwyd yn cael eu trosglwyddo.
(3) Mae unrhyw beth—
(a)a wnaed gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw un o'i swyddogaethau neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno neu gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2) neu mewn cysylltiad â hwy, a
(b)sy'n effeithiol yn union cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo,
i gael effaith fel petai wedi'i wneud gan y Cynulliad, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth bernir bod unrhyw orchmynion prynu gorfodol a wnaed gan yr Awdurdod mewn perthynas â thir yng Nghymru o dan adran 2(2) o Ddeddf Caffael Tir 1981(4) ac na chawsant eu cadarnhau cyn y dyddiad trosglwyddo yn orchmynion prynu gorfodol a wnaed mewn drafft gan y Cynulliad o dan y weithdrefn a nodir yn Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
(4) Mae'r Cynulliad yn cael ei roi yn lle'r Awdurdod mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud—
(a)ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod, a
(b)ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2),
ac sydd wedi'u gwneud neu wedi'u cychwyn cyn i'w swyddogaethau gael eu trosglwyddo.
(5) Caiff y Cynulliad—
(a)barhau i ddal eiddo a ddelir gan yr Awdurdod, a
(b)parhau i ymgymryd â gweithgareddau yr oedd yr awdurdod yn ymgymryd â hwy,
yn ddibynnol ar adran 21(2) o Ddeddf Diwydiant 1980(5).
(6) Ar y dyddiad trosglwyddo, bydd rhwymedigaethau'r Awdurdod, y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt isod a gynhywsir ym mharagraff 8 o Atodlen 3 (Darpariaethau ariannol a gweinyddol sy'n ymwneud â'r Awdurdod) i Ddeddf 1975 yn effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 yn unig ond fel arall diddymir hwy—
(a)rhwymedigaeth yr Awdurdod o dan is-baragraff (1) i baratoi datganiad o gyfrif, gyda'r arbediad bod y rhwymedigaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Cynulliad;
(b)rhwymedigaeth y Cynulliad o dan is-baragraff (3) i drosglwyddo'r datganiad o gyfrif i Archwilydd Cyffredinol Cymru; ac
(c)rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan is-baragraff (4) i archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrif a gosod copïau o'r datganiad o gyfrif gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arno.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 3 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
4.—(1) Nid yw trosglwyddo eiddo oddi wrth yr Awdurdod i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn hwn yn peri unrhyw lwfansau neu ffioedd o dan Ddeddf Lwfansau Cyfalafol 2001.
(2) O ran yr eiddo a gynhwysir yn y trosglwyddo, at ddibenion cyfrifo lwfansau adeilad diwydiannol o dan y Ddeddf honno mae unrhyw beth a wneir i'r Awdurdod neu ganddo cyn y trosglwyddo i'w drin ar ôl y trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud i'r Cynulliad neu ganddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 4 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
5. Ar drosglwyddo ei swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Cynulliad ar y dyddiad trosglwyddo yn unol ag erthygl 2, daw bodolaeth yr Awdurdod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 5 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
6. Rhaid i'r Awdurdod roi i'r Cynulliad yr holl wybodaeth a gwneud yr holl bethau eraill sy'n ymddangos i'r Cynulliad eu bod yn briodol er mwyn hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad ac er mwyn hwyluso'i ddiddymiad yn unol â'r Gorchymyn hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Ergl. 6 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
7.—(1) Ar y dyddiad trosglwyddo—
(a)diwygir darpariaethau Deddf 1975 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno;
(b)diwygir y deddfiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno; ac
(c)diddymir neu dirymir y deddfiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn.
(2) Mae'r diwygiadau, y diddymu a'r dirymu deddfiadau yn estyn i'r un gradd â'r deddfiad y'i diwygir, diddymir neu y'i dirymir.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Ergl. 7 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
8.—(1) Mae unrhyw ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi'i roi yn rhinwedd adran 7 (Diddymu Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) o Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym er gwaethaf diddymiad yr adran honno.
(2) Mae paragraff 7 o Atodlen 2 (Aelodau staff Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) i Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym o ran unrhyw aelod o staff yr Awdurdod y trosglwyddwyd eu cyflogaeth o'r Gorfforaeth Ystadau Diwydianol Cymru i gyflogaeth yr Awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Ergl. 8 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2005
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys