- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
DATBLYGU ECONOMAIDD, CYMRU
Wedi'i wneud
22 Tachwedd 2005
Yn dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) ac Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005 a daw i rym drannoeth y diwrnod y gwneir ef.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “aliwn” (“alien”) yr ystyr a roddir i “alien” gan adran 51(4) o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981(2);
ystyr yr “Awdurdod” (the “Agency”) yw Awdurdod Datblygu Cymru;
ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod o dan gontract cyflogaeth;
ystyr y “Cynulliad” (the “Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1975” (“1975 Act”) yw Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975(3); ac
ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
2.—(1) Ar y dyddiad trosglwyddo mae swyddogaethau'r Awdurdod yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn unol â darpariaethau Atodlenni 1 a 2 sy'n diwygio'r deddfiadau sy'n ymwneud â'r Awdurdod er mwyn—
(a)trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad, a
(b)gwneud darpariaeth sy'n ganlyniad i'r trosglwyddo neu'n atodol neu'n ategol iddo.
(2) Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir i'r Cynulliad a breinir ynddo yn rhinwedd y paragraff hwn yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd yr Awdurdod â hawl iddynt neu yr oedd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) uchod yn cynnwys rhai sydd yn codi o dan gontract cyflogaeth a wnaed rhwng cyflogai perthnasol a'r Awdurdod.
(4) Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981(4) yn gymwys i drosglwyddo swyddogaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad boed ar wahân i'r ddarpariaeth hon ai peidio, y byddai cyflawni'r swyddogaethau hyn yn cael eu trin fel ymgymeriad o natur fasnachol at ddibenion y Rheoliadau hynny.
(5) Er gwaethaf unrhyw beth mewn unrhyw ran arall o'r Gorchymyn hwn neu yn Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, os effaith yr erthygl hon yw bod person sydd yn aliwn yn dod yn aelod o staff y Cynulliad, nid yw adran 34(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gymwys i gontract cyflogaeth y person hwnnw cyn y dyddiad trosglwyddo.
(6) Mae tystysgrif a ddyroddwyd gan y Cynulliad bod unrhyw eiddo wedi'i drosglwyddo o dan baragraff (2) yn dystiolaeth bendant a diymwad o'r trosglwyddiad.
(7) Mae paragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â'r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae yn gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai'n atal trosglwyddo'r eiddo, yr hawliau neu'r rhwymedigaethau neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo heblaw gan y paragraff hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
3.—(1) Nid oes dim yn erthygl 2 nac Atodlenni 1 a 2 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth sydd wedi cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo.
(2) Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achos cyfreithiol) gael ei barhau gan y Cynulliad neu mewn perthynas â'r Cynulliad os yw—
(a)yn ymwneud ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod neu ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2), a
(b)wrthi'n cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef pan fo'r swyddogaethau a enwyd yn cael eu trosglwyddo.
(3) Mae unrhyw beth—
(a)a wnaed gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw un o'i swyddogaethau neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno neu gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2) neu mewn cysylltiad â hwy, a
(b)sy'n effeithiol yn union cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo,
i gael effaith fel petai wedi'i wneud gan y Cynulliad, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth bernir bod unrhyw orchmynion prynu gorfodol a wnaed gan yr Awdurdod mewn perthynas â thir yng Nghymru o dan adran 2(2) o Ddeddf Caffael Tir 1981(5) ac na chawsant eu cadarnhau cyn y dyddiad trosglwyddo yn orchmynion prynu gorfodol a wnaed mewn drafft gan y Cynulliad o dan y weithdrefn a nodir yn Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
(4) Mae'r Cynulliad yn cael ei roi yn lle'r Awdurdod mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud—
(a)ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod, a
(b)ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2),
ac sydd wedi'u gwneud neu wedi'u cychwyn cyn i'w swyddogaethau gael eu trosglwyddo.
(5) Caiff y Cynulliad—
(a)barhau i ddal eiddo a ddelir gan yr Awdurdod, a
(b)parhau i ymgymryd â gweithgareddau yr oedd yr awdurdod yn ymgymryd â hwy,
yn ddibynnol ar adran 21(2) o Ddeddf Diwydiant 1980(6).
(6) Ar y dyddiad trosglwyddo, bydd rhwymedigaethau'r Awdurdod, y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt isod a gynhywsir ym mharagraff 8 o Atodlen 3 (Darpariaethau ariannol a gweinyddol sy'n ymwneud â'r Awdurdod) i Ddeddf 1975 yn effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 yn unig ond fel arall diddymir hwy—
(a)rhwymedigaeth yr Awdurdod o dan is-baragraff (1) i baratoi datganiad o gyfrif, gyda'r arbediad bod y rhwymedigaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Cynulliad;
(b)rhwymedigaeth y Cynulliad o dan is-baragraff (3) i drosglwyddo'r datganiad o gyfrif i Archwilydd Cyffredinol Cymru; ac
(c)rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan is-baragraff (4) i archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrif a gosod copïau o'r datganiad o gyfrif gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arno.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 3 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
4.—(1) Nid yw trosglwyddo eiddo oddi wrth yr Awdurdod i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn hwn yn peri unrhyw lwfansau neu ffioedd o dan Ddeddf Lwfansau Cyfalafol 2001.
(2) O ran yr eiddo a gynhwysir yn y trosglwyddo, at ddibenion cyfrifo lwfansau adeilad diwydiannol o dan y Ddeddf honno mae unrhyw beth a wneir i'r Awdurdod neu ganddo cyn y trosglwyddo i'w drin ar ôl y trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud i'r Cynulliad neu ganddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 4 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
5. Ar drosglwyddo ei swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Cynulliad ar y dyddiad trosglwyddo yn unol ag erthygl 2, daw bodolaeth yr Awdurdod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 5 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
6. Rhaid i'r Awdurdod roi i'r Cynulliad yr holl wybodaeth a gwneud yr holl bethau eraill sy'n ymddangos i'r Cynulliad eu bod yn briodol er mwyn hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad ac er mwyn hwyluso'i ddiddymiad yn unol â'r Gorchymyn hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Ergl. 6 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
7.—(1) Ar y dyddiad trosglwyddo—
(a)diwygir darpariaethau Deddf 1975 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno;
(b)diwygir y deddfiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno; ac
(c)diddymir neu dirymir y deddfiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn.
(2) Mae'r diwygiadau, y diddymu a'r dirymu deddfiadau yn estyn i'r un gradd â'r deddfiad y'i diwygir, diddymir neu y'i dirymir.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Ergl. 7 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
8.—(1) Mae unrhyw ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi'i roi yn rhinwedd adran 7 (Diddymu Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) o Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym er gwaethaf diddymiad yr adran honno.
(2) Mae paragraff 7 o Atodlen 2 (Aelodau staff Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) i Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym o ran unrhyw aelod o staff yr Awdurdod y trosglwyddwyd eu cyflogaeth o'r Gorfforaeth Ystadau Diwydianol Cymru i gyflogaeth yr Awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Ergl. 8 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2005
Erthygl 7(1)
1. Mae Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r diwygiadau canlynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
2. Oni ddarperir fel arall yn y darpariaethau canlynol, ym mhob man y digwydd (gan gynnwys ym mhenawdau'r adrannau a'r atodlenni)—
(a)yn lle “Agency” rhodder “Assembly”; a
(b)yn lle “Agency's” rhodder “Assembly's”.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
3. Yn adran 1 (Awdurdod Datblygu Cymru)—
(1) yn lle is-adran (1), rhodder—
“(1) The functions specified in the following provisions of this Act are conferred upon the National Assembly for Wales (in this Act referred to as the “Assembly”).”;
(2) yn is-adrannau (2), (3)(j), (4), (6) (yn y lle cyntaf y digwydd), a (7)(l), yn lle “their” rhodder “its”;
(3) yn is-adrannau (2) a (4) ar ôl “functions” rhodder “under this Act”;
(4) yn is-adran (3), yn union o flaen “shall be” rhodder “under this Act”;
(5) yn is-adran (7), ar ôl “have power” rhodder “in connection with its functions under this Act”;
(6) ar ddiwedd is-adran (7)(m), mewnosoder “under this Act”;
(7) hepgorer is-adrannau (8) i (13) a (15);
(8) yn lle is-adran (14) rhodder—
“(14) The Assembly shall, after consultation with such local authorities, National Park authorities and other bodies as appear to the Assembly to have an interest, from time to time prepare and publish programmes for the performance of such of its functions under this Act as it considers appropriate.”; a
(9) yn lle'r pennawd i adran 1 rhodder “Welsh development”.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
4. Hepgorer adran 2 (Cyfansoddiad a statws).
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
5. Yn adran 4 (Pwerau ategol)—
(1) ar ôl “power” rhodder “in connection with its functions under this Act”;
(2) ym mharagraff (a), yn lle “their services as they think” rhodder “its services as it thinks”;
(3) ym mharagraff (b) yn lle “them” rhodder “it” ac yn lle “of their” rhodder “such”; a
(4) ym mharagraff (c) yn lle “their” rhodder “such”.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
6. Yn is-adran (1) o adran 5 (Cymorth i'r Awdurdod gan awdurdodau cyhoeddus a phersonau eraill) yn lle “their” rhodder “its”.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
7. Yn lle adran 6 (Y pŵer i ffurfio pwyllgorau) rhodder—
“6.—(1) The Assembly may establish such committees for giving advice to the Assembly about the discharge of any of its functions under this Act as it considers appropriate.
(2) The members of any such committee are to be appointed by the Assembly and may be either members of the Assembly or persons who are not members.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
8. Hepgorer adran 7 (Diddymu Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru).
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
9. Hepgorer adran 8 (Trosglwyddo tir a ddelir o dan Ddeddf Cyflogaeth Leol 1972 i'r Awdurdod).
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
10. Yn adran 9 (Darparu safleoedd a mangreoedd ar gyfer diwydiant)—
(1) hepgorer is-adran (1);
(2) yn is-adran (2), yn lle “For that purpose” rhodder “For the purpose of providing or managing sites and premises for businesses and providing related facilities, or making land available for development”; a
(3) yn lle is-adran (3), rhodder—
“(3) The Assembly may, if it considers there are circumstances which justify the giving of special assistance, provide premises for the occupation of a business free of rent for such time as it thinks appropriate”.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
11. Yn adran 10 (Gwasanaethau, etc ar gyfer datblygu diwydiant), yn lle “Secretary of State may authorise the Agency to” rhodder “Assembly may” ac yn lle “him” rhodder “it”.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
12. Hepgorer adran 10A (Cymorth ariannol ar gyfer adfywio a datblygu).
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
13. Yn adran 13 (Bwrdd Ymgynghorol Datblygu Diwydiant Cymru)—
(1) yn is-adran (1)—
(a)yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly”,
(b)yn lle “him” rhodder “it”, ac
(c)yn lle “his” rhodder “its”;
(2) yn is-adran (3), yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly”; a
(3) yn lle is-adran (4) rhodder—
“(4) If the Board make a recommendation with respect to any matter at the request of the Assembly and the Assembly exercises its functions under section 7 of the Industrial Development Act 1982 contrary to their recommendation, it shall, if the Board so request, publish a statement as to the matter.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
14. Hepgorer adran 14 (Trosglwyddo eiddo dan berchnogaeth cyhoeddus i'r Awdurdod).
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
15. Yn lle adran 15 (Yr amgylchedd) rhodder—
“15.—(1) The Assembly’s duty under section 1(14) above to prepare and publish, after consultation with such local authorities, National Park authorities and other bodies as appear to the Assembly to have an interest, programmes for the performance of the Assembly’s functions under this Act, includes in particular a duty to prepare and publish programmes, to be implemented either by the Assembly itself, or by the Assembly acting jointly with any other authority or person, or through persons or authorities acting on behalf of the Assembly, for the improvement, development or redevelopment of the environment in Wales.
(2) The Assembly may make payments to any authority or person of such amount and in such manner as it may determine for carrying out work which the Assembly considers will contribute to the purposes of such a programme.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
16. Yn adran 16 (Tir diffaith)—
(1) yn is-adran (1), yn y geriau olaf, yn lle “they may, with the consent of the Secretary of State,” rhodder “it may”;
(2) yn is-adran (3), ym mharagraff (a) yn lle “they” rhodder “it” ac yn y geiriau olaf yn yr is-adran yn lle “on them” rhodder “on it”;
(3) yn is-adran (6), yn lle “Secretary of State with the consent of the Treasury” rhodder “Assembly”; a
(4) yn lle is-adran (8) rhodder—
“(8) A statutory instrument containing an order under subsection (6) above may make such transitional provision as appears to the Assembly to be necessary or expedient.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
17. Hepgorer adran 17 (Dyletswyddau ariannol yr Awdurdod).
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
18. Yn adran 18 (Cyllid yr Awdurdod)—
(1) hepgorer is-adrannau (2) i (5), a
(2) yn lle'r pennawd rhodder “Borrowing and guarantees”.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
19. Hepgorer adran 19 (Yr Awdurdod a'r cyfryngau).
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
20. Hepgorer adran 20 (Terfynau eraill ar bwerau'r Awdurdod).
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
21. Hepgorer adran 21 (Treuliau).
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
22. Yn lle adran 21A (Pwerau caffael tir) rhodder—
“21A—(1) The powers to acquire land mentioned in sections 1(7)(h) and 16(3)(b) above are powers—
(a)to acquire land by agreement;
(b)in relation to land in Wales, to acquire land compulsorily; and
(c)in relation to land in England, to acquire land compulsorily if authorised to do so by the Secretary of State.
(2) Where the Assembly acquires or has acquired land under subsection (1) above, it has power—
(a)to acquire by agreement,
(b)in relation to land in Wales, to acquire compulsorily, and
(c)in relation to land in England, if authorised to do so by the Secretary of State, to acquire compulsorily,
the land described in subsection (2A) below.
(2A) The land is—
(a)any land which adjoins the land which the Assembly acquires or has acquired under subsection (1) and which is required for the purpose of executing works for facilitating its development or use; and
(b)where the land which the Assembly acquires or has acquired under subsection (1) forms part of a common, an open space or a fuel or field garden allotment, any land required for the purpose of being given in exchange for it.
(3) The Assembly may under subsection (1) above acquire rights over land by the creation of new rights (as well as by acquiring rights already in existence).
(4) Before the Assembly acquires land under subsection (1) for the purpose of its function under section 1(3)(da) above, it shall—
(a)consider whether the land would or would not in its opinion be made available for development if it did not act;
(b)consider the fact that planning permission has or has not been granted in respect of the land or is likely or unlikely to be granted;
(c)(in the case where no planning permission has been granted in respect of the land) consult every relevant local authority; and
(d)consider the needs of those engaged in building, agriculture and forestry and of the community in general.
(5) For the purposes of subsection (4)(c) above, each of the following is a relevant local authority—
(a)the council of any county, county borough or district in whose area the land, or any part of the land, is situated;
(b)any joint planning board in whose district the land, or any part of the land, is situated; and
(c)any National Park authority which is the local planning authority for a National Park in which the land, or any part of the land, is situated.
(6) Where the Assembly has acquired land under subsection (1) above for the purpose of any of its functions under this Act it may appropriate it to the purpose of any of its other functions under this Act.
(7) Where the Assembly has—
(a)acquired land under subsection (1) above for the purposes of its function under section 1(3)(da) above; or
(b)under subsection (6) above has appropriated land to that purpose,
it shall, until it either disposes of the land or appropriates the land under subsection (6) above to the purpose of any of its other functions under this Act, manage the land and turn it to account.
(8) Schedule 4 to this Act shall have effect.”
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
23. Ym mharagraff (b) o adran 21B (Gwaredu tir), yn lle “with the consent of the Secretary of State” rhodder “otherwise as it considers appropriate”.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
24. Yn adran 21C (Pwerau i gynghori ar faterion tir), yn is-adran (2)—
(a)hepgorer paragraff (b); a
(b)ym mharagraff (i), yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly”.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
25. Hepgorer adran 24 (Y pŵer i gael gwybodaeth).
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
26. Hepgorer adran 25 (Cyflwyno dogfennau).
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
27. Yn adran 27 (Dehongli)—
(1) yn is-adran (1), hepgorer y diffiniad o “accounting year”; a
(2) hepgorer is-adran (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
28. Yn adran 28 (Gorchmynion a rheoliadau), hepgorer is-adran (1A).
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
29. Yn adran 29 (Enwi etc), yn is-adran (3), hepgorer “and paragraphs 13 and 21 of Schedule 1 below” ac yn lle “extend” rhodder “extends”.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
30. Hepgorer Atodlen 1 (Awdurdod Datblygu Cymru).
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
31. Hepgorer Atodlen 2 (Aelodau a staff Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru).
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
32. Yn Atodlen 3 (Darpariaethau ariannol a gweinyddol sy'n ymwneud â'r Awdurdod)—
(1) hepgorer paragraffau 1, 2, 4, 7, 8 a 9 a'r penawdau i baragraffau 1, 4, 7, 8 a 9;
(2) yn lle paragraff 3 rhodder—
“(3) For the purpose of exercising its functions under this Act, the Assembly may borrow money from any person (including its wholly owned subsidiaries), but any borrowing in a currency other than sterling requires the approval of the Treasury.”;
(3) yn lle paragraff 5 rhodder—
“(5) It is the duty of the Assembly to secure that none of its wholly owned subsidiaries formed in pursuance of the exercise of the Assembly’s functions under this Act borrows money otherwise than from the Assembly or from another wholly owned subsidiary of the Assembly, except with the Assembly’s consent.”;
(4) ym mharagraff 6(1), yn lle “borrow from a person other than the Secretary of State” rhodder “borrows in connection with its functions under this Act”; a
(5) yn lle'r pennawd i'r atodlen, rhodder “Borrowing and guarantees”.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
33. Yn Atodlen 4 (Caffael Tir)—
(1) yn lle paragraff 1 rhodder—
“1—(1) The Acquisition of Land Act 1981 (referred to in this Schedule as “the 1981 Act”) applies in relation to the compulsory acquisition of land under section 21A above subject to the modifications made by the following provisions of this Part.
(2) Notwithstanding section 2 of the 1981 Act—
(a)Schedule 1 to the 1981 Act applies only in relation to a compulsory acquisition of land under section 21A(1)(b) or (2)(b) above; and
(b)Part 2 of the 1981 Act applies in relation to a compulsory acquisition of land made under section 21A(1)(c) or (2)(c) above as if the Assembly were an acquiring authority and the Secretary of State were the confirming authority for the purposes of that Part.
1A—(1) Where a compulsory purchase order is prepared in draft by the Assembly under section 21A(1)(b) or (2)(b) above—
(a)a notice under paragraph 3 of Schedule 1 to the 1981 Act (notice to owners, lessees and occupiers) shall be served on every relevant local authority;
(b)each relevant local authority has a right to object in accordance with the notice; and
(c)the references in paragraphs 4 and 4A of Schedule 1 to that Act to relevant objections include references to an objection made by any relevant local authority.”;
(2) ym mharagraff 3—
(a)ar ddiwedd geiriau agoriadol is-baragraff (1) mewnosoder “under section 21A(1)(c) or (2)(c) above”,
(b)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “Acquisition of Land Act 1981” rhodder “1981 Act”, ac
(c)hepgorer is-baragraff (2);
(3) ar ôl paragraff 3 mewnosoder paragraff 3A newydd—
“3A For the purposes of paragraphs 1A and 3 above, each of the following is a relevant local authority—
(a)the council of any county, county borough or district in whose area the land, or any part of the land, is situated;
(b)any joint planning board in whose district the land, or any part of the land, is situated; and
(c)any National Park authority which is the local planning authority for a National Park in which the land, or any part of the land, is situated.”;
(4) ym mharagraff 7—
(a)yn is-baragraff (3), yn y geiriau ar ôl paragraff (b) hepgorer “by the Secretary of State”,
(b)ar ôl is-baragraff (3) ychwaneger is-baragraff (3A) newydd fel a ganlyn—
“(3A) Regulations for the purposes of this paragraph are to be made by—
(a)the Assembly, in relation to land in Wales; and
(b)the Secretary of State, in relation to land in England.”,
(c)yn is-baragraff (5), o flaen “the Secretary of State” bob tro y mae'n digwydd, mewnosoder “the Assembly or”, ac
(ch)yn is-baragraff (8)(c), yn lle “the Secretary of State” rhodder “the Assembly, in relation to land in Wales, or by the Secretary of State, in relation to land in England,”;
(5) ym mharagraff 11—
(a)mewnosoder is-baragraff (4A) newydd—
“(4A) If a counter-notice is served under sub-paragraph (3) above in relation to rights over, or apparatus on, land in Wales, the Assembly may either—
(a)withdraw the notice (but without prejudice to the service of a further notice); or
(b)invite the appropriate Minister to make an order jointly with the Assembly under this sub-paragraph embodying the provisions of the notice with or without modification.”, a
(b)yn is-baragraff (5) ar ôl “above” mewnosoder “in relation to rights over, or apparatus on, land in England”;
(6) ym mharagraff 12—
(a)yn is-baragraff (1)—
(i)cyn “(5)” mewnosoder “(4A) or”; a
(ii)yn lle “Ministers” rhodder “appropriate Minister and the Assembly, or the Ministers proposing to make the order, as the case may be”; a
(b)yn lle paragraff (b) o is-baragraff (1) rhodder—
“(b)if any objection is made, shall consider the objection and afford to—
(i)the statutory undertakers and the Assembly, in the case of an order under sub-paragraph (4A) of paragraph 11 above, or
(ii)the statutory undertakers, in the case of an order under sub-paragraph (5) of paragraph 11 above,
an opportunity of appearing before, and being heard by, a person appointed for the purpose by the Assembly and the appropriate Minister, or the Secretary of State and the appropriate Minister, as the case may be.”;
(c)yn is-baragraff (2), yn lle “Ministers” rhodder “appropriate Minister and the Assembly, or the Ministers proposing to make the order, as the case may be,”;
(ch)yng ngeiriau agoriadol is-baragraff (3), cyn “11(5)” mewnosoder “11(4A) or”; a
(d)ym mharagraff (b) o is-baragraff (3), yn lle “they think” rhodder “it thinks”;
(7) ym mharagraff 13—
(a)yn lle paragraff (b) o is-baragraff (6) rhodder—
“(b)in relation to apparatus—
(i)in, on, over or under land in Wales requiring removal or re-siting, apply to the Assembly and the appropriate Minister for an order under this sub-paragraph conferring on the undertakers the rights claimed in the notice or such modified rights as the Assembly and the appropriate Minister think it appropriate to confer on them; and
(ii)in, on, over or under land in England requiring removal or re-siting, apply to the Secretary of State and the appropriate Minister for an order under this sub-paragraph conferring on the undertakers the rights claimed in the notice or such modified rights as the Secretary of State and the appropriate Minister think it appropriate to confer on them.”;
(b)yn is-baragraffau (7) ac (8), yn lle “an order of Ministers made under it”, rhodder “an order made under it by the Assembly and the appropriate Minister, or by the Ministers, as the case may be,”; ac
(c)ar ôl is-baragraff (8) mewnosoder—
“(8A) References in this paragraph to the Assembly and the appropriate Minister are, if the appropriate Minister is the Assembly, to be construed as references to the Assembly alone.”;
(8) ym mharagraff 15—
(a)yn is-baragraff (3), hepgorer “or the Secretary of State” , a
(b)yn is-baragraff (4), yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly”;
(9) ym mharagraff 16, yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly, in relation to a house in Wales, or the Secretary of State in relation to a house in England,”;
(10) hepgorer paragraff 17;
(11) ym mharagraff 18(1), o flaen “relating to land” mewnosoder “under this Act” ac yn lle “they” rhodder “it”;
(12) ym mharagraff 19—
(a)yn lle “Secretary of State” ym mharagraff (a) a pharagraff (b) o is-baragraff (1) rhodder “Assembly”;
(b)yn is-baragraff 1(a), yn lle “their functions” rhodder “its functions under this Act”; ac
(c)yn is-baragraff (3), hepgorer “, or the Secretary of State (if it was granted by him),”;
(13) yn lle paragraff 20 rhodder—
“20—(1) The Assembly may make regulations for prescribing the form of any document required or authorised by or under this Schedule which relates to land in Wales.
(2) The Secretary of State may make regulations for prescribing the form of any document required or authorised by or under this Schedule which relates to land in England.”;
(14) ym mharagraff 21, ar ôl “under” mewnosoder “part 2 of”; a
(15) ym mharagraff 22, yn is-baragraff (1), mewnosoder ar ôl “Crown land” y geiriau “if the appropriate Minister is the Assembly or, otherwise,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
Erthygl 7(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 2 Rhn. 1 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)
1. Yn Neddf Landlord a Thenant 1954—
(1) yn is-adran (1A)(a) o adran 59 (Iawndal am arfer pwerau o dan adrannau 57 a 58), ar ôl “Welsh Development Agency Act 1975,” mewnosoder “and were transferred to the National Assembly for Wales by virtue of the Welsh Development Agency (Transfer of Functions to the National Assembly for Wales and Abolition) Order 2005.”;
(2) yn lle is-adran (1A)(b) o adran 59 rhodder—
“(b)the tenant was not the tenant of the premises when the interest by virtue of which the certificate was given was acquired by the Welsh Development Agency or, if the interest was acquired on or after 1 April 2006, by the National Assembly for Wales in exercise of functions transferred to it by the Welsh Development Agency (Transfer of Functions to the National Assembly for Wales and Abolition) Order 2005”;
(3) yn is-adran (1) o adran 60A (Mangreoedd Awdurdod Datblygu Cymru), yn lle “Welsh Development Agency is the landlord, and the Secretary of State” rhodder “National Assembly for Wales is the landlord by virtue of the Welsh Development Agency (Transfer of Functions to the National Assembly for Wales and Abolition) Order 2005 or by virtue of the Assembly exercising its powers under that Order, and the Assembly”; a
(4) yn adran 60A(2) yn lle “Secretary of State” rhodder “National Assembly for Wales”.
2. Yn Neddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960, ym mharagraff 1 o'r atodlen (Cyrff y mae'r Ddeddf hon yn gymwys iddynt) hepgorer paragraff (ba).
F13. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 Rhn. 1 para. 3 wedi ei dirymu (22.9.2017) gan Neighbourhood Planning Act 2017 (c. 20), is-ad. 33(4)(f), 46(1) (gydag a. 33(5)); O.S. 2017/936, rhl. 3(c)
4. Yn Neddf Cyllid 1969, yn adran 58 (Datgelu gwybodaeth at ddibenion ystadegol gan Fwrdd Cyllid y Wlad), yn y tabl yn is-adran (4), yn y golofn gyntaf (“Body”), yn lle “The Welsh Development Agency” rhodder “The National Assembly for Wales”.
5. Yn adran 4 (Cael a datgelu gwybodaeth gan y Comisiwn ac asiantaethau etc) o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973—
(1) yn is-adran (3)(e)(ii), hepgorer “the Welsh Development Agency”;
(2) yn is-adran (3)(e), ar ôl is-baragraff (ii) ychwaneger—
“(iii)an officer of the National Assembly for Wales who is authorised by that body to receive the information for the purposes of its functions under the Welsh Development Agency Act 1975”;
(3) yn is-adran (5)(dd)—
(a)yn lle “Welsh Development Agency” rhodder “National Assembly for Wales”, a
(b)yn lle “conferred on that Agency by the Welsh Development Agency Act 1975;” rhodder “conferred on that body by the Welsh Development Agency Act 1975;”.
6. Yn Neddf Anghymhwyso o Dŷ'r Cyffredin 1975, yn Rhan 2 o Atodlen 1 (Swyddi sy'n anghymhwyso ar gyfer aelodaeth), hepgorer “The Welsh Development Agency.”.
7. Yn Neddf Cysylltiadau Hiliol 1976, yn Rhan 2 o Atodlen 1A (Cyrff a phersonau eraill sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd statudol gyffredinol), hepgorer “The Welsh Development Agency.”.
8. Yn Neddf Diwydiant 1980—
(1) hepgorer adran 2 (Trosglwyddo eiddo i'r Ysgrifennydd Gwladol); a
(2) hepgorer adran 2A (Treth dir toll stampiau).
9. Yn Neddf Caffael Tir 1981—
(1) yn is-adran (3) o adran 17 (Tir awdurdod lleol ac ymgymerwyr statudol), hepgorer “the Welsh Development Agency”; a
(2) yn Atodlen 3 (Caffael hawliau dros dir wrth greu hawliau newydd), ym mharagraff 4(3), hepgorer “, the Welsh Development Agency”.
10. Yn adran 43A (Tir halogedig) o Ddeddf Cyllid 1996—
(1) yn is-adran (5)(h), hepgorer “the Welsh Development Agency”; a
(2) yn is-adran (6), hepgorer y diffiniad o “the Welsh Development Agency”.
11. Yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998 hepgorer adrannau 132 (Dirwyn i ben) a 138 (Dirwyn i ben).
12. Yn Neddf Safonau Gofal 2000, yn Atodlen 2A (Personau sy'n destun adolygiad gan y Comisiynydd o dan Adran 72B), hepgorer paragraff 22.
13. Yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, yn Rhan 6 o Atodlen 1 (Awdurdodau cyhoeddus), hepgorer “The Welsh Development Agency”.
14. Yn Neddf Cyllid 2003, yn Atodlen 9 (Treth dir toll stampiau: hawl i brynu, perchnogaeth lesoedd a rennir), ym mharagraff 1(3) o dan y pennawd “New towns and development corporations”, hepgorer “The Welsh Development Agency”.
15. Yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, yn Atodlen 3 (Awdurdodau rhestredig), hepgorer “The Welsh Development Agency.”.
1. Yng Ngorchymyn y Weinyddiaeth Datblygu mewn Gwledydd Tramor (Diddymu) 1979, yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 5.
2. Yng Ngorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996, yn yr atodlen, hepgorer “Welsh Development Agency” ac “Awdurdod Datblygu Cymru”.
3. Yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, yn Atodlen 1 yn yr eitem ar gyfer Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975—
(a)yn y frawddeg gyntaf (sy'n dilyn enw'r Ddeddf) hepgorer y geiriau “the functions of the Treasury under paragraph 4 of Schedule 3 and”,
(b)hepgorer yr ail frawddeg (sy'n cychwyn “The Treasury approval requirements under paragraphs 1(2) etc”), ac
(c)ac eithrio at ddibenion y datganiad o gyfrif ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 3(6) o'r Gorchymyn hwn, hepgorer y bedwaredd frawddeg (sy'n cychwyn “The functions of the Comptroller and Auditor General etc”).
4. Yng Ngorchymyn Taliadau Dileu Swyddi (Parhau Cyflogaeth mewn Llywodraeth Leol, etc) (Addasiad) 1999, ym mharagraff 23 o Atodlen 1 o dan “Section 2— Planning and Development”, hepgorer “The Welsh Development Agency”.
5. Yng Ngorchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2000, yn Atodlen 1, hepgorer “the Welsh Development Agency”.
6. Yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymwyso) 2003, yn Rhan 2 o'r atodlen, hepgorer “Any member, not being also an employee, of the Welsh Development Agency”.
7. Yn Rheoliadau Deddf Landlord a Thenant 1954, Rhan 2 (Hysbysiadau) 2004—
(1) yn y tabl yn Atodlen 1, yn yr ail golofn wrth ymyl y Rhif au 16 and 17, ar ôl “Welsh Development Agency” mewnosoder “Act 1975”; a
(2) yn Atodlen 2, yn ffurflenni 16 ac 17—
(a)yn y pennawdau i'r ffurflenni ar ôl “Welsh Development Agency” mewnosoder “Act 1975”,
(b)ym mharagraff 4(a) o'r nodiadau i ffurflen 16 ac ym mharagraff 11(a) o'r nodiadau i ffurflen 17, ar ôl “Welsh Development Agency Act 1975” mewnosoder “and were transferred to the National Assembly for Wales by virtue of the Welsh Development Agency (Transfer of Functions to the National Assembly for Wales and Abolition) Order 2005.”, ac
(c)yn lle paragraff 4(b) o'r nodiadau i ffurflen 16 ac yn lle paragraff 11(b) o'r nodiadau i ffurflen 17, rhodder—
“you were not the tenant of the premises when the interest by virtue of which the certificate referred to in paragraph 3 of this notice was given was acquired by the Welsh Development Agency or, if the interest was acquired on or after 1 April 2006, by the National Assembly for Wales in exercise of functions transferred to it by the Welsh Development Agency (Transfer of Functions to the National Assembly for Wales and Abolition) Order 2005.”
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 2 Rhn. 2 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1
Dirymir y canlynol—
1. Rheoliadau Awdurdod Datblygu Cymru (Iawndal) 1976 (O.S. 1976/2107).LL+C
2. Rheoliadau Cynyddu Pensiynau (Awdurdod Datblygu Cymru) 1978 (O.S. 1978/211).LL+C
3. Gorchymyn Awdurdod Tir Cymru (Trosglwyddo Staff) 1998 (O.S. 1998/2194).LL+C
4. Gorchymyn Bwrdd Datblygu Cymru Wledig (Trosglwyddo Staff) 1998 (O.S. 1998/2195).LL+C
5. Gorchmyn Awdurdod Datblygu Cymru (Aelodaeth) 1998 (O.S. 1998/2490).LL+C
6. Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2000 (O.S. 2000/1147 (Cy.82)).LL+C
7. Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2004 (O.S. 2004/1826 (Cy.202)).LL+C
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y “Cynulliad”) i ddiwygio cyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Mae'r adran yn cynnwys y pŵer i drosglwyddo swyddogaethau ac i ddiddymu'r cyrff hynny pan fo'u holl swyddogaethau wedi'u trosglwyddo.
Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Awdurdod Datblygu Cymru (yr “Awdurdod”) i'r Cynulliad, yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o'r Awdurdod i'r Cynulliad ac yn gwneud darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig, trosiannol ac atodol priodol. Mae hefyd yn diddymu'r Awdurdod.
Mae erthygl 2 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad ar 1 Ebrill 2006. Mae'r erthygl hon yn darparu hefyd ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad. Mae'r rhain yn cynnwys, pan fo hynny'n berthnasol, hawliau a rhwymedigethau a drosglwyddwyd i'r Awdurdod oddi wrth Gorfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru (p.70) (“Deddf 1975”) a'r tir (a'r hawliau a'r rhwymedigaethau ynglŷn ag ef) a ddaliwyd o dan Ddeddf Cyflogaeth Leol 1972 (p.5) a drosglwyddwyd i'r Awdurdod o dan adran 8 o Ddeddf 1975. Trosglwyddir staff ar sail yr egwyddorion a sefydlwyd gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 (OS 1981/1794).
Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol penodol ynglŷn â'r eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau ac ar gyfer rhoi'r Cynulliad yn lle'r Awdurdod ym mhob offeryn, contract neu achos cyfreithiol perthnasol.
Mae hefyd yn daparu bod adroddiad o gyfrif yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005-2006 i'w baratoi gan y Cynulliad. Rhaid anfon yr adroddiad o gyfrif ar gyfer 2005-2006 at Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i osod wedyn gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn y dull arferol.
Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth er mwyn sicrhau fod effaith trosglwyddo eiddo'r Awdurdod i'r Cynulliad yn niwtral yn nhermau cyfrifo lwfansau adeiladau diwydiannol o dan Ddeddf Lwfansau Cyfalafol 2001.
Mae erthygl 5 yn darparu bod yr Awdurdod yn cael ei ddiddymu ar ôl i swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Awdurdod gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad.
Mae erthygl 6 yn gweud darpariaeth ffurfiol i adlewyrchu cydweithio rhwng y Cynulliad a'r Awdurdod er mwyn hwyluso trosglwyddiad y swyddogaethau.
Mae erthygl 7 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2006 Atodlenni 1 a 2 i'r Gorchymyn, sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau a diddymu'r Awdurdod ac yn gysylltiedig â hynny. I Ddeddf 1975 y gwneir y newidiadau mwyaf sylweddol.
Mae gorchmynion prynu gorfodol a wnaed gan y Cynulliad o dan bwerau a geir yn Neddf 1975 yn cael eu rhannu'n ddau gategori. Os yng Nghymru y mae'r tir, y gweithdrefnau i'w dilyn yw'r rhai yn Atodlen 1 i Ddeddf Caffael Tir 1981. Os yn Lloegr (ond er gwatha hynny dal yn berthnasol i swyddogaethau'r Cynulliad o dan y Ddeddf) y mae'r tir, y weithdrefn i'w dilyn yw'r un a geir yn Rhan 2 o Ddeddf Caffael Tir 1981, ac mae hyn yn adlewyrchu'r gofyniad i gael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn achos tir yn Lloegr.
Lle y bo hynny'n briodol, mae cyfeririadau at swyddogaethau'r “Ysgrifennydd Gwladol” wedi'u newid i fod yn swyddogaethau'r “Cynulliad” ar wyneb Deddf 1975 er mwyn adlewyrchu effaith Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).
Fodd bynnag, mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau gan y Cynulliad, mae cyfeiriadau at un o Weinidogion y Goron neu at adran lywodraeth mewn deddfiadau eraill yn parhau i gael eu dehongli, lle y bo'n angenrheidiol, fel cyfeiriadau at y Cynulliad neu gyfeiriadau'n cynnwys y Cynulliad yn unol ag adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Mae erthygl 8 yn gweud darpariaethau arbed o ran unrhyw ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi'i roi yn rhinwedd adran 7 o Ddeddf 1975 ar gyfer tir a drosglwyddwyd i'r Awdurdod oddi wrth Gorfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru ac ar gyfer dilyniant cyflogaeth o unrhyw aelod o staff yr Awdurdod y trosglwyddwyd eu cyflogaeth yn wreiddiol oddi wrth y Gorfforaeth honno o dan yr adran honno.
O.S. 1981/1794, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19), gan Ddeddf Gwaith Dociau 1989 (p.13) a chan Offerynnau Statudol 1987/442, 1995/2587, 1998/1658, 1999/1925, 1999/2402 a 1999/2587.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys