Enwi, cychwyn a dehongli
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “ACCAC” yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2006.
Trosglwyddo Swyddogaethau ACCAC i'r Cynulliad Cenedlaethol
2. Yn ddarostyngedig i erthygl 9, trosglwyddir holl swyddogaethau ACCAC i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y dyddiad trosglwyddo.
Trosglwyddo staff
3. At ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981()—
(a)mae'r trosglwyddiad swyddogaethau a wneir gan Erthygl 2 i'w drin fel pe bai'n drosglwyddiad ymgymeriad;
(b)mae pob person a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn gyflogedig gan ACCAC o dan gontract cyflogaeth i'w drin fel pe bai'n gyflogedig yn yr ymgymeriad yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.
Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau
4.—(1) Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd gan ACCAC hawl iddynt neu yr oedd ACCAC yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Bydd tystysgrif a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ardystio bod unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau wedi'u trosglwyddo gan baragraff (1) yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r trosglwyddiad.
(3) Nid yw'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth a drosglwyddir yn rhinwedd erthygl 3.
(4) Mae i baragraff (1) effaith mewn cysylltiad ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—
(a)er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai fel arall yn rhwystro eu trosglwyddo, neu'n ei gosbi, neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo a hynny ac eithrio drwy'r gorchymyn hwn;
(b)heb fod unrhyw offeryn neu ffurfioldeb arall yn ofynnol.
Darpariaeth ar gyfer parhad o ran arfer swyddogaethau
5. I'r graddau y mae'n ofynnol ar gyfer parhau ei effaith ar ac ar ôl y dyddiad trosglwyddo, rhaid i unrhyw beth a wnaed gan ACCAC, neu mewn perthynas ag ef, ac sy'n cael effaith yn union cyn y dyddiad trosglwyddo gael effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol neu mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diddymu ACCAC
6. Ar y dyddiad trosglwyddo mae ACCAC yn peidio â bod.
Darpariaethau trosiannol etc
7.—(1) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan ACCAC neu mewn perthynas ag ef cyn y dyddiad trosglwyddo.
(2) Caniateir i'r Cynulliad Cenedlaethol barhau, neu caniateir parhau, mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol, ag unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd yn y broses o gael ei wneud gan ACCAC neu mewn perthynas ag ACCAC cyn y dyddiad trosglwyddo.
(3) Ar neu ar ôl y dyddiad trosglwyddo, i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol neu'n briodol, rhaid trin cyfeiriadau at ACCAC, mewn unrhyw offerynnau, contractau, neu achosion cyfreithiol, fel pe baent yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Hyd oni ddaw adran 189 o Ddeddf Addysg 2002 i rym, i'r graddau y bo'n ymwneud â pharagraff 5(5) o Atodlen 17 i'r Ddeddf honno, bydd adran 29 o Ddeddf Addysg 1997 (swyddogaethau ACCAC mewn perthynas â'r cwricwlwm ac asesu) yn cael effaith fel pe rhoddid yn lle is-adran (4)—
“(4) The National Assembly for Wales may exercise any function of a designated body within the meaning of Chapter 1 of Part 4”.
Cyfrifon
8.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a)paratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer y cyfnod sy'n cychwyn ar ddyddiad y datganiad diwethaf o gyfrifon a baratowyd gan ACCAC ac sy'n gorffen ar y dyddiad trosglwyddo;
(b)anfon copi o'r datganiad at Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn diwedd y cyfnod o 6 mis yn cychwyn ar y dyddiad trosglwyddo.
(2) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio ac ardystio'r datganiad a ddaw i law o dan yr erthygl hon a llunio adroddiad arno;
(b)gosod copi o'r adroddiad ar y datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Diwygiadau canlyniadol i Ddeddfau a deddfwriaeth arall
9.—(1) Diwygir y Deddfau a bennir yn Atodlen 1 yn unol â'r Atodlen honno.
(2) Diwygir yr is-ddeddfwriaeth a bennir yn Atodlen 2 yn unol â'r Atodlen honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998().
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2005