- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae “anifail buchol” (“bovine animal”) yn cynnwys—
byfflo o rywogaeth Bubalus bubalis; a
Bison bison;
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1);
ystyr “yr awdurdod gorfodi perthnasol” (“the relevant enforcement authority”) yw'r corff y mae dyletswydd arno yn rhinwedd rheoliad 7 i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(2), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
mae i “bwyd anifeiliaid” a “bwyd i bobl” yr ystyron y mae “animal food” a “human food” yn ôl eu trefn yn eu dwyn yn Rheoliad 999/2001;
ystyr “cig” (“meat”) yw rhannau bwytadwy anifail buchol gan gynnwys ei waed;
ystyr “cig ffres” (“fresh meat”) yw cig nad yw wedi mynd drwy unrhyw broses breserfio (ac eithrio oeri, rhewi neu frysrewi) gan gynnwys cig a lapiwyd dan wactod neu a lapiwyd mewn awyrgylch a reolir;
mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”, “Penderfyniad 2005/598”, “Rheoliad 999/2001”, “Rheoliad 178/2002”, “Rheoliad 852/2004”, “Rheoliad 853/2004”, “Rheoliad 854/2004”, “Rheoliad 882/2004”, “Rheoliad A”, “Rheoliad B”, “Rheoliad C”, “Rheoliad D” a “Rheoliad E” (“Decision 2005/598”, Directive 2004/41”, “Regulation 999/2001”, “Regulation 178/2002”, “Regulation 852/2004”, “Regulation 853/2004”, “Regulation 854/2004”, “Regulation 882/2004”, “Regulation A”, “Regulation B”, “Regulation C”, “Regulation D” and “Regulation E”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen;
dehonglir “cynnyrch cig” yn unol â'r diffiniad o'r term “meat products” ym mhwynt 7.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
ystyr “cynorthwy-ydd swyddogol” (“official auxiliary”) yw person sydd wedi cymhwyso yn unol â Rheoliad Rhif 854/2004 i weithredu yn rhinwedd y swyddogaeth honno, sydd wedi'i benodi gan yr Asiantaeth ac sy'n gweithio o dan awdurdod a chyfrifoldeb milfeddyg swyddogol;
dehonglir “deunydd” a “cynnyrch” yn ôl eu trefn yn unol â'r ystyron y mae “materials” a “products” yn eu dwyn ym Mhenderfyniad 2005/598;
mae i “gwrteithiau” yr ystyr a roddir i “fertilisers” yn Erthygl 3.1(k) o Reoliad 999/2001;
ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer cigydda a thrin anifeiliaid buchol, y bwriedir defnyddio eu cig ar gyfer ei fwyta gan bobl ac—
sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu
a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995.
ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinarian”) yw milfeddyg sydd wedi cymhwyso yn unol â Rheoliad 854/2004 i weithredu yn rhinwedd y swyddogaeth honno ac sydd wedi'i benodi gan yr Asiantaeth;
ystyr “rhoi ar y farchnad” (“place on the market”) yw gwerthu, cyflenwi mewn unrhyw ffordd arall am dâl neu'n ddi-dâl a storio gyda golwg ar gyflenwi am dâl neu'n ddi-dâl;
ystyr “safle torri” yw sefydliad sy'n cael ei ddefnyddio i dynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres i'w roi ar y farchnad, fel y diffinnir “cutting plant” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002 ac—
sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu
a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(3);
mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” yn Erthygl 2.1(c) o Reoliad Rhif 852/2004;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran yr awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn ac o ran—
lladd-dy,
safle torri,
sefydliad y mae Pennod I o Adran V o Atodiad III i Reoliad 853/2004 yn gymwys iddo, ac
sefydliad lle mae cynhyrchion cig yn cael eu cynhyrchu,
mae'n cynnwys milfeddyg swyddogol a chynorthwy-ydd swyddogol; ac
mae i “torri” yr ystyr y mae “cutting up” yn ei ddwyn yn Rheoliad 853/2004.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl unrhyw gynnyrch—
(a)sy'n cynnwys neu'n ymgorffori cynnyrch sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996; a
(b)y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid neu wrteithiau.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal llaeth sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 rhag cael ei roi ar y farchnad.
4. Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990(4) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(5) gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 6(1) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod y cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at “placing on the market” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3.1(b) o Reoliad 999/2001;
(c)adran 32 (pwerau mynediad);
(ch)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(d)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(dd)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(6), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(e)adran 35(2) a (3)(7) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(8); ac
(g)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll) gyda'r addasiad bod y cyfeiriadau at “food authority” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at yr awdurdod gorfodi perthnasol.
5.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi perthnasol arolygu ar bob adeg resymol unrhyw gynnyrch sydd wedi'i roi ar y farchnad a bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys pan fo'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig, ar ôl cyflawni'r arolygiad hwnnw neu am unrhyw achos rhesymol arall, fod unrhyw berson wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 3 o ran unrhyw gynnyrch.
(2) Caiff y swyddog awdurdodedig naill ai—
(a)rhoi i'r person sydd â gofal dros y cynnyrch hysbysiad sy'n datgan mai hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl, nad yw'r cynnyrch nac unrhyw gyfran benodedig ohono—
(i)i'w roi ar y farchnad ymhellach i'w ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid na gwrteithiau, a
(ii)naill ai i beidio â chael ei symud oddi yno neu i beidio â chael ei symud oddi yno ac eithrio i rywle a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b)cymryd y cynnyrch i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw.
(3) Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵ er a roddwyd gan baragraff (2)(a), rhaid i'r swyddog hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 21 niwrnod, benderfynu a yw wedi'i fodloni neu heb ei fodloni y cydymffurfiwyd â rheoliad 3 mewn perthynas â'r cynnyrch ac—
(a)os yw wedi'i fodloni felly, tynnu'r hysbysiad yn ôl ar unwaith; a
(b)os nad yw wedi'i fodloni felly, cymryd y cig i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cig hwnnw.
(4) Pan fo swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵ er a roddwyd gan baragraff (2)(b) neu (3)(b), rhaid iddo hysbysu'r person sydd â gofal dros y cynnyrch o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw ac—
(a)bydd gan unrhyw berson a allai fod yn agored o dan reoliad 3 i erlyniad mewn cysylltiad â'r cynnyrch, os bydd y person hwnnw yn dod gerbron yr ynad heddwch y mae'n dod i'w ran i ymdrin â'r cynnyrch, hawl i gael gwrandawiad ac i alw tystion; a
(b)caniateir, ond nid oes rhaid, i'r ynad heddwch hwnnw fod yn aelod o'r llys y cyhuddir unrhyw berson ger ei fron o dramgwydd o dan yr adran honno mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw.
(5) Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail y dystiolaeth y mae'n ei hystyried yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod methiant i gydymffurfio â rheoliad 3 wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo gondemnio'r cynnyrch a gorchymyn—
(a)i'r cynnyrch gael ei ddistrywio neu ei waredu yn y fath fodd ag i'w atal rhag cael ei roi ymhellach ar y farchnad i'w ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid neu wrteithiau; a
(b)i unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol mewn cysylltiad â'r distrywio neu'r gwaredu gael eu talu gan berchennog y cynnyrch.
(6) Os tynnir hysbysiad o dan baragraff (2)(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch, y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw gynnyrch o dan y rheoliad hwn, yn gwrthod ei gondemnio, rhaid i'r awdurdod gorfodi perthnasol dalu iawndal i berchennog y cynnyrch am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Rhaid i unrhyw gwestiwn sy'n destun dadl ynglŷn â hawl i gael unrhyw iawndal neu ynglŷn â swm unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) gael ei benderfynu drwy gymrodeddu.
6.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 3 neu'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddir o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau; neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.
(3) Ni chaniateir cychwyn erlyniad am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i reoliad 3 neu fynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu
(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
7. Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu a'u gorfodi—
(a)mewn lladd-dy neu safle torri sy'n rhoi cig ffres ar y farchnad, gan yr Asiantaeth; a
(b)mewn unrhyw fangre arall, gan yr awdurdod bwyd y mae'r fangre wedi'i lleoli yn ei ardal.
8. Yn lle paragraff (3) o reoliad 3 (ystyr sgil-gynnyrch anifail) o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995(9) i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru rhodder y paragraff canlynol—
“(3) In these Regulations the definition of “animal by-product” includes—
(a)any product subject to the prohibition imposed by regulation 3 of the Bovine Products (Restriction on Placing on the Market) (Wales) (No. 2) Regulations 2005; and
(b)any bovine carcase or body part in respect of which a direction for disposal has been given under regulation 10A(5) of the TSE (Wales) Regulations 2002(10).”.
9. Mae Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad (Cymru) 2005(11) wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Tachwedd 2005
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys