Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005

RHAN 3Gweinyddiaeth

Staff y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru

18.—(1O fewn un mis i 3 Ionawr 2006 rhaid i'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Prif Weithredwr Interim a fydd yn gwasanaethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(2Bydd y Prif Weithredwr Interim'n dal y swydd hyd nes y bydd y person a benodir o dan baragraff (3) yn cychwyn ar ei swydd.

(3O fewn dri mis i 3 Ionawr 2006 rhaid i'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Prif Weithredwr a fydd yn gwasanaethu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(4Ni fydd unrhyw benodiadau o dan baragraffau (1) neu (3) yn ddilys oni wneir hwynt gyda chymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5O fewn un mis i 3 Ionawr 2006, rhaid i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Clerc Interim i bob Tribiwnlys Prisio.

(6Bydd Clercod Interim yn dal y swydd hyd nes y bydd y personau a benodir o dan baragraff (7) yn cychwyn ar eu swyddi.

(7O fewn dri mis i 3 Ionawr 2006, rhaid i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi Clerc i bob Tribiwnlys Prisio.

(8Caiff y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru benodi unrhyw gyflogeion eraill yn ôl ei benderfyniad.

(9Bydd y telerau a'r amodau y penodir y Prif Weithredwr Interim, y Prif Weithredwr, y Clercod Interim, y Clercod a'r cyflogeion eraill, danynt, yn rhai a benderfynir gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(10Bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n talu i'w gyflogeion pa gydnabyddiaeth a lwfansau bynnag a bennir ganddo.

(11Ni fydd unrhyw benderfyniad o dan baragraff (10) yn ddilys oni wneir hwynt gyda chymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(12Caiff swyddogaethau'r Prif Weithredwr Interim, y Prif Weithredwr, y Clercod Interim a'r Clercod a benodir o dan baragraff (1), (3), (5) a (7) gael eu dirprwyo i weithwyr eraill Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, yn ôl penderfyniad y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(13Ar derfyn y cyfnod a bennir ym mharagraffau (1), (3), (5) a (7), pan nad oes unrhyw benodiadau wedi'u gwneud yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â pha aelodau bynnag o'r Cyngor Llywodraethu ag yr ystyria'n addas, benodi Prif Weithredwr Interim, Prif Weithredwr, Clercod Interim neu Glercod fel y bo'n briodol.

Gweinyddiaeth

19.—(1Yn ddarostynedig i reoliad 7 a 20 caiff swyddogaethau Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru o dan y rheoliadau hyn gael eu gweithredu ar ei ran gan ddau neu fwy o aelodau ei Gyngor Llywodraethu, y mae'n rhaid iddynt, yn ddarostynedig i baragraff (2) gynnwys Cyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu.

(2Lle bo'n anymarferol i Gyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu weithredu unrhyw un o swyddogaethau'r Cyfarwyddwr o dan baragraff (1), gweithredir y swyddogaeth honno gan y dirprwy Gyfarwyddwr.

(3Cyfrifoldeb y Prif Weithredwr fydd gweinyddu lwfansau aelodau'r Tribiwnlysoedd Prisio a'r Cyngor Llywodraethu a'r gydnabyddiaeth a'r lwfansau i gyflogeion Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

(4Mewn perthynas ag unrhyw daliad o dan reoliad 17, rhaid i'r Prif Weithredwr gadw cofnod ar gyfer pob Tribiwnlys Prisio a'r Cyngor Llywodraethu o enw'r derbynnydd a'r swm a'r rheswm am y taliad, a rhaid iddo ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i archwilio a gwneud copïau o'r fath gofnodion.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr Interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

Adeiladau ac offer

20.—(1Rhaid i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru gynnal swyddfa barhaol, a'r Prif Weithredwr fydd â'r swyddogaeth ar ran Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru i wneud y fath drefniadau a fydd yn sicrhau fod ganddo adeiladau eraill, ac offer ysgrifenyddol ac offer arall sy'n ddigonol ar gyfer cyflawni'r Gwasanaeth.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr Interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).

Defnyddio ystafelloedd cyhoeddus

21.—(1Caiff Llywydd Tribiwnlys Prisio, Cyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu, y Prif Weithredwr neu Glerc wneud cais am ganiatâd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru am ddefnyddio unrhyw adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor hwnnw gan Dribiwnlys Prisio neu ei aelodau, Tribiwnlys arbennig, y Cyngor Llywodraethu, y Prif Weithredwr, Clerc neu weithwyr Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru ar ba ddyddiau bynnag a nodir yn y cais.

(2Ni ddylai cyngor sy'n derbyn cais fel y darperir ym mharagraff (1) wrthod y caniatâd a geisir yn afresymol, a bydd hawl ganddo i godi tâl rhesymol mewn perthynas â defnydd o'r fath.

(3Yn y rheoliad hwn—

ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw Clerc Interim a benodir o dan reoliad 18(5) neu Glerc a benodir o dan reoliad 18(7);

ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr Interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).