Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005

RHAN 4Darpariaethau Trosiannol

Apeliadau a drosglwyddir a dehongliad

22.—(1Bydd unrhyw apêl i hen Dribiwnlys a gychwynnwyd cyn 15 Chwefror 2006, ac a fyddai, pe bai wedi'i gychwyn ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny'n gymwys i'w benderfynu gan Dribiwnlys Prisio a sefydlwyd o dan reoliad 11, yn cael ei drosglwyddo ar 15 Chwefror 2006 i'w benderfynu gan y Tribiwnlys Prisio hwnnw (“y Tribiwnlys newydd”).

(2Ar 15 Chwefror 2006 ac ar ôl hynny—

(a)bydd y darpariaethau statudol perthnasol yn bodoli, fel pe bai unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r apêl gan neu yng nghyswllt yr hen Dribiwnlys y trosglwyddwyd ef ohono, neu Glerc, Llywydd neu gadeirydd yr hen Dribiwnlys hwnnw, wedi'i wneud gan neu mewn perthynas â'r Tribiwnlys newydd, neu, yn ôl y digwydd, Clerc, Llywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys newydd hwnnw, a

(b)bydd unrhyw gyfeiriad (sut bynnag y geirir ef) at Glerc, Llywydd neu gadeirydd hen Dribiwnlys yn y darpariaethau statudol perthnasol neu'r offerynnau a wneir danynt, cyn belled ag sy'n angenrheidiol i weithredu'r rheoliad hwn, yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at Glerc, neu, yn ôl y digwydd, Lywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys newydd.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “darpariaethau statudol perthnasol” (“the relevant statutory provisions”) yw—

(a)mewn perthynas ag apeliadau o dan adran 16, neu baragraff 3(1) o Atodlen 3 i Ddeddf 1992, y Rheoliadau hyn;

(b)mewn perthynas ag apeliadau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 24 o Ddeddf 1992, y Rheoliadau hynny;

(c)mewn perthynas ag apeliadau o dan Atodlen 4A i Ddeddf 1988 (Hysbysiadau i Gwblhau), a than Reoliadau a wnaed dan adran 55 o Ddeddf 1988 (“y Rheoliadau hynny”), y Rheoliadau hynny;

(ch)mewn perthynas ag apeliadau a wnaed o dan adran 45 o Ddeddf Draenio Tir 1991, Deddf 1991;

(d)mewn perthynas ag apeliadau o dan baragraff 5C o Atodlen 9 (Cosbau Sifil) o Ddeddf 1988, y Rheoliadau hyn.

(4At ddibenion Rhan 4 y Rheoliadau hyn, ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw—

(a)Clerc Interim neu Glerc a benodir o dan reoliad 18(5) a (7), ac

(b)unrhyw gyflogai arall i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a benodir o dan reoliad 18(8), y mae holl swyddogaethau neu ran o swyddogaethau Clerc yn Rhan 4 y Rheoliadau hyn, wedi'u dirprwyo iddynt.

Dirwyn i Ben

23.—(1Bydd yr hen Dribiwnlysoedd yn peidio â bod ar 14 Chwefror 2006.

(2Yn ddarostynedig i reoliad 12, bydd cyfnod aelodaeth aelodau'r hen Dribiwnlysoedd ar 14 Chwefror 2006 yn dod i ben ar derfyn y diwrnod hwnnw.