- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
24 Ionawr 2006
Yn dod i rym
26 Ionawr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1), o ran Cymru, at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 26 Ionawr 2006.
2.—(1) Yn adran 34(2A) (dyletswydd gofal etc. o ran gwastraff) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(3), ar ôl “England” mewnosoder “or Wales”.
(2) Yn adran 2(2) o Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992(4), ar ôl “England” mewnosoder “or Wales”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Ionawr 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Eu prif nod yw gweithredu, o ran Cymru, Erthygl 8 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff(6) (y “Cyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”) o ran meddiannydd eiddo domestig mewn perthynas â'r gwastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo.
Mae rheoliad 1 (enwi a chychwyn) yn darparu y daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Ionawr 2006 a'u bod yn gymwys o ran Cymru.
Mae rheoliad 2 yn diwygio adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”). Mae adran 34(2A) o Ddeddf 1990 (fel y'i mewnosodir gan Reoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru a Lloegr) 2005(7) yn gosod dyletswydd ar feddiannydd eiddo domestig yn Lloegr o ran y gwastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo. Y ddyletswydd a osodir yw bod y meddiannydd yn cymryd yr holl fesurau sydd ar gael iddo ac sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau er mwyn sicrhau bod unrhyw drosglwyddiad ganddo o wastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo ddim ond yn drosglwyddiad i berson awdurdodedig neu i berson at ddibenion cludo a awdurdodwyd. Mae rheoliad 2(2) yn estyn y ddyletswydd honno i unrhyw feddiannydd eiddo domestig yng Nghymru. Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd honno yn agored i gosbau, yn ôl adran 34(6) o Ddeddf 1990.
Mae rheoliad 3(1) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 2(2) o Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992(8).
Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi'i baratoi ac mae ar gael o Is-adran yr Amgylchedd — Diogelu ac Ansawdd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
O.S. 1992/588, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.J. Rhif L194, 25.7.1975, t.39 (fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/156/EEC (O.J. Rhif L78, 26.3.1991, t. 32), 91/692/EEC (O.J. Rhif L377, 31.12.1991, t.48 (fel y'i cywirwyd drwy Gorigendwm, O.J. Rhif L146, 13.6.2003, t.52)), Penderfyniad y Comisiwn 96/350/EEC (O.J. Rhif L135, 6.6.1996, t.32) a Rheoliad (EC) Rhif 1882/2003 (O.J. Rhif L284, 31.10.2003 t.1 )).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys