Gorchymyn Cynllun Pensiwn Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2006

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2006.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 23 Mehefin 2006 ond—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r diwygiadau a nodir yn Atodlen 1 yn effeithiol ers 11 Tachwedd 2004; a

(b)mae'r diwygiadau a nodir yn Atodlen 2 yn effeithiol ers 5 Rhagfyr 2005.

(3Mae'r diwygiadau canlynol a nodir yn Atodlen 1 yn effeithiol fel a ganlyn—

(a)mae'r diwygiadau canlynol yn effeithiol o 23 Mehefin 2006 ymlaen—

(i)y diwygiadau a wneir gan baragraff 9, i'r graddau y mae'n ymwneud â rheol A13 (sy'n ymwnud ag oedran pensiwn arferol); a chan baragraff 15(a)(iii), (b)(ii), (c) ac (ch) (sy'n ymwneud â phensiynau gohiriedig); a

(ii)y diwygiadau a wneir gan baragraff 7(a) a (b)(i), paragraff 75(ch), i'r graddau y mae'n ymwneud â mewnosod paragraffau (5) a (6) rheol L1, a pharagraffau 78, 79 ac 82(b) (sy'n ymwneud ag atal dyblygu dyfarniadau penodol);

(b)mae'r diwygiadau canlynol yn effeithiol ers 13 Medi 2004—

(i)y diwygiad a wneir gan baragraff 81(b) (sy'n ymwneud â'r diffiniad o “independent qualified medical practitioner”); a

(ii)y diwygiad a wneir gan baragraff 86(b)(ii)(aa) (sy'n ymwneud â'r gwasanaeth sy'n gyfrifadwy pan dderbynnir gwerth trosglwyddo); ac

(c)mae'r diwygiadau a wneir gan baragraffau 24 (sy'n ymwneud â chyfyngu ar ddyfarniadau i weddwon) a 25 (sy'n ymwneud â budd-dal angenrheidiol a phensiwn dros dro gweddwon) yn effeithiol ers 1 Mawrth 1992.

Parhau â Chynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) mewn grym a'i ddiwygio

2.—(1Mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân sydd wedi'i nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(1)(a ailenwyd mewn perthynas â Chymru yn Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru))(2) yn parhau mewn grym fel y'i diwygiwyd yn unol â'r Atodlenni i'r Gorchymyn hwn.

2.—(2At ddibenion y Cynllun a gedwir gan baragraff (1), mae darpariaethau adran 26, is-adrannau (1) i (5) o Ddeddf y Gwasanaethau Ta 246 n 1947 yn effeithiol fel pe rhoddid cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2006